Cyngor Dinas a Sir Abertawe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
enw S. (cf. yr arfbais ac enw'r erthygl S.) |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
|} |
|} |
||
'''Cyngor Dinas a Sir Abertawe''' (Saesneg:'' |
'''Cyngor Dinas a Sir Abertawe''' (Saesneg:''City and County of Swansea'') yw corff llywodraethol un o [[Llywodraeth leol yng Nghymru|ardaloedd awdurdod unedol]] [[Cymru]] sy'n cynnwys [[Abertawe]], [[Gŵyr]] a'r ardal gyfagos ac sydd â statws [[sir]]ol. Mae'r cyngor yn cynnwys 72 o gynghorwyr sy'n cynrychioli 36 etholaeth. |
||
Ar hyn o bryd, rheolir y cyngor gan y [[Democratiaid Rhyddfrydol]] o dan arweinyddiaeth y Cynghorydd [[Christopher Holley]]. |
Ar hyn o bryd, rheolir y cyngor gan y [[Democratiaid Rhyddfrydol]] o dan arweinyddiaeth y Cynghorydd [[Christopher Holley]]. |
Fersiwn yn ôl 16:54, 8 Awst 2009
Logo Cyngor Dinas a Sir Abertawe | |
Arfbais Cyngor a Dinas Abertawe | |
Rheolaeth | Democratiaid Rhyddfrydol / Annibynnol Clymblaid |
---|---|
AS | |
Gwefan swyddogol | swansea.gov.uk |
Cyngor Dinas a Sir Abertawe (Saesneg:City and County of Swansea) yw corff llywodraethol un o ardaloedd awdurdod unedol Cymru sy'n cynnwys Abertawe, Gŵyr a'r ardal gyfagos ac sydd â statws sirol. Mae'r cyngor yn cynnwys 72 o gynghorwyr sy'n cynrychioli 36 etholaeth.
Ar hyn o bryd, rheolir y cyngor gan y Democratiaid Rhyddfrydol o dan arweinyddiaeth y Cynghorydd Christopher Holley.
Hanes bwrdeisdrefol
Derbyniodd Abertawe ei siarter gyntaf rhyw bryd rhwng 1185-1184 gan William de Newburgh, 3ydd Iarll Warwick. Rhoddodd y siarter hwn statws bwrdeisdref i Abertawe, a roddai hawliau penodol i drigolion y dref i ddatblygu'r ardal. Rhoddwyd ail siarter yn 1215 gan y Brenin John. Erbyn 1888, roedd gan y bwrdeisdref statws bwrdeisdref sirol, a oedd yn ei gwahanu o sir weinyddol Morgannwg.
Ym 1974, o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, unwyd Abertawe (a oedd yn fwrdeisdref sirol hyd yn hyn) gyda Ardal Wledig Gŵyr, er mwyn creu ardal o Orllewin Morgannwg a alwyd Ardal a Dinas Abertawe. Ym 1996, yn sgil diwygio llywodraeth lleol, gwelwyd Abertawe'n uno gyda rhannau o ardal Dyffryn Lliw er mwyn creu awdurdod lleol o'r enw 'Dinas a Sir Abertawe'.
Maeryddiaeth
Mae maer Abertawe yn uwch-aelod o'r Cyngor etholedig. Teitl y mae ydy "Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Abertawe". Cartref swyddogol yr Arglwydd Faer ydy Mansion House yn Ffynone.
Blwyddyn bwrdeisdrefol | Maer |
---|---|
2009-2010 | Alan Lloyd |
2008-2009 | Gareth Sullivan |
2007-2008 | Susan Waller |
2006-2007 | Chris Holley |
2005-2006 | Mair Gibbs |
Cyfansoddiad gwleidyddol
Cynhelir etholiadau bob pedair blynedd. Cynhaliwyd yr etholiad diwethaf ar 1 Mai 2008.[1]
Blwyddyn | Llafur | Ceidwadol | Democratiaid Rhyddfrydol | Plaid Cymru | Eraill | Nifer a bleidleisiodd | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|---|
2008 | 30 | 4 | 23 | 1 | 14 | 38.19% | Dim rheolaeth lawn, Rheolaeth Gweinyddiaeth Abertawe |
2004 | 32 | 4 | 19 | 5 | 12 | 38.32% | Dim rheolaeth lawn, Rheolaeth Gweinyddiaeth Abertawe |
1999 | 45 | 4 | 11 | 3 | 9 | Rheolaeth Llafur | |
1995 | Rheolaeth Llafur |
ffynhonnell: [2]
Rhwng 1996 a 2004, roedd y cyngor o dan reolaeth y Blaid Lafur. Ers 2004 ni fu rheolaeth lawn gan unrhyw blaid unigol a rheolir y cyngor gan glymblaid y Democratiaid Rhyddfrydol gyda chydweithrediad cynghorwyr annibynnol a'r Blaid Geidwadol. Gelwir hyn yn Weinyddiaeth Abertawe. Fodd bynnag, newidiodd yr ystadegau hyn rhwng 2004-2008 pan symudodd y Cyngh. Keith Morgan o Blaid Cymru i'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn 2005 a'r Cyngh. Rene Kinzett o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig i'r Blaid Geidwadol yn 2006.
Yn dilyn etholiadau 2008, cytunodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ffurfio clymblaid gyda'r cynghorwyr annibynnol am y bedair blynedd nesaf.