Cassandra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: es:Casandra |
B robot yn tynnu: sk:Kassandra |
||
Llinell 42: | Llinell 42: | ||
[[sh:Kasandra]] |
[[sh:Kasandra]] |
||
[[simple:Kassandra]] |
[[simple:Kassandra]] |
||
[[sk:Kassandra]] |
|||
[[sr:Касандра (митологија)]] |
[[sr:Касандра (митологија)]] |
||
[[sv:Kassandra]] |
[[sv:Kassandra]] |
Fersiwn yn ôl 05:51, 28 Awst 2009
Cymeriad ym Mytholeg Groeg oedd Cassandra (Groeg: Kασσάνδρα), hefyd Alexandra. Roedd yn ferch i Priam, brenin Caerdroea a'i wraig Hecuba.
Roedd ganddi'r ddawn o broffwydo'r dyfodol. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl, treuliodd hi a'i brawd Helenus moson yn nheml Apollo, a llyfodd y nadroedd yn y deml ei chlustiau yn lân, fel y gallai glywed y dyfodol. Syrthiodd Apollo mewn cariad a hi, ond pan na ddychwelodd Cassandra ei gariad, rhoddodd felltith arni: y byddai bob amser yn proffwydo'r dyfodol yn gywir, ond na fyddai neb byth yn ei chredu.
Proffwydodd Cassandra ddinistr Caerdoea yn Rhyfel Caerdroea, a rhybuddiodd am ystryw Ceffyl Pren Caerdroea, ond ni chredwyd hi a syrthiodd y ddinas. Credai ei theulu ei bod yn orffwyll. Wedi cwymp y ddinas, rheibiwyd hi gan Aiax y Lleiaf; yna cymerodd Agamemnon hi yn ordderch. Llofruddiwyd Cassandra ac Agamemnon gan Clytemnestra, gwriag Agamemnon, a chariad Clytemnestra, Aegisthus, wedi i Agamemnon anwybyddu rhybudd Cassandra.