Llandarcy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q6661149 (translate me)
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B Golygu cyffredinol (manion), replaced: a iechyd → ac iechyd using AWB
Llinell 7: Llinell 7:
Enwyd y pentref ar ôl William Knox D'Arcy (cyfarwyddwr a sefydlodd y cwmni olew [[Anglo-Iranian Oil Company|Anglo-Persian]], rhagflaenydd BP), ac adeiladwyd tua 250 o dai allan o gerrig ynghyd a chanolfan gymunedol a siop leol.
Enwyd y pentref ar ôl William Knox D'Arcy (cyfarwyddwr a sefydlodd y cwmni olew [[Anglo-Iranian Oil Company|Anglo-Persian]], rhagflaenydd BP), ac adeiladwyd tua 250 o dai allan o gerrig ynghyd a chanolfan gymunedol a siop leol.


Roedd y pentref yn leoliad llofruddiaeth y merched ysgol Pauline Floyd, Geraldine Hughes a Sandra Newton ym 1973, a elwir yn [[llofruddiaethau Llandarcy]]. Arhosodd eu llofruddiwr yn anwybyddus am 29 mlynedd, tan 2002, pan gymerwyd tystiolaeth [[DNA]] gan [[Heddlu De Cymru]] o fedd Joe Kappen, a weithiodd fel dyn drws, gyrrwr loriau a bysiau. Bu farw Kappen o gancr yr ysgyfaint ar 17 Mehefin 1990, yn 49 oedd, ac aeth a'i gyfrinach gydag ef i'w fedd.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.guardian.co.uk/lifeandstyle/2003/jan/18/weekend.kevintoolis| teitl=The hunt for the Saturday Night Strangler| cyhoeddwr=The Guardian| dyddiad=18 Ionawr 2003}}</ref>
Roedd y pentref yn lleoliad llofruddiaeth y merched ysgol Pauline Floyd, Geraldine Hughes a Sandra Newton ym 1973, a elwir yn [[llofruddiaethau Llandarcy]]. Arhosodd eu llofruddiwr yn anwybyddus am 29 mlynedd, tan 2002, pan gymerwyd tystiolaeth [[DNA]] gan [[Heddlu De Cymru]] o fedd Joe Kappen, a weithiodd fel dyn drws, gyrrwr loriau a bysiau. Bu farw Kappen o gancr yr ysgyfaint ar 17 Mehefin 1990, yn 49 oedd, ac aeth a'i gyfrinach gydag ef i'w fedd.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.guardian.co.uk/lifeandstyle/2003/jan/18/weekend.kevintoolis| teitl=The hunt for the Saturday Night Strangler| cyhoeddwr=The Guardian| dyddiad=18 Ionawr 2003}}</ref>


== Chwaraeon a hamdden ==
== Chwaraeon a hamdden ==
Rhedodd gwmni BP hefyd glwb chwaraeon a hamdden. Yn dilyn cau'r burfa, prynwyd y ganolfan gan gwmni Llandarcy Park Ltd, a ail-ddatblygodd y safle gyda chlwb heini a iechyd newydd, gwesty a bwyty.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.npt.gov.uk/default.aspx?page=2482&pr_id=1123| cyhoeddwr=Neath Port Talbot County Borough Council| teitl=Press Release: Llandarcy Park Ltd| dyddiad=19 Chwefror 2001}}</ref> Mae Llandarcy yn gartref i'r Glamorgan Health & Racquets Club, sydd â ystod o gyfleusterau chwaraeon allanol a dan do,<ref>{{dyf gwe| url=http://www.esporta.com/glamorgan/default.asp| teitl=The Glamorgan Health & Racquets Club}}</ref> ac Academi Chwaraeon Llandarcy, sydd â un o'r unig ddau faes ymarfer gwair dan do yng Nghymru.<ref>{{dyf gwe| url=http://llandarcysport.co.uk/| teitl=Llandarcy Academy of Sport}}</ref>
Rhedodd gwmni BP hefyd glwb chwaraeon a hamdden. Yn dilyn cau'r burfa, prynwyd y ganolfan gan gwmni Llandarcy Park Ltd, a ail-ddatblygodd y safle gyda chlwb heini ac iechyd newydd, gwesty a bwyty.<ref>{{dyf gwe| url=http://www.npt.gov.uk/default.aspx?page=2482&pr_id=1123| cyhoeddwr=Neath Port Talbot County Borough Council| teitl=Press Release: Llandarcy Park Ltd| dyddiad=19 Chwefror 2001}}</ref> Mae Llandarcy yn gartref i'r Glamorgan Health & Racquets Club, sydd â ystod o gyfleusterau chwaraeon allanol a dan do,<ref>{{dyf gwe| url=http://www.esporta.com/glamorgan/default.asp| teitl=The Glamorgan Health & Racquets Club}}</ref> ac Academi Chwaraeon Llandarcy, sydd â un o'r unig ddau faes ymarfer gwair dan do yng Nghymru.<ref>{{dyf gwe| url=http://llandarcysport.co.uk/| teitl=Llandarcy Academy of Sport}}</ref>


== Ail-ddatblygiad ==
== Ail-ddatblygiad ==

Fersiwn yn ôl 14:42, 20 Awst 2018

Llandarcy

Pentref ger Castell-nedd ym mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru yw Llandarcy, lle ceir cyn-safle purfa olew cyntaf y DU. Saif y pentref ger cyffordd 43 yr M4. Cyllunwyd y pentref yn wreiddiol fel tref newydd i gartrefu gweithwyr y burfa a adeiladwyd gan gwmni BP rhwng 1918 ac 1922.[1]

Hanes

Dewiswyd Llandarcy fel safle'r burfa olew oherwydd ei agosatrwydd i Borthladd Abertawe, i le cafodd olew crai ei gludo dros y môr o'r Dwyrain Canol. Cafodd y safle ei ddifrodi gan fomiau'r Luftwaffe ym 1940.[2] Ar ei bwynt uchaf, roedd y burfa'n gyflogwr o bwys yn ne-orllewin Cymru, gyda dros 2600 o weithwyr.[3] Ond, roedd hefyd yn gyfrifol am lygredd diwydiannol yng Nghors Crymlyn gerllaw, ardal a ddynodwyd fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.[4] Cafodd graddfa'r gweithgareddau ar y safleu eu lleihau'n raddol dros y blynyddoedd, a caewyd y safle ym 1998.[5]

Enwyd y pentref ar ôl William Knox D'Arcy (cyfarwyddwr a sefydlodd y cwmni olew Anglo-Persian, rhagflaenydd BP), ac adeiladwyd tua 250 o dai allan o gerrig ynghyd a chanolfan gymunedol a siop leol.

Roedd y pentref yn lleoliad llofruddiaeth y merched ysgol Pauline Floyd, Geraldine Hughes a Sandra Newton ym 1973, a elwir yn llofruddiaethau Llandarcy. Arhosodd eu llofruddiwr yn anwybyddus am 29 mlynedd, tan 2002, pan gymerwyd tystiolaeth DNA gan Heddlu De Cymru o fedd Joe Kappen, a weithiodd fel dyn drws, gyrrwr loriau a bysiau. Bu farw Kappen o gancr yr ysgyfaint ar 17 Mehefin 1990, yn 49 oedd, ac aeth a'i gyfrinach gydag ef i'w fedd.[6]

Chwaraeon a hamdden

Rhedodd gwmni BP hefyd glwb chwaraeon a hamdden. Yn dilyn cau'r burfa, prynwyd y ganolfan gan gwmni Llandarcy Park Ltd, a ail-ddatblygodd y safle gyda chlwb heini ac iechyd newydd, gwesty a bwyty.[7] Mae Llandarcy yn gartref i'r Glamorgan Health & Racquets Club, sydd â ystod o gyfleusterau chwaraeon allanol a dan do,[8] ac Academi Chwaraeon Llandarcy, sydd â un o'r unig ddau faes ymarfer gwair dan do yng Nghymru.[9]

Ail-ddatblygiad

Defnyddwyd y tir a oedd heb ei ddefnyddio wedi lleihau'r burfa, ar gyfer nifer o whanol bethau. Adeiladwyd swyddfeydd newydd ardalol ar gyfer Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a datblygwyd y tir ger yr hen fynedfa i'r burfa ger yr M4 yn barc busnes.[10] Mae gweddill y tir diwydiannol lle lleolwyd y burfa hefyd yn cael ei ail-ddatblygu'n bentref newydd, sef Coed Darcy. Mae gan Ymddiriodolaeth y Tywysog ddiddordeb yn y cynllun, sy'n ceisio ei ddatblygu fel "Pentref Trefol", yn yr un modd a datblygwyd pentref Poundbury yn Dorset.[11]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol