Peiriant ager: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
||
*[[Injan stêm]] (math o [[trên|drên) |
*[[Injan stêm]] (math o [[trên|drên]]) |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 14:49, 28 Awst 2009
Peiriant ager yw unrhyw beiriant sy'n defnyddio ager (neu 'stêm') fel pŵer. Daeth y peiriannau hyn yn arbennig o bwysig tua diwedd y 18fed ganrif ac yn ystod yn 19eg ganrif.
Ceir cofnod am beiriant ager tua 80 OC, peiriant a elwid yr aeolipile a ddisgrifir gan Hero o Alexandria. Nid oes cofnod i beiriant ager gael ei ddefnyddio ar gyfer pwrpas ymarferol yn y cyfnod yma, fodd bynnag. Yn 1712 datblygodd Thomas Newcomen beiriant ager y gellid ei ddefnyddio, er enghraifft mewn mwyngloddiau. Datblygwyd y peiriant gan James Watt, a gynhyrchodd beiriant oedd yn defnyddio 75% yn llai o lo i gynhyrchu'r ager na pheiriant Newcomen, ac y gellid ei ddefnyddio i redeg peiriannau ffatrioedd diwydiannol. Cafodd hyn ddylanwad aruthrol ar ddatblygiad y Chwyldro Diwydiannol.
Dangosodd y peiriannydd Trevithick y gellid defnyddio peiriant ager (neu injian stem) i dynnu tren rheilffordd. Gwnaeth hyn ar dramffordd Pen y Darren. Defnyddid injenni stem ar Reilffordd Stockton a Darlington ond y Roced (Rocket) a enillodd Cystadleuaeth Rainhill oedd yr injian a ddangosodd wir botensial y peiriant. Un o nodweddion yr injian hon oedd bwyler gyda nifer o diwbiau tan i hwyluso berwi dwr y bwyler.
Erbyn dechrau'r 19eg ganrif, roedd peiriannau ager wedi dod yn bwysig mewn trafnidiaeth, ar gyfer trenau a llongau. Erbyn hyn, mae llai o ddefnydd arnynt, ond mae ymchwil yn parhau ar dechnoleg peiriannau ager. Er enghraifft, defnyddir pwer yr haul yn Sbaen wedi'i ffocysu ar beiriant ager mawr, a hwnnw yn ei dro'n roi tyrbein ac yn creu trydan.[1]
Gweler hefyd
- Injan stêm (math o drên)