Zephaniah Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Golygu cyffredinol (manion), replaced: annibynol → annibynnol , ac hefyd → a hefyd using AWB
Llinell 6: Llinell 6:
| image = Zephaniah Williams.jpg
| image = Zephaniah Williams.jpg
}}
}}
Un o arweinwyr [[Terfysg Casnewydd]] yn 1839 oedd '''Zephaniah Williams''' ([[1795]] - [[8 Mai]] [[1874]]). Yn enedigol o [[Argoed, Caerffili|Argoed]], [[Sir Fynwy]]. Cafodd peth addysg ac hefyd addysgodd ei hun, yn arbennig mewn daeareg. Yn 25ain oed priododd Joan. Roedd ganddo syniadau radical cryf. daeth yn golier ac wedyn yn brif golier a byddai yn talu ei lowyr yn y dafarn yr oedd yn ei gadw, sef y Royal Oak, yn [[Nantyglo]].
Un o arweinwyr [[Terfysg Casnewydd]] yn 1839 oedd '''Zephaniah Williams''' ([[1795]] - [[8 Mai]] [[1874]]). Yn enedigol o [[Argoed, Caerffili|Argoed]], [[Sir Fynwy]]. Cafodd peth addysg a hefyd addysgodd ei hun, yn arbennig mewn daeareg. Yn 25ain oed priododd Joan. Roedd ganddo syniadau radical cryf. daeth yn golier ac wedyn yn brif golier a byddai yn talu ei lowyr yn y dafarn yr oedd yn ei gadw, sef y Royal Oak, yn [[Nantyglo]].


== Siartwyr ==
== Siartwyr ==
Dyn annibynol ei farn, oedd Zephaniah Williams, ac roedd yn cynnal cyfarfodydd 'Cymdeithas y Gweithwyr' yn ei gartref. Daeth yn arweinydd naturiol i ymgyrch y [[siartwyr]] yn Ne Cymru.
Dyn annibynnol ei farn, oedd Zephaniah Williams, ac roedd yn cynnal cyfarfodydd 'Cymdeithas y Gweithwyr' yn ei gartref. Daeth yn arweinydd naturiol i ymgyrch y [[siartwyr]] yn Ne Cymru.


== Terfysg Casnewydd ==
== Terfysg Casnewydd ==

Fersiwn yn ôl 13:36, 11 Medi 2018

Zephaniah Williams
Ganwyd1795 Edit this on Wikidata
Argoed Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mai 1874 Edit this on Wikidata
Launceston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethglöwr Edit this on Wikidata

Un o arweinwyr Terfysg Casnewydd yn 1839 oedd Zephaniah Williams (1795 - 8 Mai 1874). Yn enedigol o Argoed, Sir Fynwy. Cafodd peth addysg a hefyd addysgodd ei hun, yn arbennig mewn daeareg. Yn 25ain oed priododd Joan. Roedd ganddo syniadau radical cryf. daeth yn golier ac wedyn yn brif golier a byddai yn talu ei lowyr yn y dafarn yr oedd yn ei gadw, sef y Royal Oak, yn Nantyglo.

Siartwyr

Dyn annibynnol ei farn, oedd Zephaniah Williams, ac roedd yn cynnal cyfarfodydd 'Cymdeithas y Gweithwyr' yn ei gartref. Daeth yn arweinydd naturiol i ymgyrch y siartwyr yn Ne Cymru.

Terfysg Casnewydd

Arweiniodd torf o ddynion o ardal Nantyglo i lawr i Gasnewydd, ac at Westy'r Westgate ble roedd rhai o hoelion wyth y siartwyr wedi eu dal gan dros 30 o filwyr. Ei gyd-arweinwyr oedd John Frost a William Jones (Siartydd). Yn ôl rhai haneswyr, dyma'r gwrthryfel mwyaf a chryfaf yng ngwledydd Prydain yn y 19g.[1].

Alltudiaeth i Awstralia

Cafodd ef a'r ddau arweinydd arall eu dedfrydu i'w crogi a'i chwarteru ar 16eg o Ionawr 1840, ond ar ôl protest gryf iawn, newidiwyd hyn i alltudiaeth i Van Diemen's Land (Tasmania, heddiw) yn Awstralia.

Gwneud ei ffortiwn

Ar un cyfnod, gwyddom iddo gynllunio i ddianc o'r cyfandir ond cafodd bardwn amodol yn 1854 yn gadael iddo fyw unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Penderfynodd aros yn Tasmania a daeth ei wraig a'i blant i fyw gyda fe. Wrth ddarganfod glo a'i fwyngloddio gwnaeth ffortiwn wrth sefydlu masnach lo Tasmania.

Bu farw'n ŵr cefnog iawn yn Launceston, Tasmania ym Mai, 1874.

Ffynonellau

  1. Edward Royal, Chartism, Longman, London: 1996

Dolenni allanol