Thomas James Powell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Gwybodlen: ychwanegu Draig Goch using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Bywgraffiad: Golygu cyffredinol (manion), replaced: Cymrodd → Cymerodd using AWB
Llinell 9: Llinell 9:
Roedd Powell yn enwog am gyfansoddi gorymdeithiau i fandiau pres gyda'r rhai mwyaf enwog yn cael eu henwi ar ôl cestyll Cymru - ''Castell Coch'', ''Castell Caerdydd'', ''Castell Caerffili'' a ''Caernarfon Castle'', gafodd ei chyfansoddi ym 1958 wedi i'r [[Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig|Frenhines]] gyhoeddi arwisgiad [[Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru|Y Tywysog Siarl]]. Mae Powell yn cael ei gymharu â [[John Phillip Sousa]], cyfansoddwr o America sydd hefyd yn enwog am ei orymdeithiau<ref name="brassbandresults">{{cite web |url=http://brassbandresults.co.uk/composers/t-j-powell/ |title=Composers: TJ Powell |published=BrassBandResults}}</ref>, gan ddwyn y teitl answyddgol; y ''Sousa Cymreig''.
Roedd Powell yn enwog am gyfansoddi gorymdeithiau i fandiau pres gyda'r rhai mwyaf enwog yn cael eu henwi ar ôl cestyll Cymru - ''Castell Coch'', ''Castell Caerdydd'', ''Castell Caerffili'' a ''Caernarfon Castle'', gafodd ei chyfansoddi ym 1958 wedi i'r [[Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig|Frenhines]] gyhoeddi arwisgiad [[Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru|Y Tywysog Siarl]]. Mae Powell yn cael ei gymharu â [[John Phillip Sousa]], cyfansoddwr o America sydd hefyd yn enwog am ei orymdeithiau<ref name="brassbandresults">{{cite web |url=http://brassbandresults.co.uk/composers/t-j-powell/ |title=Composers: TJ Powell |published=BrassBandResults}}</ref>, gan ddwyn y teitl answyddgol; y ''Sousa Cymreig''.


Bu farw TJ Powell yn 67 mlwydd oed yn fyw ar raglen radio ''Challenging Brass'', BBC Radio 4. Roedd Powell ar fin arwain [[Band Pres Cory]] yn Stiwdio Gerddorfaol [[Caerdydd]] mewn cystadleuaeth yn erbyn Band Pres Luton, oedd mewn stiwdio yn [[Llundain]], ond wrth godi o'i sedd dioddefodd trawiad ar y galon. Cymrodd un o chwaraewr cornet Cory drosodd gyda'r baton a pharhaodd y band i chwarae, ond bu farw Powell cyn gadael y stiwdio<ref name="melingriffith" />.
Bu farw TJ Powell yn 67 mlwydd oed yn fyw ar raglen radio ''Challenging Brass'', BBC Radio 4. Roedd Powell ar fin arwain [[Band Pres Cory]] yn Stiwdio Gerddorfaol [[Caerdydd]] mewn cystadleuaeth yn erbyn Band Pres Luton, oedd mewn stiwdio yn [[Llundain]], ond wrth godi o'i sedd dioddefodd trawiad ar y galon. Cymerodd un o chwaraewr cornet Cory drosodd gyda'r baton a pharhaodd y band i chwarae, ond bu farw Powell cyn gadael y stiwdio<ref name="melingriffith" />.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 16:25, 1 Medi 2018

Thomas James Powell
Ganwyd12 Hydref 1897 Edit this on Wikidata
Tredegar Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ionawr 1965 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd, cyfansoddwr, cerddolegydd Edit this on Wikidata

Cyfansoddwr ac addysgwr Cymreig oedd Thomas James "TJ" Powell (12 Hydref 18978 Ionawr 1965).

Bywgraffiad

Fe'i ganwyd yn Nhredegar, Blaenau Gwent a dechreuodd ei yrfa gerddodrol fel chwaraewr offerynau taro a chornet gyda Band Pres Iau Byddin yr Iachawdwriaeth. Powell oedd y chwaraewr ieuengaf i chwarae yn angladd sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth, Cadfridog William Booth ar 27 Awst 1912.[1][2]. Cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd â Band Tref Tredegar cyn ymuno â Band y Morfilwyr Brenhinol a pharhau â'i addysg cerddorol yn Ysgol Gerdd y Morfilwyr Brenhinol.

Ym 1920, dychwelodd i dde Cymru a chael ei benodi'n Gyfarwyddwr Cerdd ar Fand Corfflu Cadetiad a Gwirfoddolwyr Melingriffith yn Yr Eglwys Newydd. Gyda Powell yn arwain, dechreuodd Band Melingriffith wneud eu marc ar y byd bandiau pres gan godi o Ddosbarth "C" i Ddosbarth "A".

Roedd Powell yn enwog am gyfansoddi gorymdeithiau i fandiau pres gyda'r rhai mwyaf enwog yn cael eu henwi ar ôl cestyll Cymru - Castell Coch, Castell Caerdydd, Castell Caerffili a Caernarfon Castle, gafodd ei chyfansoddi ym 1958 wedi i'r Frenhines gyhoeddi arwisgiad Y Tywysog Siarl. Mae Powell yn cael ei gymharu â John Phillip Sousa, cyfansoddwr o America sydd hefyd yn enwog am ei orymdeithiau[3], gan ddwyn y teitl answyddgol; y Sousa Cymreig.

Bu farw TJ Powell yn 67 mlwydd oed yn fyw ar raglen radio Challenging Brass, BBC Radio 4. Roedd Powell ar fin arwain Band Pres Cory yn Stiwdio Gerddorfaol Caerdydd mewn cystadleuaeth yn erbyn Band Pres Luton, oedd mewn stiwdio yn Llundain, ond wrth godi o'i sedd dioddefodd trawiad ar y galon. Cymerodd un o chwaraewr cornet Cory drosodd gyda'r baton a pharhaodd y band i chwarae, ond bu farw Powell cyn gadael y stiwdio[1].

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "Band Melingriffith: T.J. Powell". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Conductors: Thomas James Powell". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Composers: TJ Powell". Unknown parameter |published= ignored (help)