Bryncir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B tacluso
os
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Bryncir''' yn bentref yn [[Eifionydd]], [[Gwynedd]]. Saif ar y briffordd [[A487]] rhwng [[Pant Glas]] a [[Dolbenmaen]], gyda [[Garndolbenmaen]] ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw [[Afon Dwyfach]].
Mae '''Bryncir''' yn bentref yn [[Eifionydd]], [[Gwynedd]]; Cyfeirnod OS: SH 48120 44837. Saif ar y briffordd [[A487]] rhwng [[Pant Glas]] a [[Dolbenmaen]], gyda [[Garndolbenmaen]] ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw [[Afon Dwyfach]].


[[Delwedd:Bryncir.jpg|250px|bawd|Bryncir]]
[[Delwedd:Bryncir.jpg|250px|bawd|Bryncir]]

Fersiwn yn ôl 23:06, 30 Awst 2009

Mae Bryncir yn bentref yn Eifionydd, Gwynedd; Cyfeirnod OS: SH 48120 44837. Saif ar y briffordd A487 rhwng Pant Glas a Dolbenmaen, gyda Garndolbenmaen ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw Afon Dwyfach.

Delwedd:Bryncir.jpg
Bryncir

Gellir gweld nifer o hynafiaethau yn yr ardal, yn cynnwys caer Rufeinig ym Mhen Llystyn, lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r 6ed ganrif gydag arysgrif mewn Lladin ac Ogam. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin Cymru, ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.

Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda canolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllaw Golan.

Mae llwybr Cenedlaethol Lôn Las Cymru yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adran Lôn Eifion, ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.

Llyfryddiaeth

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO). Gw: Pen Llystyn. ISBN: 0-11-701574-1

Dolenni allanol