Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eino81 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 602: Llinell 602:


::::Mi wnes. Doedd dim testun wedi'i ddileu. Rhyfedd iawn. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 22:17, 13 Awst 2009 (UTC)
::::Mi wnes. Doedd dim testun wedi'i ddileu. Rhyfedd iawn. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 22:17, 13 Awst 2009 (UTC)


==Translation of a short story==

Hi my friend!

I would like to request something from you. Yes, translation. I hope, it's not a bad thing for you. Some years ago I wrote a (really) short story about a lonely man (actually symbolized the Saami nation). I translated into some languages and I thought, it would be great to have it more, like also in Cymraeg. I made [[:hu:Szerkesztő:Eino81/Novellám számiul|this page]], the English translation is somewhere there. You can put the Cymraeg translation there (there is already a Scottish Gaelic verison, too). Thank you again! Sorry for my disturb... -[[:hu:User:Eino81]]

Fersiwn yn ôl 03:46, 14 Awst 2009

Croeso! Deb 21:34, 22 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Hi, I'm going to be lazy and write this in English.

I see that you uploaded a JPEG version of the logo for Cymdeithas yr Iaith. Generally jpeg isn't a very good image format for logos, line drawings etc, as it tends to make sharp edges go blurry -- it's really designed for photos. I've put it back to the SVG version that was there before. Regards, Alan012 20:20, 14 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Sorry, only just noticed that yours was red on white instead of white on red. I have no objection to this, but if you want this, could you use a non-lossy format please? If your graphics package won't write SVG, then PNG would be fine. (Faswn i erioed wedi gallu ysgrifennu honno yn Gymraeg!) Alan012 20:25, 14 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]


Thanks Alan012. The only problem is that the Cymdeithas yr Iaith Logo has always (and still is) a RED tongue on a white background - not the other way round. Diolch.

Prydeindod

Mae gennym erthygl Prydeindod. Dwi newydd ychwanegu dolen ati hi uwchben eich testun newydd yn Prydain Fawr. Alan012 05:17, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Ardderchog! Rwyt ti'n effro! Llywelyn lll 22:28, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

"Dyrchafiad"

Llongyfarchiadau, rwyt ti'n weinyddwr! Anatiomaros 22:04, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Ew Diolch. Mae'n rhaid i mi ddysgu'r manion rwan! a rhoi cabol du ar fy esgidiau! Llywelyn lll 22:31, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Diolch am y map

Diolch am roi'r map o'r Fro Gymraeg (1964) ar gomins a'i roi yn yr erthygl. Gyda llaw, Enaidmawr yw fy alter ego ar y wicipedia Saesneg (wnes i adael neges ar Sgwrs Y Fro Gymraeg yno). Anatiomaros 16:36, 20 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Problem uwchlwytho

S'mae, Llywelyn? Rhag ofn dy fod isio uwchlwytho ffeil, mae 'na nam yn y meddalwedd - dwi gadael nodyn yn Sgwrs:John Dee yn esbonio be di be. Anatiomaros 20:45, 9 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Patent

Sylwais dy fod wedi cychwyn ar erthygl o dan yr enw "patent", ond mae erthygl dan yr enw "breinlen" yn bodoli eisioes. Efallai byddech eisiau symud eich cynnwys i'r dudalen "breinlen" ac yna troi "patent" yn ail-gyfeiriad. Cofion, --Adam (Sgwrs) 15:00, 30 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Damio! Ti'n iawn! mi ai ati rwan, fedl coblyn! Llywelyn2000 18:43, 30 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Image

Hi, hope you don't mind me writing to you in English again.

Regarding your comment ("blincin llun ddim yn ymddangos"), here is a bit of an explanation.

It seems that you are trying to use an image which appears in the English Wikipedia. With such images, they may either be residing on Commons -- in which case the same filename will work automatically on any other Wikimedia project, including the Welsh Wicipedia -- or they may be on the English Wikipedia itself, in which case they would need to be uploaded here (or onto Commons) before they will be visible here. You can tell which is which by clicking on the image in the English Wikipedia; if it is an image from Commons then it will say so in the image description page.

Well, that's the technical side of things. But now for the reason why this particular image didn't work. The policy of Commons is that they will only host images that are under free licences, and in practice all images uploaded to the English Wikipedia under free licences get moved to Commons by bots. So the reason that this one has not been moved to Commons is that it is a non-free image, displayed on the basis of Fair use. In principle you could upload the same image here, and use it on the same basis -- but unfortunately, as far as I'm aware, within Wikimedia Foundation policy we are not able to make use of Fair Use on the Welsh Wicipedia because we don't yet have an Exemption Policy Doctrine (EDP), see here. There's a load of discussion related to this in the Caffi as regards the images from LlGC (see here), and Lloffiwr says that an EDP is being worked on, but it has since actually been finalised then I've missed the announcement.

Hope this explanation is of some help. Alan 17:49, 20 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Diolch i ti Alan. We need an EDP asap! Llywelyn2000 21:13, 21 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Hirlas Owain

Sut mae Llywelyn? Dwi newydd golygu Hirlas Owain. Ynglŷn a'r awgrym mai Cynddelw Brydydd Mawr yw'r awdur, yn ôl pob tebyg: yn y golygiad safonol, manwl iawn, yn y gyfres Beirdd y Tywysogion, lle mae'n cael ei dderbyn yn waith Owain Cyfeiliog, mae Gruffudd Aled Williams yn agrymu'r posiblrwydd ac yn gnweud dadl gref dros hynny, ac eto dydi pawb ddim yn derbyn y ddadl yn erbyn yr awduraeth draddodiadol. Dwi wedi diwygio'r frawddeg felly. Anatiomaros 20:20, 20 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Dilyn Peredur Lynch wnes i, gweler Gwyddoniadur Cymru. Ond waeth gen i prun, cyn belled bod y darllennydd yn deall bod amwysedd. Diolch i ti. Llywelyn2000 21:12, 21 Medi 2008 (UTC)[ateb]

symud tudalen

S'mae. Mi welais i dy fod di wedi symud tudalen gan gopïo'r testun i'r teitl newydd, ac wedyn yn newid y dudalen wreiddiol i dudalen ail-gyfeirio. Allet ti defnyddio'r botwn "golygu" yn ei le, os gweli di'n dda? Mae hon yn cadw hanes golygiadau'r erthygl yn well, sy'n gallu fod yn bwysig er mwyn cymharu fersiynau neu briodoli'r cyfraniadau. Hyd yn oed os mae'r dudalen "targed" yn bodoli eisoes fel tudalen ail-gyfeirio, mae'n well ei dileu ac wedyn symud y dudalen gyntaf na gwneud "cut and paste". Diolch yn fawr. Alan 11:00, 28 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Diolch i ti, mae'n gwneud synnwyr. Llywelyn2000 02:13, 3 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Acenion uwchben âêîôûŵŷ

Sylwais ar dudalen sgwrs erthygl nad oeddet yn siwr sut i'w cael. Lawrlwytha To Bach am ddim - mae'n ardderchog.--Ben Bore 09:49, 3 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Nag oeddwn yn Wici. Diolch am y ddolen: diddorol iawn! Llywelyn2000 13:26, 4 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

"Dynion wedi troi'n fleiddiaid"

Hawddamor, Lywelyn! Tybed ydy dy gopi o eiriadur yr Academi wrth dy benelin? Isio gwbod oeddwn i oes gan Bruce a Dafydd gynnig ar y gair werewolf? Y cwbl dwi wedi ffindio ydy'r dyfyniad uchod! (ON Dwi'n chwilio am enwau Cymraeg safonol cymeriadau "chwedlau Tylwyth Teg" hefyd, gw. Sgwrs:Charles Perrault). Cofion, Anatiomaros 20:54, 11 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Henffych rhen gyfaill! Werewolf yn ol Bruce ydy 'bleidd-ddyn' a 'bleidd-ddynion'. Ond dim ond 'bleidd-ferched' dwi'n eu nabod! Llywelyn2000 20:59, 11 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Ti'n lwcus! Diolch yn fawr am y wybodaeth, falla cawn ni erthygl cyn bo hir... Anatiomaros 21:03, 11 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Fitaminau

Henffych Llywelyn! Diolch am yr erthyglau gwyddonol dros y dyddiau dwetha 'ma. Dwi wedi creu'r categori newydd, Categori:Fitaminau, a symud y sgwrs yno hefyd. Efallai fod angen rhoi ambell un yn y categori newydd arall, Categori:Asidau, hefyd, ond dwi'n fawr o wyddonydd felly wna'i adael hynny iti benderfynu. Gyda llaw, gan fod is-gategoriau fel hyn gennym ni does dim isio rhoi'r erthyglau yn y categoriau mawr fel "Gwyddoniaeth", "Cemeg", "Bioleg" ayyb oni bai bod dim categori addas ar gael (rheol gyffredinol y system categorïo wici, sy'n gwneud synnwyr). Hwyl, Anatiomaros 20:46, 19 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Diolch An! Does dim angen categori neydd 'asidau' ar hyn o bryd, gan mai fel fitaminau yr adnabyddwn yr asidau hyn yn bennaf. Ond BYDD, mi fydd angen. Efallai mai rhoi cerrig yng nghlustiau'r mul yr oeddet yr hen gyfaill?! Dy bwynt am y prif gategoriaau - diolch; wyddwn i ddim. Gwely rwan, asidau fory! Llywelyn2000 23:25, 19 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Newydd weld dy fod wedi cychwyn categori newydd asid; gwych. Mi dria i ei lenwi ychydig! Paid ac ychwanegu categori newydd o'r enw 'hylif' yn na wnei!? hehe Llywelyn2000 23:43, 19 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Mynd dros ben llestri gyda ail-gyfeirio teitlau Saesneg?

S'mai. Dw i ddim yn meddwl bod angen yr holl ail-gyfeirio. Glla i weld rhesymeg World Cup, gan y gallaf ddychmygu lot o Gymry Cymraeg iaith cyntaf a fyddai byth yn meddwl am Gwpan y Byd, ond dw i ddim gweld pwynt 2006 World Cup - oes wedyn angen World Cup 2006 hefyd jyst rhag ofn? Cytunaf ei fod yn gwneud synnwyr os oes enw swyddogol Saeseng fel Central Anglesey Railway.

Ond petawn eisiau gwybod am hanes yr Iseldiroedd a ddim yn gwybod beth yw 'History of the Netherlands' yn Gymraeg, yna mae'n debyg byddwn yn edrych ar yr erthygl ar y Wikipedia, a gweld os oes rhyngwici at erthygl cyfatebol ar y Wicipedia. Hefyd mae gan Welsh sawl ystyr yn Saesneg, nid dim ond yr iaith Gymraeg. Mae Welsh yn mynd at dudalen gwahaniaethu yn y Seaseng - felly mewn gwirionedd byddai angen tudalen wahaniaethu ar gyfer y gair 'Welsh' ar Wicipedia sy'n swnio'n beth gwiron braidd.--Ben Bore 09:56, 23 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Dwi'n cytuno â Ben Bore nad yw'r teitlau Saesneg yn gwneud synnwyr yn y mwyafrif o achosion. Ond i enhangu tipyn bach ei bwynt am enwau swyddogol Saesneg, yn yr achos hwn dwi'n meddwl ei bod hi'n gwneud synnwyr hyd yn oed os mae enw swyddogol Cymraeg hefyd, e.e. enwau llefydd yng Nghymru. Felly os faset ti am greu'r ail-gyfeirio Wrexham, Llandovery ayyb ayyb ayyb, fasai hynny'n ddefnyddiol yn fy marn. (Mae'r gyda'r wikipedia Saesneg dudalennau ail-gyfeirio ar gyfer eu henwau Cymraeg yn gyffelyb.) Ond nid Swimming in the 2008 Olympics... Diolch. Alan 13:18, 23 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
S'mae, Llywelyn? Meddwl baswn i'n ychwanegu at dy bost i ddweud mod i'n cytuno fod dim angen y rhan fwyaf o'r rhain - pe baem yn gwneud yr un peth ym mhob achos basa angen rhai degau o filoedd o dudalennau ailgyfeirio! Ond mae rhai yn ddilys. Dwi wedi troi Welsh yn dudalen gwahaniaethu (enwau lleoedd a phobl; mae gennym ni Wales yn barod) ac mae 'na ddadl dros ailgyfeirio rhai enwau lle Saesneg hefyd, fel Wrexham i Wrecsam. Ond does dim pwynt mewn cael pethau fel "History of Wales" yn ailgyfeirio at Hanes Cymru ar y wicipedia Cymraeg, yn fy marn i. Anatiomaros 14:33, 23 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Diolch am eich ymatebion diddorol. Ailgyfeirio'r deg erthygl hiraf sydd gennym ar Wici a wneuthum, fel arbrawf, i weld beth fyddai'r ymateb. Mae rhai ohonoch wedi rhestru'r rhesymau dros tudalenau Saesneg ailgyfeirio. Ie, mae'r cwbwl yn gweithio pan fo person di-Gymraeg (neu rhanol Gymraeg) yn chwilio am erthygl. Rhowch 'railway' yn y peiriant chwilio a mi ffindith 'Central Anglesey Railway' (a rhai tudalenau eraill). Gwych. Mae hyn, felly, yn gweithio fel dull effeithiol o gyfieithu (fel y dywed Alan ac Anatiomaros)! Does dim ei angen yn y Wiki Saesneg: mae pawb (ysywaeth!) yn siarad Saesneg. Ond, yn Gymraeg - mae'n ddull effeithiol, dwi'n meddwl. Anatiomaros - oes cyfyngiad ar y nifer o dudalenau? [Nac oes. --Alan] Welais i rioed gyfeiriad at hyn. I'r gwrthwyneb - mae cynyddu nifer y tudalenau'n beth da! Ben Bore - pa un sydd bwysicaf: creu dull effeithiol o gyfeirianu o gwmpas Wici, mi gredaf fyddai eich ateb, boed hynny'n 'swnio'n wirion' ai peidio!

Ffordd arall, symlach, o wneud hyn fyddai creu rhaglen bychan, mewnol (hy o fewn y blwch 'Chwilio'), fyddai'n cydio yn y geiryn (ar waelod erthygl) sy'n dilyn yr iaith Saesneg (en) - en:Wales er enghraifft, ac yn dilyn hwnnw i'r dudalen ble mae wedi'i osod (Cymru). Byddai hyn yn plesio Anatiomaros, ac yn llawer mwy awtomatig / hawdd i'w weithredu. A dyna i chi eiriadur wedi'i greu mewn chwinciad - y mwyaf erioed yn y Gymraeg!!!! Llywelyn2000 03:36, 24 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Dyna syniad diddorol iawn, diolch Llywelyn. Dwi'n tybio na fedrem ni newid gweithrediad y blwch chwilio, ond ceir greu robot sy'n gweithredu tudalen Wicipedia:Rhestr erthyglau yn ôl eu henwau Saesneg (sef enwau'r erthyglau Saesneg a gysylltir atynt), efallai. Wna i ofyn ar Meta am y ffordd fwyaf effeithiol i wneud hon, pan fydd tipyn bach o amser 'da fi. Alan 07:08, 24 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Dwi wedi gofyn, ond heb ymateb eto. Alan 15:38, 26 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
'Mam inni yw amynedd!' chwedl y bardd! Diolch Alan. Llywelyn2000 16:03, 26 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Unrhyw lwc efo'r fforwm cymorth? Mae hwn yn ddull addas i bob iaith, nid y Gymraeg yn unig, ac yn gymorth mawr mewn cenedl ddwyieithog, fel ni ( a gweddill y byd ar wahan i Loegr!). Rho gic bach yn eu pen-olau nhw, Alan! Llywelyn2000 20:07, 8 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]


Pam wnaethoch chi gael gwared o'r geiriau ar yr erthygl Iseldireg? Mae'r geiriau hynny ar nifer o erthyglau iaith eraill. (Glanhawr 19:07, 26 Hydref 2008 (UTC))[ateb]

Henffych, gyfaill. Ymgais i lanhau ychydig ar y cangymeriadau. At ba rai ydych yn cyfeirio? Os ydw i ar fai, mi wna i droi'r cloc yn ôl! Ai at:
"Cai ei galw'n Vlaams (Fflemeg) yn aml iawn yn Fflandrys er mân iawn yw'r gwahaniaethau rhwng Iseldireg yr Iseldiroedd a Gwlad Belg."
ynteu:
"Daeth y rhan fwyaf o benthynciadau o Ffrangeg drwy'r Iseldiroedd nage Gwlad Belg serch yr arglwyddiaeth ddiwylliannol ac economaidd gafodd yr iaith Ffrangeg ar Wlad Belg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif."
Rhowch wybod! Llywelyn2000 19:22, 26 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Flin am hynny, rwy'n cyfeirio at y : "Geef me een bier alstublieft en snel!". Y rheswm rwy'n gofyn yw oherwydd mae e ar nifer o ieithoedd eraill. Sori am y camddealltwriaeth. (Glanhawr 19:28, 26 Hydref 2008 (UTC))[ateb]
Ces i wared o'r geiriau tebyg ar yr erthyglau Almaeneg a Sbaeneg hefyd. Dwi'n cytuno mai syniad da ydy defnyddio cyfieithiadau o'r un frawddeg yn llawer o ieithoedd er mwyn dangos enghreifftiau ohonynt, ond pa frawddeg? Rhaid i ni feddwl am enghraifft sy'n fwy o ddifrif, yn fy marn i. Alan 21:43, 26 Hydref 2008 (UTC)[ateb]


Dwi'n cytuno. Rhywbeth i feddwl amdano. (Glanhawr 00:35, 27 Hydref 2008 (UTC))[ateb]

Bot y fanod

Fel fy ngwraig fy hun, mae'r blwch chwilio yn hynod sensitif. Nid ydyw'n dod o hyd i 'corff dynol' pan rydw i (neu neb arall chwaith) yn teipio'r fanod arferol o'i flaen. Alan: ferdwn ni gael robot bach difyr yn Wici Cym ; fyddai'n ddigon call i hepgor y fanod, gwneud heb yr 'y' - ac yn ffindio'r gair angenrheidiol. Rhyw fath o ymestyniad ar y 'wild card'.

[Yna, ryw dro, bot sy'n datgymalu treiglad yn ol i'r gair gwreiddiol!!! hy yn ffindio 'y ddafad' drwy 1. robot i dynnu'r fanod 'y' i ffwrdd; 2. bot arall yn datod y treiglad 'dd' ac yn darganfod y gair 'dafad'. A dyna'r defnyddiwr yn hapus braf ac yn fforio yma ac acw heb hualau.

swanage

Okay, I definitely need to say this in English... I saw your comment about whether Sandwich, whose earlier names included Sandwich, is where the English name for a sandwich came from. Sandwiches were named after the Earl of Sandwich who popularised them, and he in turn took the title no doubt from Sandwich in Kent. I guess it's probably coincidence that the two places had the same name; as I'm sure you know, "-wich" is common in English place names, and I remember hearing that it is cognate with Latin "vicus" meaning something like a village. Alan 19:04, 8 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Diolch Alan. Tamed i aros pryd! Diddorol ydy geiriau a tarddiad geiriau ynte? Llywelyn2000 20:07, 8 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Diolch!

Diolch am eich sylwadau! O ni'n bored neithiwr ac odd eisiau bach o revamp ar fy nhudalen!

Rhys.

hehehe Llywelyn2000 23:30, 10 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Lluniau braf ac erthyglau newydd

Sut mae, Llywelyn? Braf gweld y lluniau 'ma yn cael eu hychwanegu ac erthyglau newydd yn dod, ond tybed a fedri di gofio i roi o leiaf un categori i mewn, e.e. os yng Ngheredigion rho [[Categori:Ceredigion]] ar y gwaelod? Mae'n debyg bydd angen categori newydd ar gyfer rhai o'r erthyglau, ond am bod ni'n defnyddio'r lluosog yn enwau categoriau 'Categori:Croesau Celtaidd' ayyb sydd ei angen, yn lle 'Croes Geltaidd'. Pwyntiau bach technegol, fel arfer! Cofion a nos da, Anatiomaros 00:27, 15 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

ON Mae 'Categori:Safleoedd archaeolegol Cymru' yn un defnyddiol hefyd. Anatiomaros 00:31, 15 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Hei, diolch, Gamaliel! Casgliad gen i dros y blynyddoedd ar gyfer meddalwedd i blant, stalwm. Diolch iti eto am dy gymorth. A nos da, gyfaill! Llywelyn2000 00:35, 15 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Sir Fynwy yn cael ei bachu gan y Saeson

Henffych, Llywelyn. Diolch am y sylwadau caredig (dwi'n meddwl!) am fy nhrylwyredd. Ond ar nodyn wahanol, dwi'n sgwennu'r hyn o lith i dynny dy sylw at sefyllfa gwbl annerbyniol ar y wici Saesneg. Mi wn dy fod yn cyfrannu'n achlysurol yn fan 'na hefyd ac felly roeddwn i isio tynnu dy sylw at yr erthygl County town, sy'n trio deud bod Sir Fynwy yn rhan o Loegr. Dwi'n cwffio sawl brwydr dros yr hen wlad yno, ond dyma'r peth mwyaf annifyr eto : cywilydd y peth! Mae fy ngolygiadau yn cael eu gwrthdroi a hynny ar sail dadl hurt am fod dau ddarn o hen ddeddfwriaeth Seisnig yn cyfeirio at y sir fel un o siroedd Lloegr, yn y gorffennol, at bwrpas llywodraeth leol. Mae 'na drafodaeth ar y dudalen Sgwrs am hynny. Tybed, os oes gen ti'r amser, a fedri di bicio drosodd i gael golwg ac efallai i fynegi dy farn hefyd (cyfra i gant cyn dechrau - dan ni ddim isio i bethau fynd yn rhy ymfflamychol)? Ond falle fod gen ti bethau callach i'w wneud. Mae 'na elfennau reit wrth-Gymreig ar "en:" sy wastad yn ceisio rhoi Cymru "yn ei lle" (yn y DU=Prydain=Lloegr!). ON Doeddwn i ddim isio gwneud hyn ar "en:" rhag ofn i rywun gwyno fy mod i'n ceisio stacio'r cardiau. Anatiomaros 22:23, 15 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Gwnaethpwyd fel y gofynaist, megis tarw mewn siop Crochenwaith Abertawe! Cawn weld. 'Gyda'n gilydd fe orchyfygwn nni...' Llywelyn2000 21:35, 16 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Wel, rhen frawd, mae Mynwy yn ol yng Nghymru fach, a'r gwr euog wedi cytuno i gau pen y mwdwl ar ei ddadl hurt. Ymlaen i'r frwydr nesaf mae'n debyg! Llywelyn2000 21:35, 16 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Ia, wir, mae'n frwydr ddibaid i warchod breintiau Cymru gan fod rhai cyfranwyr ar "en" yn meddwl mai'r Wicipedia Seisnig ydy o yn lle Saesneg, ond dyma un fuddugoliaeth yn y cwd, gobeithio. Dwi newydd cael golwg arni eto ac mae'n edrych yn ddiogel rwan, ond rhaid bod yn wyliadwrus - "mae 'na wastad rhai...". Diolch i ti am dy gymorth. Gyda llaw, wnes i ffindio dau nodyn ('template') am "siroedd hanesyddol Lloegr" oedd yn cynnwys Mynwy hefyd, ond dwi wedi ei thynnu hi o'r rhestr fan 'na hefyd. 'Safwn yn y bwlch!' Anatiomaros 21:59, 16 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Wicipedia DU

Wikimedians in the United Kingdom are working to set up a chapter of the Wikimedia Foundation, which will aid and encourage people to collect, develop and effectively disseminate knowledge. A board of five members has been elected, and a company has now been set up. Membership applications are now invited, and will be processed as soon as we have a bank account. The organisation needs the support and involvement of people like you.

So far, most participants have been based on English-language projects, but we want to ensure that we work with and for Wikimedians in all languages. As Wicipedia yn Gymraeg is an important language native to the UK, we are making contact with you.

We need to know what a new UK chapter can do to assist your project, and how we can best work together to make that happen. We are also looking for people who can translate short pieces of text, such as the first paragraph of this message, to help publicise the activities of the chapter.

Please do comment, make suggestions, and feel free to ask us any questions, whether here, on MetaWiki, or on the wikimedia-uk mailing list. AndrewRT 23:05, 1 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

A little help

Hi! I'm a Hungarian Wiki-editor, my name is Norbert. I would like to request something from you. I'm very proud of my village, Ecser, and we have now about 72 translations about it. I would like to have it all of the Celtic languages. The best Gaelic translations are the Welsha nd the Manx ones. could you translate it into Kernewek? You can use the English or the Cymraeg version. Thank you! hu:User:Eino81

Sorry. I watched the wrong wiki, you don't spak Kernewek :) - Eino81

categori

Dwi wedi ymateb :) Alan 19:26, 8 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Mellt a thranna, a phlasma efallai...

Tybed ydy dy gopi o Eiriadur yr Academi wrth dy benelin, Llywelyn? Dwi newydd sgwennu'r eginyn Mellten, a methu cael y term Cymraeg am "ball lightning". Dydy Geiriadur Prifysgol Cymru ddim wedi clywed amdano. Mae'n ffenomen hynod o brin, ond cefais y fraint (os dyna'r gair!) o fod yn agos iawn i un o'r pethau rhyfeddol flynyddoedd yn ôl, pan oeddwn i'n campio mewn cwm uchel yn y Pyreneau: roedd yn brofiad gwefreiddiol - trydanol hyd yn oed! - nad anghofiaf byth. Haeddu erthygl, ond be 'dy'r gair? Hwyl, Anatiomaros 22:31, 9 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

ON Dwi wedi cynnig 'mellten bêl' yn yr erthygl, ond dwi ddim yn rhy hapus efo fo. Anatiomaros 22:33, 9 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Ymddiheuriadau i ti a phawb arall; mae amser yn nwylo'r Bod Mawr y dyddiau hyn a phroblemau personol yn gwasgu. Mi fyddaf yn ôl gynted y câf, gynted y gallaf. Llywelyn2000 21:24, 13 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed hynny, Llywelyn. Gobeithio yn wir y bydd dy amgylchiadau yn gwella'n fuan a bydd popeth yn troi allan yn iawn i ti a'r teulu yn y pen draw. Cofion cynnes, Anatiomaros 17:59, 14 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Diolch i ti. Llywelyn2000 06:52, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Wicipedia

Sut mae, Llywelyn? Ga'i dynnu dy sylw at y nodyn yn y Caffi am ymateb Bwrdd yr Iaith i gais am gymorth? Hoffwn fedru anfon ein hymateb i'r cynnig i fod ar eu desg erbyn bore dydd Llun. Hwyl, Anatiomaros 18:13, 13 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Erthygl Llanllwch

S'mae? Dim ond yn wonderan lle cafoch y hanes am pentref Llanllwch? Rwyf wedi bod yn gwneud ychydig o ymchwil mewn rhai llyfrau ond nid oes llawer ar gael.

Diolch. --RThomas 22:28, 3 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Sut mae Rhys? Daw'r rhan fwyaf allan o mhen! A'r gweddill allan o 'Dictionary of the Place-Names of Wales' gan Wasg Gomer. Mae'n llyfryn eitha swmpus (a'r pris hefyd!) Mewn rhai erthyglau mi rydw i wedi cydnabod hyn, pan fo mwy na dau bwynt neu pan fo rhywbeth eitha dadleuol. Hwyl a fflag! Llywelyn2000 23:10, 3 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Enw'r erchylltra

Be wnawn ni efo enw'r erthygl am y gyflafan yn Gaza, Llywelyn? Mae angen ei newid ond does neb arall wedi rhoi eu sylwadau ar y dudalen Sgwrs, heblaw ni'n dau. Beth bynnag yw ein barn - ac mae hynny'n ddigon amlwg! - rhaid i ni geisio parchu'r rheolau ynglyn a mynegi barn hefyd (ond dwi ddim yn awgrymu bod fel y BBC chwaith...). Anatiomaros 19:40, 4 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Fel mae petha'n mynd, bydd angen enw arall arnom cyn hir: Cyflafan 2008-2020, os fydd rywun ar ol... Llywelyn2000 23:43, 13 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Hollol, ond mae'r BBC wedi colli diddordeb yn barod. Gwyliais 'News 24' pnawn ma am y tro cyntaf ers hydoedd ac mi gymrodd 25 munud - yr wythfed eitem - iddyn nhw gyrraedd Gaza, a hyd yn oed wedyn mond cwta dau funud oedd yn osgoi dangos a sôn am y gwaetha/gwir gawsom ni: ac mae'n waeth yno heddiw, o ran y brwydro a'r dioddef, nag erioed. A'n helpo ni! Anatiomaros 00:05, 14 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
en:2008–2009 Israel–Gaza conflict yw teitl yr erthygl Saesneg. Dwi'n tybio bod hon yn addas -- er bod Israel yn mynd dros ben yn gyfan gwbl o gymharu ag ymosodiadau Hamas (fel mae'n glir o niferoedd y marwolaethau ar y deutu), ni ddylai'r teitl awgrymu bod y digwyddiadau yn 100% untuol. Alan 08:22, 14 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Beth am 99.9? Alan, ar wahân i lond dwrn o rocedi y tu allan i'r Llain Gaza (gan mai glanio yn Israel y maen nhw), yna mae'n ddigon gwir dweud mai 'Ymosodiad Israel ar...' sy'n gywir. Fel yr awgrymais yn sgwrs yr erthygl dan sylw, efallai bod angen erthygl arall ar y rocedi hyn.
Ond yn sicr, does dim rhaid i ni gopio'r Wiki Saesneg, yn slafaidd. Os yw'r disgrifiad yn gywir o ran 99.9% yna mae'n llawer mwy cywir na'r disgrifiad Saesneg sy'n 50 - 50! Tetl y rhan fwyaf o Wicis (Ffrangeg, Eidaled, Czeck os cofiaf yn iawn) ydy "Ymosodiad Plwm Bwrw" sy'n debycach i'n disgrifiad ni gan ei fod yn disgrifio ymosodiad Israel yn unig.Llywelyn2000 23:35, 14 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno'n llwyr efo Llywelyn, er fy mod yn gwerthfawrogi pwynt Alan hefyd. Basa neb yn meddwl am alw ymosodiad y Natsiaid ar geto Warsaw yn "Germany-Warsaw Ghetto conflict"? Anatiomaros 00:50, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
ON Roeddwn i'n gwylio darllediad yn fyw o ganol dinas Gaza hanner awr yn ôl ac roedd bomiau yn cael eu saethu gan tanciau yn disgyn ar hap - yma ac acw - reit ar draws y ddinas: mae teuloedd a phlant heb fwyd na diod yng nghanol hynny. Mae'n gyflafan - a dyna'r enw baswn yn defnyddio waeth pwy oedd yn gyfrifol. Dylai arweinwyr Israel gael eu cipio oddi yno a'u rhoi o flaen y llys rhyngwladol yn Den Haag (ond wna'i adael i rywun arall - y Cenhedloedd Unedig, gobeithio - ddeud hynny cyn ei roi yn yr erthygl...). Anatiomaros 00:58, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Pwyntiau teg. Do'n i ddim wedi edrych ar y Wicis eraill. Ac mae fy marn personol yn debyg i'ch barnau chi (er bod fy nheulu yn hanu o Iddewon rhai genedlaethau yn ôl) -- dwi'm ond ceisio meddwl am deitl cywir i'r erthygl, ond dwi'n meddwl eich bod wedi fy narbwyllo. Alan 07:47, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Diolch Alan. Dwi'n meddwl fod Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o'r un farn: "If this onslaught in Gaza is indeed a war, it is a war against a helpless, defenseless, imprisoned population"; "this onslaught in Gaza, what Israel calls its “war on terror,”"; "The violations of international law inherent in the Gaza assault have been well documented: Collective punishment. Disproportionate military force. Attacks on civilian targets, including homes, mosques, universities, schools."; "We are all fully aware that the Security Council passed resolution 1860 last week. But the relentless onslaught continues in Gaza. Gaza is ablaze. It has been turned into a real burning hell.": "Prime Minister Olmert’s recent statement disavowing the authority of Security Council Resolution 1860 clearly places Israel as a State in contempt of international law and the United Nations."; "I believe that our resolution must reflect the urgency of this moment, the urgency of our commitment to end this slaughter." etc etc etc. (gweler yma). Anatiomaros 22:01, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Bûm yn gwylio 'Pawb a'i farn' ar S4C gynnau ac roedd pawb yn feirniadol iawn o israel a NEB yn siarad o'u plaid, o blaid eu gweithredoedd nhw, hynny yw. Y siaradwr gorau, yn fy marn i, oedd Dafydd Iwan - roedd o, yn well nag arfer, roedd yn ysgubol! Anatiomaros - mae'r dyfyniad uchod gen ti yn arbennig hefyd. Llywelyn2000 22:41, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Polisi preifatrwydd

Diolch iti am fwrw golwg dros y drafft o'r polisi newydd - d'yw nhreigladau i ddim yn rhy saff fel y gwelaist! Petai amser gen ti i gyfieithu ambell i baragraff o'r newydd byddai'n gret - os na does dim ots, fe gaiff ei gwblhau yn ei lawn bryd. Lloffiwr 22:31, 18 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Croeso. Mi dria i fy ngorau. Mae amser yn dynn iawn, yn bri iawn yn ddiweddar, ond mi dria i! Atgoffa fi ym mhle mae e ar gael. Diolch.
Dyma'r dudalen - Sgwrs Wicipedia:Polisi preifatrwydd. Cyn iti fwrw iddi gelli di wneud dargyfeiriad at y darpar gyfieithiad o'r hysbysiad canolog diweddaraf a bwrw golwg drosto? Lloffiwr 19:53, 20 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Diolch. Mae'r Gymraeg yn gywir ar dudalen ethol Stiwardiaid (fyddai'n syniad ymgeisio hefyd?). Af ati gyda'r cyfieithu ar gynted fedra i!
Diolch am ail-gydio yn y polisi preifatrwydd. Rwyf wedi ail-wampio'r drafft fel bod y gwreiddiol wrth law a bod y gwelliannau i'w gweld mewn un drafft, gan ddefnyddio'r llinell lorweddol confensiynol i hwyluso'r gwaith trafod. Lloffiwr 19:22, 28 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Croeso. Rwan mae'r Enaid Fawr yn ol, mi allaf roi mwy o amser i hyn a'r ddalen flaen. Cymt, roeddwn i'n teimlo mai cywiro iaith oedd y flaenoriaeth. ON Unrhyw air oddi wrth y LLG? Llywelyn2000 03:32, 29 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

neges ar en:

Naddo, Llywelyn, dim eto. Dwi ddim wedi bod yno ers diwedd yr wythnos ond wna'i sbio ar ôl gorffen yma. Anatiomaros 00:16, 20 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

"Galeri"

Llywelyn, rwy'n falch dy fod di hefyd yn meddwl fod <galeri> wedi bod yn gweithio yn iawn ar un adeg - roeddwn i'n meddwl mai fy nghof i oedd yn dechrau mynd! Rhion 13:41, 24 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

"O" a pethau eraill

Henffych, yr hen ddewin! Cofia mai 'Pobl o [rywle]' sydd gennym am y categoriau fel "Categori:Pobl o Sir Fynwy" ayyb. Wnes i newid 'Modelau o Gymru' i'r categori 'Modelau Cymreig' - oedd yma yn barod - am mai dyna ydy'r patrwm ar wici (dwi'n ddigon "hen ffasiwn" i ddefnyddio 'Gwleidyddion o Gymru' neu 'Gwleidyddion o Gymry' ayyb fy hun, ond rhaid cael cysondeb dros y categoriau i gyd a basai'n cymryd wythnos i newid nhw i gyd erbyn hyn!). Anatiomaros 00:20, 25 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Rwyt yn llygad dy le, ydy mae cysondeb yn hanfodol, yn gosod safon ac yn uno'r cwbwl yn un cyfanwaith taclus; cofia mai prentis ydw i! Diolch. Llywelyn2000 00:40, 25 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Dim probs, Llywelyn, mond isio arbed creu "categoriau dwbl" oeddwn i, dyna'r cwbl. Cofia fod dechrau teipio 'Categori:beth bynnag' yn y blwch chwilio yn help i ganfod a oes categori cyffelyb yma yn barod. Gyda llaw, ar nodyn hollol wahanol, dwi wedi bod yn meddwl dros y dyddiau dwetha o greu erthygl ar droseddau rhyfel Israel yn Gaza, ond dwi ddim yn siwr a fyddai hynny'n dderbyniol neu beidio. Teitl niwtral fel 'Troseddau rhyfel posibl Israel yn Gaza' efallai (a newid o pan/os daw achos llys yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol)? Be ti'n feddwl? Unrhyw awgrymiadau? Anatiomaros 00:49, 25 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Diddorol. Bum innau'n cnoi fy nghil ar rywbeth tebyg. Dwi'n teimlo fod cryn ddyfnder i'r erthygl ei hun (Gaza 08-09). Mae angen hynny. Mae angen sylwedd a dyfnder. Ond mae hefyd angen lledaenu'r wybodaeth dros ystod o erthyglau eraill ee Israel. Ac os ydyw'n tyfy'n rhy fawr, yna wedyn creu erthygl gyfan, yn te? Meddwl fel y darllenydd: mae'n fwy tebygol o gael hyd i Israel nac ydy o am erthygl o'r enw Troseddau Rhyfel Israel.... Ond y peth pwysig yw'r hyn a ddywedi di - fod angen dweud y peth; y gwir a saif; ac i bob barn ei llafar... Mae'n hanfodol fod Wici yn medru bod yn rhydd; yn rhydd o sensoriaeth y Brawd Mawr. Rhaid felly cyhoeddi, mater bach wedyn yw gofyn ym mhle. Llywelyn2000 01:00, 25 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Ia, mae angen rhywbeth yn sicr ("Meddyliau mawr yn meddwl 'run fath"?!). Mae'r erthygl ar y rhyfel yn eitha hir yn barod. Mae gen i ddeunydd am y symudiadau i ddwyn achos llys yn erbyn Israel/yr IDF yn barod i roi mewn erthygl newydd, ynghyd â manylion ychwanegol am y digwyddiadau fydd yn sail i hynny. Roeddwn i'n meddwl am gopio'r hyn sy 'na yn yr erthygl, yn yr is-adran, a rhoi nodyn/dolen i'r erthygl newydd. Mae 'na le i ddolenni mewn sawl erthygl arall hefyd, yn cynnwys Israel. Ond rhaid i ni fod yn ofalus i beidio llwytho'r erthygl ar y wlad ei hun efo dim byd ond agwedd Israel tuag at y Palesteiniaid neu mi fasa pobl yn iawn i gwyno (mae angen mwy ar bethau fel daearyddiaeth, hanes, economi ayyb - y pethau "arferol" - yn yr ethygl am y wlad eu hun). Rhy hwyr i gychwyn arni heno, ond dwi'n meddwl wna'i fentro dros y dyddiau nesaf (h.y. os nad oes wrthwynebiad gan y BBC, sydd mor hynod o "ddiduedd"!). Anatiomaros 01:12, 25 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno efo dy bwynt ynglyn a gorlwytho. Ymlaen felly yn te, a chreu dolenni o'r erthyglau eraill? Ac mae angen rhoi safbwynt Israel yn yr erthygl, wrth gwrs. Sut mae nhw'n amddiffyn y defnydd hwn o ffosfforws gwyn ar sifiliaid er nghraifft. Llywelyn2000 05:56, 25 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

honestly...!

Ateb hwyr iawn i dy gwestiwn a dw i newydd sylweddoli...

ydy hyn neu hyn yn ateb dy gwestiwn?

So "wwwww" to you too :-) :-) Alan 18:43, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Rwyt ti wedi mynd i drafferth mawr i ffindio'r manylion hyn, rhen Alan! Hehe. Llywelyn2000 20:21, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Efallai ddylwn i ddim ymateb i'r wind-up 'ma, ond...... Doedd dim rhaid i mi fynd trwy hanesau'r tudalennau er mwyn sylweddoli'r manylion hyn yn y lle cyntaf, dim ond er mwyn darganfod ym mha golygiadau union cafodd y manylion eu hychwanegu, wrth ateb dy gwestiwn. Alan 20:56, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

wiciadur

"perthyn i eiriadur Wici mae hwn, yn te, os oes 'na un Cymraeg. " medde ti. Oes - gwela restr y chwaer brosiectau i gyd ar y hafan, ond dydyn nhw ddim yn cael llawer o sylw - mae eisoes digon o waith sydd angen ar y gwyddoniadur a diffyg o bobl i'w wneud. Alan 07:07, 31 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Perthyn o bell iawn, gobeithio! Hen fodryb ddigon swta ydy hi ar hyn o bryd! Wedi i ni orffen 50K o erthyglau da, cynhwysfawr a chywir eu hiaith ar Wici, yna.... Cawn weld! Diolch. Llywelyn2000 07:27, 31 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Midffildar

Newidias i safel Owain Tudur Jones o 'Canolwr' i 'Canol Cae', oherwydd ystyr canolwr i mi ydy 'Centre' yn rygbi'r undeb. Yn anffodus tydy geirfa am safleodd chwaraewyr pêl-droed yn Gymraeg ddim hanner mor gyfoethog a'r rhai am rygbi. --Ben Bore 08:39, 9 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Y Dynion Mwyn

Henffych, gyfaill! Ga'i dynnu dy sylw at fy sylwadau ar dudalen Sgwrs Y Dynion Mwyn? Ar ôl gwneud tipyn o ymchwil ar y we, mae gen i amheuon mawr am rai o'r honiadau yn yr erthygl, yn enwedig am y cysylltiadau Cymreig honedig. Ar y lleia, mae'n ymddangos fod mwy nag un ochr i'r stori. Cofion cynnes, Anatiomaros 00:15, 10 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Diolch am dy ymateb, Llywelyn. A diolch am dy waith golygu ar Wica hefyd: dwi'n dal i feddwl ei bod hi braidd yn anheg fod ein brawd y Wiciad yn ychwanegu hen domen o destun fel hyn - roedd yn cymryd amser i mi "guddio" fo ac wedyn mae'n golygu llawer o waith i bobl gydwybodol fel ti i lanhau'r llanast (ac mae'n anodd gwneud na phen na chynffon o rannau o'i gyfraniadau, fel y gwyddom!). Ydy hyn yn deg ar y wici hefyd? Hyn a hyn o amser sydd gen ni ac yn yr amser mae'n cymryd i wneud hynny rydym ni'n colli allan ar erthygl falle. A wel, bid fel y bo am hynny, mae'n debyg! Cofion, Anatiomaros 00:14, 11 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Diolch i ti am dy gefnogaeth. Ia, rwyt ti yn llygad dy le, fel ddywedodd rhyw fardd cyfoes am yr ychydig amser a roed inni ei dreulio (ei wario) a'n byrder ar y tipyn daear 'ma:
Mond hyn-a-hyn roed inni,'Testun italig
A hyn-a-hyn yden ni.'Testun italig
Ond mae angen tacluso chwaneg ar yr erthygl, tipyn chwaneg. Llywelyn2000 23:29, 11 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Downing Street

Dim problem - mae "w Londynie" yn golygu "yn Llundain" - dim syndod ynte. (Dysgais i dipyn bach o Rwseg yn yr ysgol yn yr wythdegau, ac mae'r Pwyleg yn ymddangos braidd yn debyg.) Alan 23:07, 10 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

y nodyn "angen ffynhonnell"

Dw i ddim yn hollol sicr os ydw i wedi deall dy gwestiwn yn dda, ond rhaid teipio {{angen ffynhonnell}} lle rwyt ti'n gweld "ffaith" amheus. Sorry I'm going to switch to English because I don't want to spend too long composing this message just now... Typing this will add the note, and also put the page into the category Categori:Tudalennau ag angen ffynonellau. By the way, where you had the code on your own user page, I added some "<nowiki>" tags to disable it, because otherwise your own user page would end up appearing in that category. By the way, if you ever encounter a dubious "fact" which is controversial, particularly which says something negative about a living person, please do not add "angen ffynhonnell", but remove the offending statement immediately! Alan 22:54, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Cyngor da! Diolch Maestro. Llywelyn2000 22:58, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Fy ngolygiad olaf cyn y gwely... Am hyn - nid yw'n angenrheidiol cynnwys y gair "nodyn:" - mae'n gweithio gyda fe neu hebddo. Alan 23:14, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Ar yr un trwydded - os ga'i roi fy mhig i mewn! - defnyddia {{Angen cywiro iaith}} yn lle [[Nodyn:Angen cywiro iaith]]. Anatiomaros 23:14, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Gret! Dyna oedd fy nghwestiwn nesa! Ble mae'r rhain yn cael eu casglu felly? Llywelyn2000 23:27, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Yn Categori:Nodiadau, efo tipyn o lwc, er mae'n siwr bod rhai wedi dianc o'r rhwyd! Gyda llaw, os wyt ti drosodd ar "en:" rywbryd ac yn teimlo fel amddiffyn yr iaith, dos draw i dudalen sgwrs English exonyms. Dwi'n cynghori cyfrif hyd at gant cyn ymateb! Anatiomaros 23:38, 22 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

cyfoes

Dw i wedi cael gwared ar y nodyn "cyfoes" ar dudalen Pasg, achos bod ei bwriad er mwyn nodi erthyglau lle mae'r gwybodaeth yn newidadwy. Alan 00:22, 27 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

O.N. Nos da! Alan 00:23, 27 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Bore da! Roeddwn i'n meddwl mai bwriad yr adran "Cyfoes", Alan, oedd dod ag erthyglau cyfoes o flaen y darllenydd mewn un grwp taclus? Llywelyn2000 07:02, 27 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Hmm... rhaid meddwl am hyn. Nid pwrpas gwreiddiol y nodyn oedd hyn; cafodd y nodyn ei gyfieithu o'r saesneg en:Template:Current, sy'n egluro yn fanylach ei bwrpas, ac mae'r fersiwn Cymraeg yn dal i ddweud "Gall wybodaeth newid wrth i'r digwyddiad fynd ymlaen." Ond dwi'n gweld ei fod e'n ddefnyddiol ar yr ail bwrpas a wyt ti'n ei ddisgrifio. Rhaid creu ail nodyn sy'n rhoi'r erthyglau i mewn i'r categori hwnnw heb ychwanegu'r neges "Gall wybodaeth newid..." Mae'n hawdd i mi wneud hynny, ond beth dylai'r nodyn gael ei alw? Am rwan, dw i wedi ychwanegu'r côd gategori heb ddefnyddio "nodyn". Alan 08:41, 27 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Mi adawaf i'th ddoethineb arferol di, ac eraill, i benderfynnu ar hynny. Yr unig bwynt carwn ei wneud ydy plis edrychwch ar y peth drwy lygad y darllenwr / defnyddiwr: ac nid o'n safbwynt ni! Llywelyn2000 16:48, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Re: Ti yw'r burum sy'n creu'r bara

Ah diolch! Mae'n hyfryd gwybod fod 'y ngwaith yn cael ei werthfawrogi! Hwyl. Glanhawr 20:48, 28 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

WAW!!

Mae eich dudalen yn ardderchog! Sut nes ti o? Mae angen i ni gael dudalen hafan efo steil tebyg...gyda tabiau, lliwiau, lluniau etc..

Da iawn anyway! Rhys Thomas 20:17, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Ia, bendigedig a hynod ddeniadol! Ond dwi wedi cael hyd i "erthygl" newydd: Tudalen defnyddiwr 2. Wyt ti angen ei chadw (gellid ei symud i 'Defnyddiwr:Llywelyn2000/[enw'r dudalen]')? Os nad wyt bydd rhaid ei dileu achos mae'n cyfri fel erthygl (mae ar y rhestr o erthyglau newydd yn y tudalennau arbennig). Cofion, Anatiomaros 20:29, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Diolch Rhys Thomas. Dy Dudalen Defnyddiwr di oedd y sbardyn! Gwranda; mae pob peth rwyt ti'n ei wneud yn cael effaith ar bobl eraill o'th gwmpas, ac yna y tu hwnt, fel modrwyau dŵr yn mynd yn fwy ac yn fwy. Gall symudiad bach, bys, bawd, gair gen ti achub y ddaear ma rhag yr uffern sy'n ein hwynebu. Copia'r fframiau a'u haddasu, dyna wnes i. Eu benthyg! A'r syniad oedd arbrofi ar fy nhudalen i a llunio rhywbeth ar gyfer yr hafan: a'th syniad di oedd hwnnw hefyd, a dyna gylch arall wedi cael effaith adeiladol! Anatiomaros: diolch. Mae gen tithau ran (enfawr) yn fy niddordeb yn yr hen Wici 'ma; pe gallwn wneud yr hanner y medri di mi faswn wrth fy modd! Mi faswn i'n hedfan! Ia, sorri, dilea hi os gweli'n dda. Mi aeth ar goll gen i wrth i mi frysio i orffen y gwaith ddoe cyn ei heglu hi i Gaer. Llywelyn2000 21:25, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi dileu'r dudalen. Diolch am dy sylwadau caredig, Llywelyn. 'Dan ni i gyd yn ddisgyblion i Feistr/Feistres Amser. Anatiomaros 22:08, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Hafan5

Dwi wedi symud 'Hafan5' i Hafan/Prawf4. Mae'n edrych yn ddiddorol, ond cofia fod tudalen fel hyn yn mynd i gyfrif fel erthygl go iawn fel arall (defnyddia'r slaes /). Nos Da! Anatiomaros 00:59, 3 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Wrth gwrs! Diolch. Llywelyn2000 06:51, 3 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

mynyddoedd

Maddeua i mi am ddileu 'Categori:Mynyddoedd Conwy' mor sydyn, Llywelyn, ond 'Mynyddoedd a bryniau Cymru' yw'r prif gategori a hefyd does 'na ddim categoriau mynyddoedd a bryniau ar gyfer y siroedd gennym chwaith, dim ond rhai o'r ardaloedd/cadwyni (Eryri...). Mewn gwirionedd mae angen creu y categoriau daearyddiaeth ar gyfer pob sir yn gyntaf cyn symud ymlaen yn ddyfnach er mwyn i'r drefn wneud synnwyr. Efallai cawn ddechrau gyda Conwy ac un neu ddau arall heno, ond mae'n cymryd lot iawn o amser i gael pob erthygl yn ei lle, dyna'r broblem. Rho dipyn o amser i mi dros y dyddiau nesa. Mae'n gallu bod yn waith diflas a dyna pam dwi wedi ei osgoi tan rwan! Anatiomaros 23:29, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Diolch. Ro'n i'n gweld fod ei angen, gan fod categoriau megis Afonydd yn bodoli'n sirol. Ta waeth. 'Mam inni yw amynedd!' chwedl Myrddin ap Dafydd neu rywun tebyg!
Ia, fel ti'n deud, mae angen amynedd ...ac amser. Pob tro dwi'n edrych trwy'r categoriau ma mae 'na rywbeth hanfodol sydd angen ei wneud neu ei gywirio! Cofia fod criw mawr ar lefydd fel y wici Eingl-Americanaidd sy'n gwneud dim byd ond y gwaith "cynnal a chadw" ma! Yn y cyfamser, ymlaen! Anatiomaros 23:38, 4 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi cychwyn arni gyda Conwy, Gwynedd a Môn, ond y cwbl dwi wedi gwneud i lenwi'r categoriau ydy rhoi is-gategoriau i mewn. Mae creu'r categoriau 'mynyddoedd a bryniau Sir A' wedyn yn gofyn llawer mwy o waith gan fod cymaint o erhyglau. Rhywbryd - ond dim heno! - basai'n braf cael categoriau hanes ar gyfer pob sir hefyd (ac eithrio ambell un o'r rhai bychain newydd yn y De, efallai), fel sy genym yn achos Categori:Hanes Gwynedd (casglu pethau fel y cestyll, plasdai ayyb). Ond dyna ddigon am rwan. Gwn o brofiad fod y gwaith ar y categoris yn gallu cymryd oes i'w wneud yn iawn. Dwi am ei throi hi am rwan, felly Nos Da i ti, Lywelyn a diolch am dy ymdrechion diflino, fel arfer. Anatiomaros 00:15, 5 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Mi rannwn y gwaith rywsut. Llywelyn2000 06:58, 5 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Dw i'n mwynhau tacluso categoriau pob hyn a hyn. Beth am i bawb fabwysiadu sir?--Ben Bore 08:55, 5 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Gwych. Tydw i ddim mo'r taclusaf efo'r categoriau yma, ond mi dria i! Sir Ddinbych i fi: i mi ddechrau wrth fy nhraed! :) Llywelyn2000 21:33, 5 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Diolch i chi eich dau am gynnig eich cymorth. Mi wna'i gychwyn gyda sir Conwy, i ddechrau wrth fy nhraed hefyd, chwedl Llywelyn! (Cofier rhoi'r categoriau newydd 'ma yn yr uwch gategoriau 'Mynyddoedd a bryniau Cymru' a 'Daearyddiaeth [Sir Ddinbych/beth bynnag]'). Anatiomaros 21:43, 5 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Un peth bach arall am roi lleoedd fel cestyll mewn categori ydy trio cofio, pan fo 'Castell' yn rhan o'r enw i roi o i mewn fel hyn, e.e. am Gastell Rhuthun: [[Categori:Cestyll Sir Ddinbych|Rhuthun]], iddo ddangos dan 'R'. Fel arall mi fydd pob un yn dod allan dan 'C' yn y categori. (Paid a phoeni gormod - dwi'n anghofio hynny weithiau hefyd!) Anatiomaros 23:01, 5 Mawrth 2009 (UTC
Doeddwn i ddim wedi deall hyn. Diolch i ti. Llywelyn2000 23:03, 5 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Tuleytula

Hi! I can't speak in Welsh language. Sorry :( This is my main user talk page:

Please ask in English, whatever you asked before...--Tuleytula 06:21, 6 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Yr hawliawr siroedd digwilydd!

A minnau eisiau Sir Ddinbych gan mod innau o'r lle hefyd ;-)

Sylwais dy fod ti wedi gosod dolenni at gategoriau eraill o fewn yr erthygl. Er alla i ddim yn gweld dim o'i le ar hyn mewn egwyddor (er fel arfer dolenni at erthyglau mwy manwl yw'r 'norm'), tydy hyn ddim yn gweithio am ryw reswm. Os edrychi di ar yr erthygl rwan, yn hytrach na ble dylai'r ddolen fod, mae'n dangos y linell gyntaf o destun sydd i'w gael ar dudalen y categori. Hefyd mae rhywbeth od yn digwydd yn y golofn rhyngwici (dwy ddolen Saesneg, un at Categori Sir Ddinbych Saesneg). Problem arall a all ddigwydd (ond sydd ddim yn yr achos yma hyd y gwelaf) yw bod erthyg Sir Ddinbych wedyn yn ymddangos o fewn is-categori fel 'Trefi Sir Ddinbych'.

Os wyt ti eisiau gosod dolen at gategori o fewn erthygl (ond dw i ddim 100% y dylid gwneud o ran cadw arddull) galli di ddefnyddio'r côd Categori:'''Enw'r Categori'''. Dangosodd Alan hyn i mi rhai wythnosau'n ol - be wnawn ni hebddo fo?--Ben Bore 12:38, 6 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Pa hwyl gyfaill? Wyt ti'n cyfeirio at y pennawd 'Mynyddoedd' (uchod)? Sbia ar y cyfraniad olaf. Diolch. Dy sylw at Alan. Ydy gwag fel cragen. Llanwn y bwlch. Llywelyn2000 22:36, 6 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Y pennawdau 'Pentrefi' a 'Llynoedd'. Mae'n ymddangos bod Pentrefi wedi ei newid gan ddenfyddiwr arall rwan. Dw i ddim yn gwybdo pam, ond am ryw reswm mae'r ddolen rhyngwiki cyntaf yn cyferirio at 'Nodyn: Siroedd Cymru' ar y wici Llydaweg - rhyfedd!--Ben Bore 08:49, 9 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Latino sine Flexione

Llywelyn, oedd gen ti reswm arbennig dros ddileu yr enghraifft o Weddi'r Arglwydd o'r erthygl yma? Roeddwn i'n meddwl fod yr enghraifft yn ddull defnyddiol o ddangos y gwahaniaeth rhwng y fersiwn yma o'r iaith a Lladin clasurol. Rhion 12:51, 7 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Mae 'na ysbryd yn y peiriant. Wnes i dim ei ddileu. Eto, mae'n rhaid fy mod! Mae'r cyfieithiad yn fendigedig. Dim byd yn bod. Beth sy'n digwydd??? Mae pwy bynnag wnaeth hyn yn fy enw i wedi gwneud rhybweth arall: ychwanegu Nodyn "eginyn iaith". Tydw i rioed wedi gosod y nodyn hwn!!! Llywelyn2000 15:38, 7 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Ydy hi'n bosib fod dau yn golygu yr un pryd - ond yn enw un? Hy mi wnes i olygu o ran cywiriad iaith, ond nid y dileu ac ni wnes osod nodyn egin iaith. Dirgelwch llwyr. Llywelyn2000 17:38, 7 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Y Dyluniad newydd arfaethedig

Dw i'n gweld bod ti'n brysur yn arbrofi. Fel ti'n gwybod, dw i eto i fy argyhoeddi y bydd y newidiau er gwell neu beidio, a nid trio bod yn boed yn y pen-ôl ydw i, ond gan bod lot o logos sy'n ymwneud a'r prosiectau eraill + bod testun pob dolen yn las, dw i ddim yn gwybod pa mor hawdd fyddai hi i rywun sydd a nam ar eu golwg i'w ddarllen. Dw i ddim yn ddyluniwr gwefannau, ond dw i'n credu bod yna rhyw safonnau/guidlines i'w cael. O gwglo'n sydyn, des ar draws yr awgrymiad canlynol

Ten Tips
1. Is the text legible?
Contrast is the most important factor to consider when designing sites that everyone can use. Go for text and background colour combinations that offer maximum contrast.

(sy'n mynd yn groes i beth ddwedais i yn rhywle yn y drafodaeth, mai gwefannau lliwiau 'meddal' sy'n neis ac yn boblogaidd ar hyn o bryd!)--Ben Bore 22:00, 10 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Diolch ben Bore. "Testun pob dolen yn las": ydy, yn arddull 'in-house' Wikipedia. Faswn i ddim yn awgrymu unrhyw liw arall gan fod y lliw'n cyfleu ei waith - fod yn ddolen. Cymer olwg ar faint y ffont, fodd bynnag. Dwi wedi ei chwyddo (cymharer gyda maint ffont y fwydlen chwith, glasurol ! Llywelyn2000 08:16, 11 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]


Plas Newydd, Llangollen ynteu: Plas Newydd (Llangollen)

Bore da. Pa fformat wyt ti'n ei awgrymu? Collnod neu cromfachau? Tydy o ddim gwahaniaeth gen i, cyn belled fod yma gysondeb. Diolch. Llywelyn2000 06:58, 27 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Mmmm - dydw innau ddim yn siwr. Rwy'n meddwl fod gennym ni enghreifftiau o'r ddau. Beth am ei godi yn Y Caffi a cheisio cytuno ar un? Rwy'n meddwl y buaswn i yn pleidleisio dros Plas Newydd, Llangollen. Rhion 07:04, 27 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
dwi'na yn cytuno. Mi goda i'r mater yn y caffi heno. Llywelyn2000 07:28, 27 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Enwau unigol a lluosog

Diolch am yr holl gymorth heddiw. Rwyf wedi cadw nodiadau manwl o sut i osod cyfeiriadau mewnol ag allanol ! Un cwestiwn arall cyn tewi am y tro. Darllenais eich sylw am enwau unigol (cyd-destun Categori). Wrth geisio twtio fy nghynnig gyntaf (at Cellbilen) a cheisio creu dolennau mewnol, mi sylweddolais mai "mitocondrion" oedd gennyf, ond mai mitocondria oedd targed y cyswllt. (Sef enw lluosog.) Mi newidiais i'r lluosog. Ai'r ffordd i sicrhau dolen yw dim ond cynnwys y llythrennau cyffredin ("mitocondri" yn yr achlysur hwn) ? Rwy’n cymryd y byddai newid y pennawd (lluosog) yn creu dryswch llwyr ac yn colli'r holl ddolennau. !--Deri 15:18, 1 Ebrill 2009 (UTC) Ar ôl ychydig ymchwil, mi welaf, bellach, sut mae sicrhau dolennau i enwau ychydig yn wahanol, treigliadau, lluosogion ag ati. Does dim angen ymateb i'r uchod. Diolch a hwyl. --Deri 16:54, 1 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Fandal Disney

Nodyn byr - copiwyd - gan fod fy nghinio yn barod:

"Disney Vandal". Mae o'n creu hafoc ar nifer o wicipediau, yn enwedig yr un Saesneg. Mae'n glyfar. Gwneud nifer o olygiadau - weithiau mewn tandem a chyfeiriad IP anon neu un o'i enwau eraill - i ddrysu pobl a chuddio ychwanegiadau anghywir. Weithiau mae ei fandaliaeth yn amlwg weithiau'n gyfrwys, ond fandal perygl ydy o. Ewch i "en" a gofyn i Collectonian. Mae gen i wybodaeth ar dudalen sgwrs Alan hefyd. Gwylia am unrhyw gyfraniadau IP i ffilmiau Disney sy'n dechrau gyda 65/67/68 (Georgia neu Alabama). Mae 'na lwyth o bethau i'w ddadwneud. (Hefyd, yn ddiweddar: Boatshops=Rockskeeper=68.220.177.97=65.0.160.15 ac eraill hefyd mae'n bosibl...). Anatiomaros 17:53, 2 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Mwy o amser rwan i egluro, ar ôl cinio. Mae 'na ragor o wybodaeth ar fy nhudalen sgwrs (gwaelod). Mae'r boi 'ma yn gyfrwys iawn ond mae'n hawdd i'w adnabod er ei fod yn troi i fyny dan enw gwahanol bob tro. Felly gwylia am unrhyw gyfranwr newydd sy'n troi i fyny a dechrau golygu erthyglau Disney neu ffilmiau (animeiddiedig fel rheol). Mae o'n BLA! Hwyl, Anatiomaros 18:51, 2 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Newydd gweld hyn yn dy sgwrs uchod: "I clean up Disney articles alot, but sometimes it gets tiring. You can help too, if you want." ("clean up a lot"="dwi'n fandal llawn amser"!). Coblyn o nec! Anatiomaros 18:53, 2 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Cadarnhad gan y wici Saesneg: en:User:Boatshops. Wedi'i flocio fel "sock puppet". Anatiomaros 19:00, 2 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Bois bach! Rhyfedd o fyd. Oes na waith carthu rwan? Llywelyn2000 22:49, 2 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Oes, Llywelyn, ond ceiff aros tan fory. Rhagor o fanylion yn y Caffi. Isio gras a 'mynedd! Ond fel 'na mae hi: efallai bod hyn yn arwydd ein bod wedi "cyrraedd" fel wici?! :-) Anatiomaros 23:12, 2 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Y 25,000

O'r diwedd dwi wedi cofio creu tudalen newydd, atodiad i'r Caffi fel petai, fel wnes i gynnig o'r blaen, i drafod ein cynlluniau ar gyfer cyrraedd yr 25,000fed erthygl. Dyma'r ddolen: Wicipedia:Y Caffi/25,000 erthygl ac mae 'na nodyn ar ddechrau adran y cyfraniadau yn y Caffi hefyd. 'Rargian, ond roedd y dudalen wedi mynd yn faith - bron i 150kb! - ond mae'n dipyn bach mwy hwylus i'w llwytho rwan ar ôl i mi archifio tua 75% o'r cynnwys (gwaith blinderus mae pawb yn ceisio osgoi ei wneud, yn cynnwys fi!). Hwyl, Anatiomaros 17:48, 5 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Gwnest yn dda. Y burum tawel.... Llywelyn2000 06:47, 6 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Nodyn "DEFAULTSORT" ayyb

Mi fuost ti wrthi'n foreuol iawn heddiw, Llywelyn! Dwi'n sylwi dy fod yn anwybyddu'r nodyn sy'n edrych fel hyn uwchben y categoriau, e.e. '''{{DEFAULTSORT:Jones, John}}. Fel mae'r enw yn awgrymu, pwrpas y nodyn ydy sortio'r enw yn ddi-ofyn yn y categoriau odan o. Does dim angen rhoi "Jones, John" yn y categoriau ac yn wir mae'n gallu drysu'r meddalwedd os gwneir hynny. Dyna pam wnes i newid golygiadau fel hyn, ac eraill. Hefyd dwi'n gweld dy fod yn rhoi enwau categoriau yn yr unigol i mewn weithiau, e.e. 'Categori:Mathemategydd Cymreig': y drefn ydy defnyddio'r lluosog bob tro, felly Categori:Mathemategwyr Cymreig sy'n gywir (ac yn bod yn barod). Hwyl, Anatiomaros 15:41, 6 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

A! Felly dyna ei bwrpas! Wel dyna fi'n gwybod rwan. Mi arbedith ganrif neu ddwy! Teitlau erthyglau: unigol. Teitl Cataegoriau: lluosog. Ia, wel... Llywelyn2000 19:47, 6 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Rhaid cael trefn o ryw fath, er bod angysondebau. Ia, "teitlau erthyglau: unigol" (e.e. Bardd) ond gydag eithriadau am resymau arbennig, e.e. Beirdd y Tywysogion, Cymry (grŵp o bobl) ond "teitlau categoriau: lluosog" am bobl a phethau (am fod mwy nag un unigolyn neu beth yn y categori). Mae'r wici Ffrangeg yn defnyddio'r unigol yn ei gategoriau ond rhywsut basa hynny ddim yn gwneud synnwyr yn Gymraeg, na fasa? "Categori:Tref Gwynedd"?!  :-) Anatiomaros 20:03, 6 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Dylswn i wedi esbonio hefyd nad yw ailgyfeirio categori yn gweithio. Yr unig beth mae'n wneud ydy rhoi'r ailgyfeiriad yn y categori yr ailgyfeirwyd ato, e.e. rhoi 'Categori:Beiolegwyr Cymreig' yn 'Categori:Biolegwyr Cymreig'. Anatiomaros 20:13, 6 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Mae'r ddau air Cymraeg Biolegydd a Beiolegydd yn cael ei ddefnyddio. Beth felly wyt ti'n ei awgrymu? Llywelyn2000 20:17, 6 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Wel, dydy o ddim yn fater o ddweud fod un yn fwy cywir na'r llall - basa hynny fel deud fod 'haneswr' yn gywirach air na 'hanesydd' - ond dim ond un enw gawn ni ar gategori achos fel 'na mae'r meddalwedd yn gweithio. Dydy o ddim fel achos erthygl lle fedr rhywun ailgyfeirio. Croeso i ti ddefnyddio y naill neu'r llall yn nhestun yr erthygl ei hun, wrth gwrs. Anatiomaros 20:35, 6 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Bydd dim problemau iaith yma eto!

Dwi di brynu Cysgliad (sef Cysill a Cysgeir) ar gyfer fy nghyfrifiadur (am £55)! Mae'n cywiro popeth! Felly byth gen i broblemau treiglo eto! (gobeithio!)

Roeddwn ni just am adael i chi wybod rhag ofn i chi gredu bo fy iaith ysgrifenedig wedi gwella dros nos! Pob hwyl, Rhys Thomas 17:38, 11 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Dwi'n mwynhau cywiro iaith, dyna peth o fy job i yma, a mi wna i ddal i wneud hynny. Paid a phoeni dim. Mae'r wybodaeth gen ti yn gyfraniad BENDIGEDIG i Wicipedia. Dal i fynd. Tydy o ddim ots am yr iaith, gad hynny i mi ac eraill. Paid a thalu arian mawr am y meddalwedd, fe ddylai fod am ddim ta beth!! Ond ar ben pob peth, paid ag anghofio'r gwaith pwysicaf sydd gen ti rwan. NID Wicipedia, ond dysgu dy waith Lefel A - er mwyn Wicipedia a'r Gymraeg. Dos ymlaen i gael y graddfeydd gorau medri di. Fe ddaw rheolau iaith wedyn! Sorri am ddoe. Llywelyn2000 19:47, 11 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Hei, paid poeni am ddoe, fy mai i oedd o am ddim safio'r erthygl cyfan mewn un tro! Mae wicipedia yn fy help efo'r lefelau A! Rwyn mwynhau cyfrannu a dysgu gwaith ar yr un pryd na just eistedd ac yn adolygu am oriau! Fi di penderfynnu cael diwrnod mawr adolygu (+cyfrannu i wicipedia) yfory, fi di blino gormod heno! Diolch am eich sylwadau anyway! Pob hwyl, Rhys Thomas 20:52, 11 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Diolch. Llywelyn2000 21:16, 11 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Moel Plas-yw

Diolch i ti am yr ychwanegiad diweddaraf at fryniau Clwyd, ond ydy Moel Plas-yw yn fryngaer? Does dim sôn am hynny yn yr erthygl a dim cyfeiriad yn y llawlyfr am Glwyd a Phowys yn y gyfres safonol Ancient and Historical Wales na The Archaeology of Clwyd chwaith. 'Mond gofyn! Anatiomaros 13:11, 14 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Message on en-wp

Just to let you know, I've put a message on your en-wp page. cheers AndrewRT 21:16, 15 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Asfarer

Dwi wedi dadflocio Defnyddiwr:Asfarer. Fo sy'n gyfrifol am greu erthyglau ffilm ar y wici Catalaneg fel yr un hir a manwl ar y Corpse Bride ([1]) sy'n cynnwys rhyw fil o eiriau - dwi ddim yn meddwl fod ein "cyfaill" o UDA yn ieithgi ac mae'r dolenni rhyngwici - i gyd i'r wici Catalaneg - yn ddilys, hyd y gwelaf i. Ond paid a phoeni am hynny - hawdd deall pam ein bod ni i gyd dipyn bach yn baranoid y dyddiau hyn! Anatiomaros 21:18, 25 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Diolch Anatiomaros. Y cwestiwn sylfaenol yw hyn: oes na ffordd i ddarganfod cyfeiriad IP person sydd wedi cofrestru? Diolch am dy ymateb gyda llaw. Llywelyn2000 23:57, 25 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Erthygl Perth!

Shwmae? Dwi di egluro ystyr y brawddeg or erthygl Perth (Awstralia) ar y tudalen sgwrs- Sgwrs:Perth (Awstralia)

Hwyl, Rhys Thomas 23:40, 13 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Y gwybodlen mwya confusing :S

Dwi wedi (or diwedd!) gorffen creu'r gwybodlen Nodyn:Gwybodlen Afiechyd. Mae'n eithaf confusing ond os yr ydych yn cymharu'r un dwi di rhoi ar yr erthygl Annwyd ar blwch ar yr erthygl Saesneg Common Cold byddwch yn iawn! Mae'n rhaid i chi copio'r codau (mesh, DiseasesDB, emedicine...etc) o'r wici's eraill, a profi ei bod nhw'n gweithio ar ei'n nodyn ni. Hwyl, Rhys Thomas 17:45, 15 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Diolch Rhys; does dim dryswch ynddo; mae'n gret! Mi ychwanega i'r rhestr afiechydon oddi tano, neu efallai ei addasu i'w cynnwys, ond mae'r gwaith caled wedi ei wneud gen ti - unwaith eto. Diolch Rhys. Llywelyn2000 05:23, 16 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Hen feirws hyll

Oherwydd rhyw hen aflwydd digidol mae 'nghyfrifiadur i lawr - mi fyddaf yn ol gynted y medraf. Llywelyn2000 08:58, 18 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Nodiant E-Z

Diolch am cywiro'r iaith- ond sain hollol siwr am hyn:

"Mae hyn yn estyniad o'r nodiant cis/trans ond mil gwell o ran IUPAC ydy'r ffordd mae'r nodiant E-Z yn disgrifio'r priodweddau."

Rwy'n ceisio dweud: E-Z notation, or the E-Z convention is the IUPAC preferred method of describing the stereochemistry of double bonds in organic chemistry. It is an extension of cis/trans notation that can be used to describe double bonds having three or four substituents.

Diolch, Rhys Thomas 12:13, 28 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Haia Rhys. Beth am: "Nodiant E-Z neu gonfensiwn E-Z ydy dull dethol IUPAC o ddisgrifio stereocemeg bondiau dwbwl sydd a 3 neu 4 dirprwy." Llywelyn2000 13:28, 28 Mai 2009 (UTC)[ateb]
Swnion iawn i fi! Rhys Thomas 14:31, 28 Mai 2009 (UTC)[ateb]

Bwrdd yr Iaith

S'mae Llywelyn? Wyt ti wedi gweld yr ateb ges i gan y Bwrdd (yma)? Beth am UCAC? Araf yw'r symud ar hyn o bryd, rhwng popeth. Dwi'n hanner meddwl am anfon e-bost at y Gweinidog dros Dreftadaeth... Hwyl, Anatiomaros 15:54, 6 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Henffych! Dwi wedi cael gair gyda Llywydd UCAC, do; mae eisioes yn gyfarwydd â Wici ac yn gweld potensial aruthrol ynddo. Yn ystod yr wythnosau nesaf mae am drafod hyn gydag un neu ddau o bobl eraill o fewn yr undeb.
Alun Ffred: efallai y gallwn ei gyfarfod yr un pryd â Ieuan Wyn Jones? Llywelyn2000 17:37, 6 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Siars y Dduwies

Helo Llywelyn2000. Diolch yn fawr am lanhau "Siars y Dduwies." Tybed os fedred lanhau (gwella, beth bynnag) y siars lawn a ffeindir yma pryd oes amser gen ti? Bydd yn wych i weld ef yna :) Diolch eto, Wiccan1 21:22, 10 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Mae wedi ei wenud, er bod un neu ddau o fannau dryslyd. Llywelyn2000 14:48, 12 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr iawn i chdi. Wedi'i gwerthfawrogi'n fawr, Wiccan1 16:30, 12 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Heia. Dwi newydd gywrio'n bellach, Wiccan1 20:53, 12 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Diolch i ti am dy gyfraniadau gwahanol. Mi wna i drio cywiro ymhellach yn ystod y dyddiau nesa, ond mae amser yn brinach nag aur y dyddiau hyn, a bywyd yn gwasgu'n dynn. Llywelyn2000 21:27, 12 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Diolch :) Pryd bynnag chdi isio rŵan - 'sdim brys, Wiccan1 10:53, 14 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Bod yn fusneslud

Gweld bod ti'n chwarae yn y tywod ar hyn o bryd. Efallai byddai'n well osgoi rhoi dolenni lliw coch yn fy marn i, gan y gall arwain at bobl i beidio clicio arnynt gan feddwl nad yw'r erthygl wedi ei chreu eto? --Ben Bore 14:00, 12 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Cytuno'n llwyr. Gwyrdd am Gymru, Brown am y Lloegrwys, efallai? :-)
Hyd yma dw i wedi methu a darganfod ffordd o chwyddo maint y ffont ar gyfer y prif ranbarthau, heb son am droi'r testun ar ongl! Fe ddaw mewn degawd, dw i'n siwr! Mae'r math hwn o iaith fewnol mor gyntefig ag oedd htm nol yn 1994 pan gychwynais chwarae ag o. Enw'r rhaglen oedd 'Ferret', os cofia i'n iawn; cyn dyfodiad Netscape Navigator i olygu gwefanau. Mae iaith fewnol Wici yn eitha tebyg! Oes yr oen a'r blaidd! Diolch i ti. Llywelyn2000 14:46, 12 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Beth am ddefnyddio ychydig o HTML? Mae'n werth trio!--Ben Bore 08:39, 15 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Help with Disney

Can all the disney articles be unprotected? I really don't see why they need to be. Some examples of good edits I would restore:

[2], [3], [4], [5], [6].

These are just some. And really they all need iw updates. Also can you improve all these articles? 75.75.124.218 22:05, 16 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Amlwg pwy ydy hyn! Dyma tudalen sgwrs yr un cyfeiriad IP ar en:... Anatiomaros 22:13, 16 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]
Ei anwybyddu ydy ore, a'i flocio wrth gwrs. Ysgwydd o rew. Diolch am y ddolen. Llywelyn2000 22:33, 16 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Translation Request

Hi! Could you translate and add this article into your wonderful wikipedia? You can reach me here. Thanks. With Kind Regards --Warayupay 18 jen 2009 à 09:49 (UTC)

Tacloban Tacloban is a port city in the Philippines. It is approximately 360 miles southeast of Manila. It is the capital of the province of Leyte. It is also the regional center of Eastern Visayas.

Sorry, dont do requests! Llywelyn2000 05:41, 3 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Sori Llywelyn!

Sori- o ni di anghofio dod nol atoch am y nodyn ynglun a Eurovision! Yn anffodus o ni methu trwsho fe...mae'r }} yn atal diflannu! Rhys Thomas 16:14, 4 Gorffennaf 2009 (UTC)[ateb]

Dim probs! Diolch (hwyr!) Llywelyn2000 05:41, 3 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Afiechyd

Amser maith yn ôl fe greais i Nodyn:Gwybodlen Clefyd, felly byddaf i'n ceisio cyfuno'r ddwy wybodlen rhywbryd. Mae'r llythyren goch dramgwyddus yn deillio o Nodyn:ICD10; dwi'n cymryd taw copïo a gludo (a chyfieithu) y nodiadau ar en: a wnaeth Rhys. Pwrpas y cyswllt yw i fynd â'r darllenydd i ryw erthygl debyg i hon (en:ICD-10 Chapter A) sy'n rhoi rhestr feddygol ar y wici yn ogystal â darparu cyswllt allanol yn y wybodlen i wefan uchel ei bri megis y WHO.

Gyda llaw, fe ddefnyddiais "llid" i olygu inflammation gan fod Gwyddoniadur Iechyd y GIG ("Enseffalitis yw llid (chwyddo) meinwe’r ymennydd.") yn ogystal â geiriadur y BBC yn awgrymu'r defnydd hwn. Efallai pan ddaw'r amser i greu erthygl ar y pwnc dylwn cadw llid fel tudalen wahaniaethu gyda llid (meddygaeth) neu llid (chwyddo) ar gyfer yr ystyr hon. Cofion, --Adam (Sgwrs) 22:39, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Diddorol. Yr unig "llid" faswn i'n ei ddweud yn naturiol ydy "Llid yr Ymenydd", ("encephalitis" yn Saesneg, a wnes i rioed feddwl am y meinwe'n chwyddo. Enyniad faswn i'n ddweud am inflamation, ond mae llid hefyd yng Ngeiriadur Bruce. Llywelyn2000 22:47, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]
O'm wybodaeth i, gall "llid yr ymennydd" hefyd olygu meningitis. Mae'r Gwyddoniadur Iechyd yn osgoi'r broblem hon trwy ddefnyddio enseffalitis a . . . meningitis. Nid ydw i'n arbenigwr yn y maes yma o bell ffordd, ac i gyd gallaf i weld o wefan y GIG yw eu bod yn defnyddio "llid" mewn enwau afiechydon sydd yn y Saesneg yn diweddau ag "-itis", h.y. afiechydon sy'n gysylltiedig ag inflammation: llid y pendics = appendicitis, llid y sinysau = sinusitis, ayyb. --Adam (Sgwrs) 22:58, 5 Awst 2009 (UTC) --nodyn: wedi postio'r sylw hwn ar Sgwrs:Enseffalitis yn ogystal.[ateb]
"Llid y Freithell" ydy meingitis i mi, ac wedyn does dim amwyster; mae Bruce hefyd yn ei grybwyll. A Cwlwm y coledd ydy appendicitus. OND os ydan ni'n cadw at y Gwyddoniadur Iechyd yna, mae gennym ni ffynhonnell ddibynadwy ac arbenigwyr eraill i sgwyddo'r bai! OND rhaid nodi GI fel ffynhonnell ar bob tudalen addas. Mi geua i fy ngheg, felly! Llywelyn2000 23:07, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Dim ond trwy gadw'n cegau ar agor (neu o leiaf ein bysedd yn brysur dros y bysellfwrdd) y gallwn sicrhau Wicipedia doeth a chynhwysfawr! Ond cytunaf bod un ffynhonnell safonol yn bwysig, felly cawn cadw at safonau'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol, ond gyda digon o ailgyfeiriadau a nodiadau "efallai eich bod yn chwilio am ..." ar ben erthyglau (er mae'n ymddangos bod ambell cofnod o'r Gwyddoniadur Iechyd yng nghanol diweddariadau, felly dim syndod os yw'r termau maent yn ffafrio yn newid rhywbryd). Cofion, --Adam (Sgwrs) 23:16, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Derbyn termau'r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol, felly, yn hytrach na'r Gwyddoniadur Iechyd? Pa un ydy'r mwyaf trylwyr / gorau?
Y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol sy'n cyhoeddi'r Gwyddoniadur Iechyd yma, neu o leiaf Galw Iechyd Cymru (NHS Direct Wales). Felly safonau'r Gwyddoniadur, sef safonau'r GIG mewn ffurf gyfleus yn nhrefn yr wyddor. --Adam (Sgwrs) 23:24, 5 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Annet_gan_Nat_Legg.jpg

Hi,

The image, with correct info.

Just the URL of the source picture were needed. --Dereckson 16:22, 10 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Thanks! Diolch. Llywelyn2000 20:13, 10 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Mab Darogan

Llywelyn, oedd gen ti reswm arbennig dros ddileu ychwanegiadau Anatiomaros neithiwr i'r rhan "Owain Glyndŵr" o'r erthygl yma? Alla i ddim gweld fod dim o'i le arnynt. Rhion 06:07, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Dwi wedi adfer y testun. Llywelyn, fedra'i ddim gweld fod unrhyw gyfiawnhad o gwbl dros y golygiad hwn, heb esboniad o fath yn y byd. Anatiomaros 17:10, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Dau neu dri o fân newidiadau wnes i: defnyddio'r gair Cymraeg am Frwydr Baddon yn hytrach na'r Lladin; gan roi'r Lladin mewn cromfachau ar ei ôl. Dyma ein trefn ar Wicipedia ac mae cysondeb yn rhinwedd. Yn ail, newidiwyd "mewn ogof rywle" i'r ffurf ychydig mwy derbyniol a ffurfiol, sef "mewn ogof yn rhywle". Yn drydydd, cywirais y defnydd anghywir o gromfachau ar ddiwedd brawddeg gan ddechrau brawddeg newydd gyda "Chwedl ddiweddarach yw honno". Fy mhederydd cywiriad: newid "Arosodd Cynan..." i "Arhosodd Cynan..." A DYNA NI. NID FI DDILEODD Y RHAN NESAF. RHYFEDD IAWN. RHYFEDD IAWN, IAWN! Llywelyn2000 21:54, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Doeddwn i ddim isio credu am eiliad dy fod wedi gwneud hyn ar bwrpas, Llywelyn. Dwi'n dal heb fedru deall sut y digwyddodd - fy ymateb cyntaf pan welais i'r diff oedd "Be ddiawl...!" - ond dwi'n derbyn dy esboniad. Efallai taw'r wers ydy siecio'n ofalus cyn gorffen golygu, ac ar ôl cadw'r dudalen hefyd? Anatiomaros 22:15, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Mi wnes. Doedd dim testun wedi'i ddileu. Rhyfedd iawn. Llywelyn2000 22:17, 13 Awst 2009 (UTC)[ateb]


Translation of a short story

Hi my friend!

I would like to request something from you. Yes, translation. I hope, it's not a bad thing for you. Some years ago I wrote a (really) short story about a lonely man (actually symbolized the Saami nation). I translated into some languages and I thought, it would be great to have it more, like also in Cymraeg. I made this page, the English translation is somewhere there. You can put the Cymraeg translation there (there is already a Scottish Gaelic verison, too). Thank you again! Sorry for my disturb... -hu:User:Eino81