Y Gymanwlad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
YurikBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: bn, bs, sh, simple, sr
YurikBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 124: Llinell 124:
[[lt:Tautų Sandrauga]]
[[lt:Tautų Sandrauga]]
[[lv:Nāciju sadraudzība]]
[[lv:Nāciju sadraudzība]]
[[ms:Negara-negara Komanwel]]
[[ms:Negara-negara Komanwel British]]
[[nl:Gemenebest van Naties]]
[[nl:Gemenebest van Naties]]
[[no:Samveldet av nasjoner]]
[[no:Samveldet av nasjoner]]

Fersiwn yn ôl 16:24, 25 Awst 2006

Cymdeithas gwledydd annibynol yw'r Gymanwlad. Y Deyrnas Unedig a'i chyn wladfeydd yw mwyafrif llethol aelodau'r Gymanwlad. Ail dydd Iau mis Mawrth yw Dydd y Gymanwlad.

Mae brenin Lloegr yn ben gwladwriaeth mewn nifer o aelod-wladwriaethau, sef yn Nheyrnasau y Gymanwlad. Mae mwyafrif aelodau y Gymanwlad yn weriniaethau neu yn deyrnasau. Ond mae pawb yn cydnabod y Frenhines Elisabeth II fel pen y Gymanwlad.

Hanes ac aelodaeth

Olynydd yr Ymerodraeth Prydeinig yw'r Gymanwlad. Dechrau ffurfiol y Gymanwlad oedd y Cynadleddau Imperialaidd tua diwedd y 1920au, sef cynadleddau o Brif Weinindogion Prydain a'i (chyn)wladfeydd. Yn y cynadleddau hyn fe gydnabyddwyd annibyniaeth gwladfeydd a oedd yn rheoli eu hunain. Fe gydnabyddwyd perthynas gyfartal gwledydd y Gymanwlad yn fffurfiol yn Statud Westminster ym 1931.

Wedi'r ail ryfel byd roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn datgymalu o dipyn i beth. Roedd nifer cynyddol y cyn wladfeydd yn ennill eu hannibyniaeth yn rhannol oherwydd twf mudiadu dros annibyniaeth (fel ag yn yr India o dan ddylanwad Mohanda Gandhi) ac yn rhannol oherwydd bod llywodraeth Prydain o dan straen cyllidol wedi'r Ail Ryfel Byd. Fe ymunodd pob gwladfa flaenorol heblaw am ambell wlad tebyg i Burma (a elwir yn awr yn Myanmar; 1948) a De Yemen (1967). Bu Iwerddon yn aelod hefyd, ond gadawodd wedi iddi droi yn weriniaeth ym 1949. Ar hyn o bryd mae tua 30% o boblogaeth y byd yn drigolion y Gymanwlad.

Gall pa wlad bynnag sy'n cydnabod amcanion y Gymanwlad ymuno, ond fel arfer mae'n rhaid bod cysylltiad cyfansoddiadol rhwng yr aelod â'r DU neu unrhwy aelod arall y Gymanwlad. Gan hynny, mae rhai gwledydd y Môr Tawel yn aelodau yn sgil eu cyn rwymau ag Awstralia. Mae Namibia yn aelod oherwydd iddi gael ei rheoli gan De Affrica o 1920 hyd at 1990, sef blwyddyn ei hannibyniaeth. Ymunodd Camerwn ym 1995 serch nad ond rhan fechan o'r wlad oedd wedi ei weinyddu gan Brydain. Yn eithriad nad oedd i osod cynsail cafodd Mosambic ymuno er nad oedd eriod wedi ei reoli gan Brydain nag unrhyw aelod arall y Gymanwlad.

Gwaharddwyd aelodaeth Ffiji a Phacistan am amser o achos cwymp eu llwyodraeth democrataidd a sefydliad llywodraeth milwrol. Gwaharddwyd De Affrica yn ystod adeg Apartheid ac ni ailgydiodd yn ei haelodaeth hyd at 1994. Gwaharddwyd Nigeria rhwng 1995 a 1999 a Zimbabwe ers 2002 oherwydd problemau polisiau Robert Mugabe.

Strwythr ac amcanion

Elisabeth II yw pen y sefydliad. Ers 1965 mae Swyddfa'r Gymanwlad yn Llundain. Ar hyn o bryd Don MacKinnon, a oedd gynt yn Weinidog Tramor Seland Newydd, yw Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymanwlad.

Mae cynhadledd yr aelod-wladwriaethau yn digwydd bob yn ail flwyddyn. Er bod hynny yn gyfle i bobl o wledydd cyfoethog a gwledydd tlawd siarad a phenderfynu gyda'i gilydd, bu y berthynas rhwng Prydain a gwledydd Affrica yn oeri ers problemau Rhodesia, yn y 1970au, ac apartheid yn Ne Affrica, yn y 1980au. O ganlyniad, bu aelodau yn cryfhau eu perthynas â gwledydd eraill ac yn sgil hynny lleihaodd nerth gwleidyddol ac economaidd y Gymanwlad.

Heddiw, hybu cydweithrediad rhwng gwledydd, cryfhau iawnderau dynol a democratiaeth yw gwaith pennaf y Gymanwlad.

Aelodau

(yn nhrefn y cyfandiroedd a blwyddyn eu hymuno)

Aelodau gwaharddedig ar hyn o bryd:

Cyn aelodau: