William Chambers: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎William Chambers yr ieuaf, ei fab: Golygu cyffredinol (manion), replaced: ac hefyd → a hefyd using AWB
Llinell 4: Llinell 4:


==William Chambers yr ieuaf, ei fab==
==William Chambers yr ieuaf, ei fab==
Ganwyd William Chambers yr ieuaf yn [[Valenciennes]], [[Ffrainc]], a derbyniodd ef ei addysg yn [[Coleg Eton|Eton]] a [[Coleg Sant Ioan, Caergrawnt|Choleg Sant Ioan, Caergrawnt]] rhwng 1826 a 1828. Bu'n un o sylfaenwyr y ''Llanelly Reform Society'' yn 1839, ac er ei fod yn ynad ar y pryd, bu gydag arweinwyr y mudiad protest yn ystod cyfarfod '[[Helyntion Beca|Merched Becca]]' ar Fynydd Sylen ar 25 Awst 1843, ac hefyd gyda'r rhai fu'n arestio rhai o'r arweinwyr pan ymosodwyd ar dollborth a chlwydi ardal [[Pontarddulais]] ar 6 Medi 1843. Dialwyd arno gan y terfysgwyr yr adeg honno. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1849, cyflwynodd dystiolaeth bwysig i'r comisiynwyr addysg, ac erbyn 1850 fe'i penodwyd yn gadeirydd cyntaf Bwrdd Iechyd Llanelli. Prynodd gartref newydd o'r enw "Hafod" yn 1853, a gwerthodd y tŷ ychydig cyn iddo farw.
Ganwyd William Chambers yr ieuaf yn [[Valenciennes]], [[Ffrainc]], a derbyniodd ef ei addysg yn [[Coleg Eton|Eton]] a [[Coleg Sant Ioan, Caergrawnt|Choleg Sant Ioan, Caergrawnt]] rhwng 1826 a 1828. Bu'n un o sylfaenwyr y ''Llanelly Reform Society'' yn 1839, ac er ei fod yn ynad ar y pryd, bu gydag arweinwyr y mudiad protest yn ystod cyfarfod '[[Helyntion Beca|Merched Becca]]' ar Fynydd Sylen ar 25 Awst 1843, a hefyd gyda'r rhai fu'n arestio rhai o'r arweinwyr pan ymosodwyd ar dollborth a chlwydi ardal [[Pontarddulais]] ar 6 Medi 1843. Dialwyd arno gan y terfysgwyr yr adeg honno. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1849, cyflwynodd dystiolaeth bwysig i'r comisiynwyr addysg, ac erbyn 1850 fe'i penodwyd yn gadeirydd cyntaf Bwrdd Iechyd Llanelli. Prynodd gartref newydd o'r enw "Hafod" yn 1853, a gwerthodd y tŷ ychydig cyn iddo farw.


== Ffynonellau ==
== Ffynonellau ==

Fersiwn yn ôl 14:38, 2 Medi 2018

Diwydiannwr a gŵr cyhoeddus oedd William Chambers (1774 – 9 Chwefror 1855).

Ganwyd ef yn Llundain, a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt o 1792, lle cafodd radd BA yn 1795 ac MA yn 1800. Trwy garedigrwydd neu gysylltiadau teuluol, etifeddodd William ystâd Syr John Stepney, De Cymru, ar 18 Rhagfyr 1824, a daeth i fyw i Blas Llanelli, yn agos at eglwys y plwyf. Erbyn 1828, ef oedd uchel Siryf Sir Gaerfyrddin, a chyda cyd-weithrediad ei fab William Chambers yr ieuaf (1809–1882), profodd lwyddiant sylweddol o fewn diwydiant, drwy sefydlu'r South Wales Pottery yn 1840 gyda $10,000. Bu farw ar 9 Chwefror 1855 yn Llanelli.

William Chambers yr ieuaf, ei fab

Ganwyd William Chambers yr ieuaf yn Valenciennes, Ffrainc, a derbyniodd ef ei addysg yn Eton a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt rhwng 1826 a 1828. Bu'n un o sylfaenwyr y Llanelly Reform Society yn 1839, ac er ei fod yn ynad ar y pryd, bu gydag arweinwyr y mudiad protest yn ystod cyfarfod 'Merched Becca' ar Fynydd Sylen ar 25 Awst 1843, a hefyd gyda'r rhai fu'n arestio rhai o'r arweinwyr pan ymosodwyd ar dollborth a chlwydi ardal Pontarddulais ar 6 Medi 1843. Dialwyd arno gan y terfysgwyr yr adeg honno. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach, yn 1849, cyflwynodd dystiolaeth bwysig i'r comisiynwyr addysg, ac erbyn 1850 fe'i penodwyd yn gadeirydd cyntaf Bwrdd Iechyd Llanelli. Prynodd gartref newydd o'r enw "Hafod" yn 1853, a gwerthodd y tŷ ychydig cyn iddo farw.

Ffynonellau

  • D. Bowen, Hanes Llanelli, 1857;
  • Burke's Landed Gentry, arg. 1871 (am y llinach);
  • Bye-Gones, relating to Wales and the Border Counties, 1882, t. 43;
  • Arthur Mee, Llanelly Parish Church, its history and records, with notes relating to the town, Llanelli, 1888;
  • John Innes, Old Llanelly, Caerdydd, 1902;
  • The Carmarthen Antiquary, 1943–44, tt. 21–63;
  • Venn, Alumni Cantabrigienses, 1944