Gorsedd Beirdd Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10: Llinell 10:
Er mai dyfais ddi-sail oedd yr Orsedd yn wreiddiol, a phrofwyd hynny gan yr Athro G.J. Williams, y mae yn rhan annatod o seremonïau [[Eisteddfod Gadeiriol Môn]].
Er mai dyfais ddi-sail oedd yr Orsedd yn wreiddiol, a phrofwyd hynny gan yr Athro G.J. Williams, y mae yn rhan annatod o seremonïau [[Eisteddfod Gadeiriol Môn]].
Ymddangosai fersiwn o’r Orsedd yn eisteddfodau cynnar Môn ond sefydlwyd Cymdeithas Gorsedd Beirdd Môn yn [[1920]], yn Eisteddfod Gadeiriol Môn [[Llannerch-y-medd]] <ref>{{Cite book|title=Clorianydd|last=|first=|publisher=|year=11 Mehefin 1919|isbn=|location=|pages=}}</ref>.
Ymddangosai fersiwn o’r Orsedd yn eisteddfodau cynnar Môn ond sefydlwyd Cymdeithas Gorsedd Beirdd Môn yn [[1920]], yn Eisteddfod Gadeiriol Môn [[Llannerch-y-medd]] <ref>{{Cite book|title=Clorianydd|last=|first=|publisher=|year=11 Mehefin 1919|isbn=|location=|pages=}}</ref>.
Cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion a phobl nodedig eraill o fyd diwylliannol yr ynys yw Gorsedd Beirdd Môn a’r aelodau yn perthyn i dair carfan wahanol:
Derwyddon-gwisg wen.
Derwyddon-gwisg wen.
Beirdd a Llenorion-gwisg las.
Beirdd a Llenorion-gwisg las.

Fersiwn yn ôl 13:53, 3 Medi 2018

Cymdeithas o feirdd, llenorion, cerddorion a phobl nodedig eraill y byd diwylliannol Cymraeg yn Ynys Môn yw Gorsedd Beirdd Ynys Môn.

Hanes Gorsedd y Beirdd

Cynhaliwyd yr eisteddfod gynharaf yn 1176, pan gynhaliodd yr Arglwydd Rhys gyfarfod cystadleuol o feirdd, cerddorion a pherfformwyr yn ei gastell yn Aberteifi. Ond nid tan y 18fed a'r 19eg ganrif y bu'r eisteddfod mewn ffurf y gellir ei hadnabod fel rhagflaenydd i'r Eisteddfod Genedlaethol fodern. Sefydlwyd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1792 gan Edward Williams 1747-1826) a chynhaliwyd seremoni gyntaf yr Orsedd honno ar Fryn Briallu (Primrose Hill), Llundain ar 21 Mehefin 1792. Cynhaliwyd yr Orsedd gyntaf yng Nghymru yn 1795 ac ymddangosiad cyntaf yr Orsedd mewn eisteddfod oedd yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg (Ivy Bush), Caerfyrddin yn 1819. Dechreuodd cysylltiad yr Orsedd â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yn 1860.

Blynyddoedd cynnar

Tyfodd a datblygodd yr Orsedd fel ei bod bellach yn rhan o ddiwylliant Cernyweg, Llydaweg, y Wladfa ym Mhatagonia ac mae iddi gysylltiadau a’r Mod (Am Mòd Nàiseanta Rìoghail) yn Yr Alban a’r Oireachtas (Orieachtas na Gaeilge) yn yr Iwerddon. Gwelir fersiwn ohoni mewn sawl eisteddfod drwy Gymru. Er mai dyfais ddi-sail oedd yr Orsedd yn wreiddiol, a phrofwyd hynny gan yr Athro G.J. Williams, y mae yn rhan annatod o seremonïau Eisteddfod Gadeiriol Môn. Ymddangosai fersiwn o’r Orsedd yn eisteddfodau cynnar Môn ond sefydlwyd Cymdeithas Gorsedd Beirdd Môn yn 1920, yn Eisteddfod Gadeiriol Môn Llannerch-y-medd [1]. Derwyddon-gwisg wen. Beirdd a Llenorion-gwisg las. Ofyddion-gwisg werdd.

Llyfryddiaeth

  • Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Gadeiriol Môn ers 1920.
  • Hanes Gorsedd Y Beirdd. Geraint a Zonia Bowen. Cyhoeddiadau Barddas 1991.
  • The Eisteddfod. Hywel Teifi Edwards. University of Wales Press 2016.
  • Y Bywgraffiadur Cymreig. Welsh Biography Online on Culture Net Cymru

Cyfeiriadau

  1. Clorianydd. 11 Mehefin 1919.