Khushal Khan Khattak: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: de, es, fa, nl, ps, ru, ur |
B robot yn newid: ru:Хушаль-хан Хаттак |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
[[nl:Khoshal Khan Khattak]] |
[[nl:Khoshal Khan Khattak]] |
||
[[ps:خوشحال خان خټک]] |
[[ps:خوشحال خان خټک]] |
||
[[ru: |
[[ru:Хушаль-хан Хаттак]] |
||
[[ur:خوشحال خان خٹک]] |
[[ur:خوشحال خان خٹک]] |
Fersiwn yn ôl 18:50, 31 Gorffennaf 2009
Bardd yn yr iaith Pashto, rhyfelwr Pashtun a phennaeth llwyth y Khattack oedd Khushal Khan Khattak (1613 - 1689) (Pashto: خوشحال خان خټک). Roedd yn fardd gwladgarol a gyfansoddodd yng nghyfnod teyrnasiad yr ymerodron Mughal yn yr 17eg ganrif; mae nifer o'i gerddi yn ceisio ysbrydoli y pobloedd Pashtun (Pathan) a'r Affganiaid i roi heibio eu cwerylon oesol ac uno â'i gilydd dros ryddid. Roedd yn rhyfelwr dewr ac enwog ac yn ddiweddarach fe'i llysenwyd "y Bardd-Ryfelwr Affgan". Roedd yn byw wrth droed mynyddoedd yr Hindu Kush yn yr ardal sydd erbyn heddiw yn Dalaith Ffin y Gogledd-Orllewin, Pacistan.
Cyfansoddodd Khushal Khan gerddi ar sawl pwnc. Mae'n enwog am ei gerddi gwladgarol ond canai hefyd am fywyd yr heliwr rhydd, natur, bywyd da a chwmni merched hardd. Roedd yn arbennig o hoff o ferched yr Affridiaid, un o lwythau mawr y Ffin a arosodd yn ffyddlon i'w achos trwy gydol ei yrfa dymhestlog.[1]
Bu farw yn 78 oed gan adael ar ei ôl dros hanner cant o blant. Cafodd ei gladdu ym mryniau Khattack "allan o gyrraedd y Mughal"; mae'r beddrod i'w weld heddiw, nepell o Attock.[2]