Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Claudius"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 1 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
teipo
B (robot yn ychwanegu: mn:Клавдий)
(teipo)
'''Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus''' ([[1 Awst]] [[10 CC]] - [[13 Hydref]] [[54]]) ('''Tiberius Claudius Drusus Nero Germanicus''' cyn dod yn ymerawdwr) oedd pederyddpedwerydd ymerawdwr Rhufain. Bu'n ymeradwr o [[24 Ionawr]] [[41]] hyd ei farwolaeth. Ganed ef yn [[Lugdunum]] (dinas [[Lyon]] yn [[Ffrainc]] heddiw), yn fab i [[Nero Claudius Drusus|Drusus]] ac [[Antonia Minor]]. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf i gael ei eni tu allan i'r [[Yr Eidal|Eidal]].
 
Mae'n ymddangos fod Claudius yn dioddef o ryw fath o anabledd, ac o'r herwydd nid oedd ei deulu'n awyddus iddo gael gyrfa gyhoeddus. Pan fu farw [[Augustus]] yn [[14]] gofynnodd Claudius i'r ymerawdwr newydd, [[Tiberius]] am gael dechrau gyrfa gyhoeddus, ond ni chaniatawyd iddo. Cafodd fwy o amlygrwydd pan ddaeth [[Caligula]] yn ymerawdwr ar ôl marw Tiberius, ond dywedir fod Caligula yn hoffi cael hwyl am ei ben. Ar [[24 Ionawr]] [[41]], llofruddiwyd Caligula. Aeth Claudius i ymguddio, ond darganfuwyd ef gan rai o'r milwyr a'i gyhoeddi'n ymerawdwr.
6,582

golygiad

Llywio