Mihangel Morgan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 47: | Llinell 47: | ||
[[de:Mihangel Morgan]] |
[[de:Mihangel Morgan]] |
||
[[fr:Mihangel Morgan]] |
[[fr:Mihangel Morgan]] |
||
[[ |
[[ga:Mihangel Morgan]] |
Fersiwn yn ôl 02:14, 30 Gorffennaf 2009
Mae Mihangel Morgan (ganwyd 7 Rhagfyr 1955, Trecynon) yn awdur a bardd Cymraeg sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Newidiodd ei enw o Michael Finch i Mihangel Morgan yn ei ugeiniau cynnar, gan gymryd cyfenw ei fam cyn iddi briodi.[1] Mae'n byw ym mhentref Tal-y-bont yng Ngheredigion ond daw'n wreiddiol o Aberdâr, Morgannwg. Cafodd ei hyfforddi fel ceinlythrennydd a bu'n dysgu hyn i fyfyrwyr am flynyddoedd cyn gwneud gradd. Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn 1993 gyda'i nofel Dirgel Ddyn a chafodd ei lyfr Digon o Fwydod ei enwi ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006.
Llyfryddiaeth
- Diflaniad Fy Fi, 1988, (Cyhoeddiadau Barddas)
- Beth yw Rhif Ffôn Duw?, 1991, (Cyhoeddiadau Barddas)
- Hen Lwybr a Storïau Eraill, Ionawr 1992, (Gwasg Gomer)
- Dirgel Ddyn, 1993, (Gwasg Gomer), ail-argraffiad Chwefror 2006, (Y Lolfa)
- Saith Pechod Marwol, 1993, (Y Lolfa)
- Te gyda'r Frenhines, 1994, (Gwasg Gomer)
- Tair Ochr y Geiniog, Tachwedd 1996, (Gwasg Gomer)
- Llên y Llenor: Jane Edwards, Ionawr 2007, (Gwasg Pantycelyn)
- Melog, Awst 1997, (Gwasg Gomer)
- Dan Gadarn Goncrit, Mehefin 1999, (Y Lolfa)
- Y Corff yn y Parc a Storïau Ffeithiol Eraill, Tachwedd 1999, (Gwasg Carreg Gwalch)
- Nofelau Nawr: Modrybedd Afradlon, Mehefin 2000, (Gwasg Gomer)
- Cathod a Chŵn, Tachwedd 2000, (Y Lolfa)
- Creision Hud, Awst 2001, (Y Lolfa)
- Y Ddynes Ddirgel, 2001, (Y Lolfa)
- Pan Oeddwn Fachgen, Tachwedd 2002, (Y Lolfa)
- Croniclau Pentre Simon, Rhagfyr 2003, (Y Lolfa)
- Saith Pechod Marwol, Awst 2004, (Y Lolfa)
- Digon o Fwydod, Gorffennaf 2005 , (Cyhoeddiadau Barddas)
- Melog, Cyfieithiad, Gorffennaf 2005, (Seren)
- Cestyll yn y Cymylau, Mehefin 2007, (Y Lolfa)
Gwobrau ac Anrhydeddau
- Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993, Dirgel Ddyn
Cyfeiriadau
- ↑ Elfed Davies: "1799 Carmel Eglwys Presbyteraidd Cymru Trecynon 1996" (Pink Panther Digital Solutions)