Iŵl Cesar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
YurikBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 46: Llinell 46:
[[it:Gaio Giulio Cesare]]
[[it:Gaio Giulio Cesare]]
[[ja:ガイウス・ユリウス・カエサル]]
[[ja:ガイウス・ユリウス・カエサル]]
[[jbo:iulius.kaisar]]
[[ka:იულიუს კეისარი]]
[[ka:იულიუს კეისარი]]
[[ko:율리우스 카이사르]]
[[ko:율리우스 카이사르]]
Llinell 74: Llinell 75:
[[tr:Jül Sezar]]
[[tr:Jül Sezar]]
[[uk:Цезар Гай Юлій]]
[[uk:Цезар Гай Юлій]]
[[vi:Julius Caesar]]
[[zh:恺撒]]
[[zh:恺撒]]

Fersiwn yn ôl 19:51, 25 Awst 2006

Delwedd:Julius caesar.jpg
Iŵl Cesar

Roedd Iŵl Cesar (Lladin: Gaius Iulius Caesar; 13 Gorffennaf 100 CC15 Mawrth 44 CC) yn arweinydd milwrol a gwleidydd ym mlynyddoedd cynnar yr Ymerodraeth Rufeinig.

Daeth Cesar i rym yn gyntaf yn 60 CC mewn cynghrair gyda dau wleidydd arall, sef Gnaeus Pompeius Magnus (Pompei Mawr) a Marcus Licinius Crassus. Galwyd y cynghrair yma yn y triumvirate. Yn ôl eu cytundeb, daeth Cesar yn lywodraethwr dros Gâl, sef yr ardal sydd yn cwmpasu Gogledd yr Eidal, y Swistir a Ffrainc heddiw. Bu Cesar yn arweinydd yn ystod y Rhyfel Galaidd yn erbyn pobl Germania, a oedd eisiau symud i'r ardal. Ysgrifennodd Cesar am y rhyfel yma, 8 mlynedd o hyd, yn ei lyfr De Bello Gallico.

Nid oedd llywodraethwr Gâl yn medru mynd i Rufain heb ganiatâd y Senedd. Pan oedd gyrfa Cesar fel llywodraethwr y dalaith bron ar ben roedd ganddo broblemau gwleidyddol ac roedd yn awyddus i ddychwelyd i Rufain cyn gynted â phosib rhag i'w elynion gwleidyddol ennill y blaen arno. Meddiannodd Cesar y ddinas gyda'i fyddinoedd a gwnaeth ei hun yn deyrn.

Priododd Cesar dwy ferch Rufeinig ond ni chawsant plant. Teithiodd i'r Aifft lle bu cwrdd â'r Brenhines Cleopatra. Syrthiasant mewn cariad a cafodd Cleopatra fab o'r enw Caesarion ond nid oedd y ddau yn gallu priodi yn ôl y gyfraith Rufeinig. Penododd Cesar ei nai Octavianus fel ei aer yn hytrach na'i unig blentyn. Daeth Octavianus i gael ei adnabod yn hwyrach fel Cesar Awgwstws, ymerawdwr cyntaf Rhufain.

Roedd pobl a oedd o blaid Senedd cryf yn anfodlon bod gan Iŵl Cesar gymaint o bŵer. Ar Ides (sef canol y mis) Mawrth 44 CC galwyd Cesar i'r Senedd a llofruddiwyd ef gan gyfaddawdwyr yn cynnwys ei ffrind Marcus Iunius Brutus a Gaius Cassius Longinus.

Dyfyniadau

  • Veni, vidi, vici
    • Deuais, gwelais, concwerais.
  • Gallia est omnis divisa in partes tres
    • Mae Gâl wedi ei rhannu yn dair rhan (Llinell cyntaf De Bello Gallico).
  • Et tu, Brute? (A ti hefyd, Brutus?) Then fall, Caesar!