Tennessee Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 50: | Llinell 50: | ||
*1938 ''Not About Nightingales'' |
*1938 ''Not About Nightingales'' |
||
*1944 ''The Glass Menagerie'' |
*1944 ''The Glass Menagerie'' |
||
*1947 ''A Streetcar Named Desire'' (a ennillodd [[Gwobr Pulitzer]]) |
*1947 ''[[A Streetcar Named Desire (drama)]]'' (a ennillodd [[Gwobr Pulitzer]]) |
||
*1948 ''Summer and Smoke'' |
*1948 ''Summer and Smoke'' |
||
*1951 ''The Rose Tattoo'' (gwobr Tony) |
*1951 ''The Rose Tattoo'' (gwobr Tony) |
Fersiwn yn ôl 18:29, 28 Gorffennaf 2009
Tennessee Williams | |
---|---|
Delwedd:200px-Tennessee Williams NYWTS.jpg | |
Geni | Thomas Lanier Williams 26 Mawrth, 1911 Columbus, Mississippi, UDA |
Marw | 25 Chwefror, 1983 Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd |
Galwedigaeth | Dramodydd, Sgriptiwr |
Cenedligrwydd | Americanwr |
Cyfnod ysgrifennu | 1930 - 1983 |
Math o lên | Gothig Deheuol |
Cymar | Frank Merlo |
Dylanwad | Anton Chekhov D. H. Lawrence August Strindberg Hart Crane |
[Gwefan IMDb Gwefan swyddogol] |
Dramodydd Americanaidd o dras Cymreig oedd Thomas Lanier Williams (Mawrth 26, 1911 – Chwefror 25, 1983) a enillodd llawer iawn o wobrau uchaf am ei ddramâu. Newidiodd ei enw i "Tennessee", sef talaith enedigol ei dad yn 1939.
Enillodd Wobr Pulitzer am A Streetcar Named Desire yn 1948 ac am ei ddrama Cat on a Hot Tin Roof yn 1955. Enillodd The Glass Menagerie (1945) a The Night of the Iguana (1961) Wobr "New York Drama Critics' Circle]". Enillodd ei drama The Rose Tattoo Wobr Tony (Tony Award) am y ddrama gorau, yn 1952.
Plentyndod ac addysg
Nid yn Nhennessee ond yn Columbus, Mississippi, y'i ganwyd, a hynny ar 26 Mawrth, 1911 yn nhŷ ei daid a oedd yn werthwr teithiol. Daeth ei enw canol, Lanier o Virginia. Yn bump oed roedd yn sal iawn efo diphtheria. Roedd rhaid iddo aros yn ei wely am ddwy flynedd - ac yna y dechreuodd ddarllen o ddifri dan ddylanwad ei fam. Cornelius Williams oedd ei dad ac efallai oherwydd salwch ei fab cafodd Tennessee fawr o sylw ganddo; rhoddodd fwy o sylw i Dakin, brawd Williams.
Mam ddominyddol go iawn - fel ambell un o'i gymeriadau - oedd ei fam, Edwina Dakin Williams - ac roedd gan mwy nag un aelod o'r teulu broblemau meddyliol. Aeth i Brifysgol Missouri yn y tridegau lle bathwyd yr enw "Tennessee" gan y myfyrwyr eraill; mae stori arall amdano yn adrodd hanes y teulu yn ymladd yn erbyn brodorion Tennessee. Wedi iddo farw aeth ei holl arian i brifysgol yn Nhennessee. Erbyn diwedd y tridegau graddiodd ef o Brifysgol Iowa (ym 1938). Ei ddrama gynharaf oedd 'Cairo, Shanghai, Bombay!' a gynhyrchwyd yn 1935 ym Memphis, Tennessee.
Gwaith llenyddol
Roedd Williams yn byw o 1939 yn y French Quarter, New Orleans, Louisiana. Yma yr ysgrifennodd ef ei ddramâu enwog The Glass Menagerie (1944), cyfieithiad Cymraeg Pethau Brau (1992) ac A Streetcar Named Desire (1947) a gyfeithwyd i'r Gymraeg dan yr enw Cab Chwant (1995) - y ddau drosiad gan Emyr Edwards. Symudodd wedyn i Key West, Florida, efo'i bartner oes, Frank Merlo, (bu farw ym 1963 o gancr yr ysgyfaint) roedd y berthynas rhyngddynt yn help mawr iddo oroesi cyfnodau o iselder . Ni chafodd gymaint o lwyddiant wedi marwolaeth ei gymar oes ym 1963 - ond ym mis Medi 2006 cynhyrchwyd ei ddrama 'heb ei gyhoeddi' The Parade, or Approaching the End of Summer, sy'n fath o hunangofiant. Cyhoeddwyd ei ddrama olaf A House Not Meant to Stand yn 2008. Roedd yn awdur straeon byrion cyn troi at ddrama. Ysgrifennodd hefyd tua 70 a ddramâu un act.
Erbyn heddiw - oherwydd enwogrwydd Tennessee Williams - mae Key West yn un o brif gymunedau hoyw yr Unol Daleithiau. Roedd ei chwaer Rose yn scitsoffrenaidd a dreuliodd ei bywyd mewn ysbytai - ac wedi iddi ddioddef lobotimi gwylltiodd Tennessee efo ei deulu . Roedd Williams ei hun yn gaeth i alcohol, amphetaminau a barbitiwradau. Bu farw dan eu dylanwad ym 1983.
Llyfryddiaeth
Dramâu
- 1938 Not About Nightingales
- 1944 The Glass Menagerie
- 1947 A Streetcar Named Desire (drama) (a ennillodd Gwobr Pulitzer)
- 1948 Summer and Smoke
- 1951 The Rose Tattoo (gwobr Tony)
- 1953 Camino Real
- 1955 Cat on a Hot Tin Roof (ei ail Wobr Pulitzer)
- 1957 And Tell Sad Stories of the Deaths of Queens . . . "
- 1958 Something Unspoken"
- 1958 Suddenly, Last Summer
- 1959 Sweet Bird of Youth
- 1961 Night of the Iguana
- 1964 Grand"
- 1966 The Mutilated
- 1966 The Gnädiges Fräulein
- 1969 Now the Cats with Jewelled Claws
- 1970 I Can't Imagine Tomorrow" drama deledu
- 1970 The Frosted Glass Coffin
- 1976 The Demolition Downtown
- 1979 Kirche, Kŭche und Kinder
- 1979 Lifeboat Drill
- 1980 The Chalky White Substance
- 1980 This Is Peaceable Kingdom or Good Luck God
- 1980 Steps Must be Gentle
- 1983 The One Exception drama olaf
Addasiadau Ffilm
- 1950 The Glass Menagerie efo Kirk Douglas
- 1951 A Streetcar Named Desire, efo Vivian Leigh
- 1951 The Rose Tattoo efo Burt Lancaster
- 1955 Cat on a Hot Tin Roof efo Paul Newman ac Elizabeth Taylor
- 1959 Suddenly, Last Summer efo Montgomery Clift ,Katharine Hepburn ac Elizabeth Taylor
- 1961 Summer and Smoke efo Laurence Harvey ac Geraldine Page
- 1962 Sweet Bird of Youth efo Paul Newman ac Elizabeth Taylor
- 1964 Night of the Iguana efo Richard Burton ac Ava Gardner
- 1966 Camino Real efo Martin Sheen
- 1974 The Migrants efo Cloris Leachman a Brad Sullivan
- 1990 Orpheus Descending efo Kevin Anderson a Vanessa Redgrave
- 1993 Suddenly last Summer efo Maggie Smith a Rob Lowe
- 2001 The Yellow Bird efo James Coburn a Faye Dunaway
Straeon byrion
- The Vengeance of Nitocris (1928)
- The Field of Blue Children (1939)
- The Resemblance Between a Violin Case and a Coffin (1951)
- Hard Candy: a Book of Stories (1954)
- Three Players of a Summer Game and Other Stories (1960)
- The Knightly Quest: a Novella and Four Short Stories (1966)
- One Arm and Other Stories (1967)
- Eight Mortal Ladies Possessed: a Book of Stories (1974)
- Tent Worms (1980)
- It Happened the day the Sun Rose, and Other Stories (1981)
Cyfieithiadau i'r Gymraeg
- Pethe brau : cyfieithiad o The Glass Menagerie gan Emyr Edwards 1992, Llandysul: Gwasg Gomer
- Cab chwant : cyfieithiad o A Streetcar Named Desire gan Emyr Edwards 1992; Aberystwyth : Canolfan Astudiaethau Addysg, ©1995.