Titanic (ffilm 1997): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
Dechreuodd y broses gynhyrchu ym [[1995 mewn ffilm|1995]], pan ffilmiodd Cameron ffilm go iawn o'r hyn sydd ar ôl o'r Titanic gwreiddiol. Dychmygodd stori gariad fel modd o ddenu'r gynulleidfa at y drychineb go iawn. Dechreuodd y ffilmio yn yr Akademik Mstislav Keldysh - a gynorthwyodd Cameron i ffilmio'r drylliad gwreiddiol - ar gyfer y golygfeydd cyfoes, ac adeiladwyd ail-grëad o'r llong yn [[Playas de Rosarito]], Baja Califfornia. Defnyddiodd Cameron fodelau i raddfa a delweddaeth gyfrifiadurol i ail-greu'r llong-ddrylliad. Ar y pryd, Titanic oedd y ffilm ddrutaf i gael ei chreu erioed, yn costio tua $200 miliwn UDA gyda chyllid wrth [[Paramount Pictures]] a [[20th Century Fox]]. Aeth y ddau gwmni bron yn fethdal yn ystod y broses cynhyrchu. |
Dechreuodd y broses gynhyrchu ym [[1995 mewn ffilm|1995]], pan ffilmiodd Cameron ffilm go iawn o'r hyn sydd ar ôl o'r Titanic gwreiddiol. Dychmygodd stori gariad fel modd o ddenu'r gynulleidfa at y drychineb go iawn. Dechreuodd y ffilmio yn yr Akademik Mstislav Keldysh - a gynorthwyodd Cameron i ffilmio'r drylliad gwreiddiol - ar gyfer y golygfeydd cyfoes, ac adeiladwyd ail-grëad o'r llong yn [[Playas de Rosarito]], Baja Califfornia. Defnyddiodd Cameron fodelau i raddfa a delweddaeth gyfrifiadurol i ail-greu'r llong-ddrylliad. Ar y pryd, Titanic oedd y ffilm ddrutaf i gael ei chreu erioed, yn costio tua $200 miliwn UDA gyda chyllid wrth [[Paramount Pictures]] a [[20th Century Fox]]. Aeth y ddau gwmni bron yn fethdal yn ystod y broses cynhyrchu. |
||
Bwriadwyd rhyddhau'r ffilm yn wreiddiol ar yr [[2 Gorffennaf|2il o Orffennaf]], [[1997 mewn ffilm|1997]], ond roedd yr oedi ôl-gynhyrchu wedi golygu na chafodd y ffilm ei rhyddhau tan [[19 Rhagfyr]] [[1997 mewn ffilm|1997]]. Daeth y ffilm yn |
Bwriadwyd rhyddhau'r ffilm yn wreiddiol ar yr [[2 Gorffennaf|2il o Orffennaf]], [[1997 mewn ffilm|1997]], ond roedd yr oedi ôl-gynhyrchu wedi golygu na chafodd y ffilm ei rhyddhau tan [[19 Rhagfyr]] [[1997 mewn ffilm|1997]]. Daeth y ffilm yn llwyddiant beirniadaol a masnachol enfawr, gan ennill unarddeg o [[Gwobrau'r Academi|Wobrau'r Academi]], gan gynnwys y Ffilm Orau. Y ffilm hon yw'r ffilm a wnaeth fwyaf o arian erioed, gan wneud cyfanswm o $1.8 biliwn. |
||
== Cymeriadau == |
== Cymeriadau == |
Fersiwn yn ôl 16:30, 1 Medi 2018
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | James Cameron |
Cynhyrchydd | Jon Landau James Cameron |
Ysgrifennwr | James Cameron |
Serennu | Leonardo DiCaprio Kate Winslet Billy Zane Frances Fisher Victor Garber |
Cerddoriaeth | James Horner |
Sinematograffeg | Russell Carpenter |
Golygydd | Conrad Buff James Cameron Richard A. Harris |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Yn rhyngwladol 20th Century Fox UDA/Canada Paramount Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 19 Rhagfyr, 1997 |
Amser rhedeg | 194 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Gwefan swyddogol | |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Ffilm ramantaidd Americanaidd gan y cyfarwyddwr James Cameron yw Titanic (1997). Mae'n serennu Leonardo DiCaprio fel Jack Dawson a Kate Winslet fel Rose DeWitt Bukater, dau berson o ddosbarthiadau cymdeithasol gwahanol iawn sy'n cwympo mewn cariad ar fordaith anffortunus y llong. Mae'r prif gymeriadau a'r llinnyn stori ramantaidd sy'n ganolog i'r ffilm yn ffuglennol, ond mae rhai cymeriadau (fel aelodau o griw'r llong) yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol. Adroddir y stori gan Gloria Stuart, sy'n chwarae rhan Rose pan yn hen wraig.
Dechreuodd y broses gynhyrchu ym 1995, pan ffilmiodd Cameron ffilm go iawn o'r hyn sydd ar ôl o'r Titanic gwreiddiol. Dychmygodd stori gariad fel modd o ddenu'r gynulleidfa at y drychineb go iawn. Dechreuodd y ffilmio yn yr Akademik Mstislav Keldysh - a gynorthwyodd Cameron i ffilmio'r drylliad gwreiddiol - ar gyfer y golygfeydd cyfoes, ac adeiladwyd ail-grëad o'r llong yn Playas de Rosarito, Baja Califfornia. Defnyddiodd Cameron fodelau i raddfa a delweddaeth gyfrifiadurol i ail-greu'r llong-ddrylliad. Ar y pryd, Titanic oedd y ffilm ddrutaf i gael ei chreu erioed, yn costio tua $200 miliwn UDA gyda chyllid wrth Paramount Pictures a 20th Century Fox. Aeth y ddau gwmni bron yn fethdal yn ystod y broses cynhyrchu.
Bwriadwyd rhyddhau'r ffilm yn wreiddiol ar yr 2il o Orffennaf, 1997, ond roedd yr oedi ôl-gynhyrchu wedi golygu na chafodd y ffilm ei rhyddhau tan 19 Rhagfyr 1997. Daeth y ffilm yn llwyddiant beirniadaol a masnachol enfawr, gan ennill unarddeg o Wobrau'r Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau. Y ffilm hon yw'r ffilm a wnaeth fwyaf o arian erioed, gan wneud cyfanswm o $1.8 biliwn.
Cymeriadau
- Jack Dawson - Leonardo DiCaprio
- Rose DeWitt Bukater - Kate Winslet
- Hen Rose - Gloria Stuart
- Cal Hockley - Billy Zane
- Brock Lovett - Bill Paxton
- Ruth DeWitt Bukater (Mam Rose) - Frances Fisher
- Margaret Brown - Kathy Bates
- Capten Edward Smith - Bernard Hill
- Thomas Andrews, Jr. - Victor Garber
- Joseph Ismay - Jonathan Hyde
- Fabrizio De Rossi - Danny Nucci
|