Valens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn newid: ru:Валент II
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: pt:Valente (imperador romano); cosmetic changes
Llinell 1: Llinell 1:
[[Image:Valens1.jpg|bawd|250px|Valens ar ddarn arian]]
[[Delwedd:Valens1.jpg|bawd|250px|Valens ar ddarn arian]]


[[Rhestr ymerodron Rhufeinig|Ymerawdwr Rhufeinig]] oedd '''Flavius Iulius Valens''' ([[Lladin]]: <small>IMPERATOR CAESAR FLAVIVS IVLIVS VALENS AVGVSTVS</small>; [[328]] - [[9 Awst]], [[378]]).
[[Rhestr ymerodron Rhufeinig|Ymerawdwr Rhufeinig]] oedd '''Flavius Iulius Valens''' ([[Lladin]]: <small>IMPERATOR CAESAR FLAVIVS IVLIVS VALENS AVGVSTVS</small>; [[328]] - [[9 Awst]], [[378]]).


Ganed ef yn Cibalae ([[Vinkovci]] yn [[Serbia]] heddiw) yn fab i [[Gratian yr Hynaf]]. Credir iddo ymuno a'r fyddin yn y 360au, gan gymeryd rhan gyda'i frawd [[Valentinian I|Flavius Valentinianus]] yn ymgyrch yr ymerawdwr [[Julian]] yn erbyn y [[Persia|Persiaid]].
Ganed ef yn Cibalae ([[Vinkovci]] yn [[Serbia]] heddiw) yn fab i [[Gratian yr Hynaf]]. Credir iddo ymuno a'r fyddin yn y 360au, gan gymeryd rhan gyda'i frawd [[Valentinian I|Flavius Valentinianus]] yn ymgyrch yr ymerawdwr [[Julian]] yn erbyn y [[Persia]]id.


Pan lofruddwiyd yr ymerawdwr [[Jovianus]], cyhoeddwyd Valentinianus yn Augustus ar [[26 Chwefror]] 364. Cyhoeddodd yntau ei frawd Valens yn gyd-ymerawdwr ar [[28 Mawrth]]. Rhoddwyd rhan ddwyreiniol yr ymerodraeth iddo i'w llywodraethu. Bu raid iddo ddelio ag ymgais gan berthynas i'r ymerawdwr Julian, Procopius, i hawlio'r orsedd, a dim ond yn [[366]] y gallodd Valens ei orchfygu a'i ddienyddio.
Pan lofruddwiyd yr ymerawdwr [[Jovianus]], cyhoeddwyd Valentinianus yn Augustus ar [[26 Chwefror]] 364. Cyhoeddodd yntau ei frawd Valens yn gyd-ymerawdwr ar [[28 Mawrth]]. Rhoddwyd rhan ddwyreiniol yr ymerodraeth iddo i'w llywodraethu. Bu raid iddo ddelio ag ymgais gan berthynas i'r ymerawdwr Julian, Procopius, i hawlio'r orsedd, a dim ond yn [[366]] y gallodd Valens ei orchfygu a'i ddienyddio.
Llinell 42: Llinell 42:
[[no:Valens]]
[[no:Valens]]
[[pl:Walens]]
[[pl:Walens]]
[[pt:Valente (Bizâncio)]]
[[pt:Valente (imperador romano)]]
[[ro:Valens]]
[[ro:Valens]]
[[ru:Валент II]]
[[ru:Валент II]]

Fersiwn yn ôl 18:39, 29 Awst 2009

Valens ar ddarn arian

Ymerawdwr Rhufeinig oedd Flavius Iulius Valens (Lladin: IMPERATOR CAESAR FLAVIVS IVLIVS VALENS AVGVSTVS; 328 - 9 Awst, 378).

Ganed ef yn Cibalae (Vinkovci yn Serbia heddiw) yn fab i Gratian yr Hynaf. Credir iddo ymuno a'r fyddin yn y 360au, gan gymeryd rhan gyda'i frawd Flavius Valentinianus yn ymgyrch yr ymerawdwr Julian yn erbyn y Persiaid.

Pan lofruddwiyd yr ymerawdwr Jovianus, cyhoeddwyd Valentinianus yn Augustus ar 26 Chwefror 364. Cyhoeddodd yntau ei frawd Valens yn gyd-ymerawdwr ar 28 Mawrth. Rhoddwyd rhan ddwyreiniol yr ymerodraeth iddo i'w llywodraethu. Bu raid iddo ddelio ag ymgais gan berthynas i'r ymerawdwr Julian, Procopius, i hawlio'r orsedd, a dim ond yn 366 y gallodd Valens ei orchfygu a'i ddienyddio.

Bu Valens yn ymladd yn erbyn y Gothiaid ac yn erbyn y Persiaid. Roedd yn cynllunio ymgyrch yn y dwyrain pan symudodd nifer fawr o Fisigothiaid i mewn i'r ymerodraeth yn Moesia a of Dacia oherwydd fod yr Hyniaid yn ymosod arnynt. Ar y cyntaf fe'u derbyniwyd yn heddychlon, ond yn fuan dechreuodd ymladd. Enillodd y Gothiaid nifer o frwydrau lleol, ac yn 378 daeth Valens ei hun i'w gwrthwynebu. Roedd ei nai, Gratian, oedd wedi olynu Valentinianus, ar y ffordd gyda byddin i gynorthwyo, ond mynnodd Valens ymladd cyn iddo gyrraedd. Ym Mrwydr Adrianople ar 9 Awst 378, gorchfygwyd ef gan y Gothiaid a'u cyngheiriaid a'i ladd. Olynwyd ef gan Theodosius I.

Gwnanychwyd yr ymerodareth Rufeinig yn fawr gan ei cholledion ym Mrwydr Adrianople. Canlyniad arall y frwydr a marwolaeth Valens oedd gwanhau Ariadaeth yn yr ymerodraeth; roedd Valens yn Ariad ond roedd ei olynwyr yn dilyn Credo Nicea.