Brynaich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ar:برنيسيا
Llinell 10: Llinell 10:
[[Categori:Eingl-Sacsoniaid]]
[[Categori:Eingl-Sacsoniaid]]


[[ar:برنيسيا]]
[[br:Bernikia]]
[[br:Bernikia]]
[[de:Bernicia]]
[[de:Bernicia]]

Fersiwn yn ôl 03:19, 8 Awst 2009

Teyrnas Eingl-Sacsonaidd yn ne-ddwyrain yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr oedd Brynaich neu Bryneich (Saesneg: Bernicia). Sefydlwyd y deyrnas gan yr Eingl yn y 6ed ganrif, ond efallai fod teyrnas Frythonig o'r enw Brynaich wedi bodoli yn flaenorol.

Roedd tiriogaeth Brynaich yn ymestyn o Afon Forth i Afon Tees; mewn termau modern roedd yn cyfateb i Northumberland, Swydd Durham, Swydd Berwick a Dwyrain Lothian. Cyn sefydlu'r deyrnas Eingl, roedd y tiriogaethau hyn yn rhan ddeheuol teyrnas Gododdin. Efallai mai ei phrifddinas oedd Bamburgh, a elwid yn Din Guardi yn yr hen ffynonellau Cymreig. Gerllaw roedd Ynys Metcaut (Lindisfarne).

Y cyntaf o frenhinoedd Eingl Brynaich y mae cofnod amdano yw Ida, a ddaeth i'r orsedd tua 547. Unodd ŵyr Ida, Æthelfrith, deyrnas Deifr a'i deyrnas ei hun tua 604 i greu teyrnas Northumbria.