Dylunio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Y Broses Ddylunio: Golygu cyffredinol (manion), replaced: gan gynwys → gan gynnwys using AWB
Llinell 20: Llinell 20:
*Dylunio ar ôl Cynhyrchu ac ymatebion ar gyfer dyluniadau'r dyfodol
*Dylunio ar ôl Cynhyrchu ac ymatebion ar gyfer dyluniadau'r dyfodol
** [[Gweithrediad]] - Cyflwyno'r ateb dyluniadol i'r amgylchedd terfynnol
** [[Gweithrediad]] - Cyflwyno'r ateb dyluniadol i'r amgylchedd terfynnol
** [[Gwerthfawrogi]] a [[Canlyniad|Chanlyniadu]] - Crynodeb o'r broses a'r canlyniadau, gan gynwys [[beirniadaeth]] a chynigion am wellhad
** [[Gwerthfawrogi]] a [[Canlyniad|Chanlyniadu]] - Crynodeb o'r broses a'r canlyniadau, gan gynnwys [[beirniadaeth]] a chynigion am wellhad
* Ail-ddylunio - Ail-adrodd unrhyw elfen o'r broses uchod, gyda chywiriadau, ar unrhyw adeg yn ystod, neu ar ôl cynhyrchu.
* Ail-ddylunio - Ail-adrodd unrhyw elfen o'r broses uchod, gyda chywiriadau, ar unrhyw adeg yn ystod, neu ar ôl cynhyrchu.



Fersiwn yn ôl 22:29, 17 Awst 2018

Caiff dylunio, ei ystyried fel arfer yn arlunio, peirianneg, pensaerniaeth, ac ym meysydd creadigol eraill. Yn y broses o ddylunio, mae dylunydd fel arfer yn ystyried agweddau estheteg, gweithrediad, a nifer o elfennau eraill sy'n gofyn am ymchwil, meddwl, modelu, addasu, ac ail-ddylunio helaeth.

Athroniaeth dylunio

Gall astudio natur ac effaith dylunio fod yn ddi-ddal. Does dim iaith dylunio unedig na chorff unedig o ddylunwyr o bob disgyblaeth. Gall llwyddiant achosi disgwyliadau uwch fel ym mhob maes, ond yn nylunio yn arbennig does dim modd o fesur y llwyddiant.

Mae nifer fawr o athroniaethau sy'n tywys dylunio a gwerthoedd dylunio, gan fod agweddau gwahanol ar gyfer pob elfen o ddylunio, ac ar gyfer pob ffordd o feddwl a phob dylunydd unigol.[1] Defnyddir athroniaeth dylunio ar gyfer penderfynu targedau. Gall targed dylunio fod yn rhywbeth megis datrys problemau unigol pwysig yr elfen lleiaf, hyd at targedau dylanwadol, hynod o holistig a delfrydol. Defnyddir targedau fel arfer er mwyn tywys dylunio, er gall hyn gwrth-ddweud y targedau syml, ac arwain at gwestiynu pwrpas y dylunio. Dros amser hir, fe all hyn wella safon y dylunio.

Y Broses Ddylunio

Gall rhannau o'r broses o ddylunio gynnwys yr elfennau golynol:

  • Dylunio Cyn-cynhyrchu
    • Briff dylunio - datganiad o dargedau'r dylunio: amlinelliad o'r broblem ac ar bwy y mae'n effeithio; yr angen sy'n codi o'r broblem; yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn (dylunio a gwneud); sut y bydd y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio; a'r amgylchedd y bydd yn cael ei ddefnyddio ynddo.
    • Dadansoddiad - Dadansoddi targedau'r dylunio presennol. Er enghraifft, esboniwch pam y gallai fod angen am gynnyrch newydd: mae problemau gyda chynnyrch sy'n bod eisoes; gallai perfformiad dyluniad sy'n bod eisoes gael ei wella; neu mae bwlc yn y farchnad ac mae'r dylunydd yn dymuno ei lenwi.
    • Ymchwil - Ymchwilio'r atebion dylunio yn y maes ac mewn meysydd eraill â thargedau tebyg. Gall ymchwil helpu'r broses ddylunio drwy wirio bod pobl yn wir eisiau'r cynnyrch; darganfod beth sy'n gwneud cynnyrch sy'n bod eisoes yn dda neu'n wael; a darganfod y defnyddiau, y cydrannau a weithgynhyrchwyd ymlaen llaw, y technegau a'r cynhwysion y gallwch eu defnyddio, a sut y byddant yn effeithio ar y gweithgynhyrchu a'r costau gwerthu. Er enghraifft, gall holiadur alluogi'r dylunydd i nodi ei grŵp targed a darganfod tueddiadau'r farchnad. Gellir yna lunio dadansoddiad ymchwil, sef casgliadau ar sail yr ymchwil.
    • Manyleb ddylunio - Penodi anghenion yr ateb dyluniadol. Mae'r fanyleb ddylunio yn disgrifio cyfyngiadau a phosibiliadau'r cynnyrch. Mae'n rhoi amodau y bydd yn rhaid i'r cynnyrch eu cyflawni. Mewn achos cynnyrch materol yn enwedig, gallai rhai pwyntiau mewn manyleb ddylunio fod yn anodd eu hasesu drwy edrych ar y cynnyrch yn unig oherwydd bydd angen cael rhywun i brofi'r cynnyrch neu ei fodelu ar ôl iddo gael ei wneud a darparu adborth, er enghraifft os oes yn rhaid i'r cynnyrch deimlo'n gysurus yn y llaw.
    • Datrys problemau - Syniadoli a dogfennu'r atebion dyluniadol. Ymhlith yr amryw dechnegau o ddechrau'r cam hwn mae creu bwrdd ysbrydoli, tanio syniadau, neu rannu'r dasg yn rhannau llai, er enghraifft dylunio estheteg y cynnyrch ac yna edrych ar y dechnoleg berthnasol.
    • Cyflwyniad - Cyflwyno'r atebion dyluniadol, gan gynnwys darluniadau gydag anodiadau a sylwadau. Dylai'r dylunydd gynnwys gwybodaeth megis defnyddiau, maint, defnyddiwr, siâp, cost, manteision ac anfanteision, dull cynhyrchu, a swyddogaethau. Gellir gylfwyno'r dyluniadau mewn nifer o ddulliau a thechnegau, megis braslun llawrydd, tafluniad isomedrig, neu dafluniad orthograffig.
  • Dylunio yn ystod Cynhyrchu
    • Datblygu - parhâd a gwellhâd o'r ateb dyluniadol, yn aml drwy greu rhagor o frasluniau, cyfuno syniadau, ac adolygu ac ail-lunio'r syniadau.
    • Profi - Profi'r ateb dyluniadol, a'i fodelu os oes angen. Pwrpas y cam hwn yw i roi cynnig ar wahanol agweddau ar y dyluniad ac i sicrháu beth yw'r agweddau gorau.
  • Dylunio ar ôl Cynhyrchu ac ymatebion ar gyfer dyluniadau'r dyfodol
  • Ail-ddylunio - Ail-adrodd unrhyw elfen o'r broses uchod, gyda chywiriadau, ar unrhyw adeg yn ystod, neu ar ôl cynhyrchu.

Diffinio dylunio

Ystyrir ddylunio'n aml yn ffurf fwy llym o Arlunio, neu yn Arlunio gyda phwrpas penodedig. Gwelir y gwahaniaethu yn bennaf pan mai rhywyn heblaw'r arlunydd sy'n penderfynu'r pwrpas. Mewn Graffeg, gwelir y gwahaniaethu yn aml rhwng Celf gain a Chelf masnachol.

Ystyrir peiriannu'n aml yn ffurf fwy llym o ddylunio. Gellid dadlau fod peiriannu a dylunio yn rhan o'r un broses neu dim ond yn rhannu elfennau, gan ddibynnu ar ddisgyblaeth y dylunio. Mae'r ddau yn ffurf o ddatrys problemau, gyda'r diffiniad rhwng y ddau yn bodoli yn y defnydd o sylfaenau gwyddonol a mathemategol mewn peiriannu. Gall faint o wyddoniaeth a dylunio a ddefnyddir gwestiynu os yw'r broses yn un o beirianneg neu wyddoniaeth; o fath cymdeithasol neu naturiol.

Mae'r berthynas rhwng dylunio a chynhyrchu yn un o gynllunio a gweithredu. Mewn damcan dylai'r cynllun ragweld a iawndalu unrhyw broblemau a godai yn ystod y broses. Mae dylunio yn cynnwys bod yn greadigol a datrys problemau, mae cynhyrchu ar y llaw arall, yn broses a gynllunwyd o flaen llaw. Mae peirianwyr a chynhyrchwyr fel arfer yn gweithio tuag at creu cynllun y dylunwyr, er mae disgwyl i ddyluwr gael syniad da o weithrediad y broses o beiriannu a chynhyrchu, iddynt allu dylunio yn fwy effeithlon.

Gweler hefyd

Disgyblaethau dylunio

Gall sawl o'r rest hefyd eu cysidro yn Ddylunio Masnachol.

Cymhwysiad

Cyfarthrebu

Corfforol

Cyfeiriadau

  1. Holm, Ivar (2006). Ideas and Beliefs in Architecture and Industrial design: How attitudes, orientations and underlying assumptions shape the built environment. Oslo School of Architecture and Design. ISBN 8254701741.

Dolenni allanol

  • [1] Gwefan Gŵyl Ddylunio Caerdydd
  • [2] Cyfeiriadur Dylunio Cymru