Cymraeg Canol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
sillafu brenin |
Gweler hefyd |
||
Llinell 43: | Llinell 43: | ||
===Astudiaethau a llyfrau eraill=== |
===Astudiaethau a llyfrau eraill=== |
||
*Henry Lewis, ''Datblygiad yr Iaith Gymraeg'' (Caerdydd) |
*Henry Lewis, ''Datblygiad yr Iaith Gymraeg'' (Caerdydd) |
||
==Gweler hefyd== |
|||
*[[Brythoneg]] a [[Cymbrieg|Chymbrieg]] |
|||
*[[Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg]] |
|||
*[[Cymraeg Cynnar]]: 550-800 |
|||
*[[Hen Gymraeg]]: 800-1100 |
|||
*Cymraeg Canol: 1100-1400 |
|||
*[[Cymraeg Modern Cynnar]]: 1300-1600 |
|||
*[[Cymraeg Modern Diweddar]]: 1588- |
|||
Fersiwn yn ôl 05:20, 26 Gorffennaf 2009
Cymraeg | ||||||||||
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar | ||||||||||
y Gymraeg
| ||||||||||
Mae Cymraeg Canol yn enw ar gyfnod yn hanes yr iaith Gymraeg a estynnodd o'r 12fed i'r 14eg ganrif. Mae llawer o lawysgrifau ar gael o'r cyfnod hwn, gan gynnwys Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Du Caerfyrddin a thestunau Gyfraith Hywel Dda.
Nid llên tradoddiadol yn unig a ysgrifennid yng nghyfnod Cymraeg Canol — mae yn y llawysgrifau lawer o gyfieithiadau o ieithoedd eraill fel y Ffrangeg a'r Lladin.
Gellir gwahaniaethu rhwng Cymraeg Canol Cynnar a Chymraeg Canol Diweddar. Mae'r testunau hynaf, e. e. rhai y Cynfeirdd, yn perthyn i gyfnod Hen Gymraeg, ond wedi cael nodweddion yr iaith ddiweddaraf yn ystod eu trosglwyddo, ac felly mae rhaid gwahaniaethu rhwng y ddwy elfen.
Mewn Cymraeg Canol yr ysgrifenwyd Pedair Cainc y Mabinogi a chwedlau eraill sy'n ymwneud â'r Brenin Arthur a'i gylch, sef Y Tair Rhamant a Culhwch ac Olwen, ynghyd â chwedlau brodorol fel Breuddwyd Macsen a Cyfranc Lludd a Llefelys.
Orgraff
Doedd dim orgraff safonol yng nghyfnod Cymraeg Canol fel yn yr iaith gyfoes. Dyma rai nodweddion amgen orgaff Cymraeg Canol nad ydynt yn bresennol yn yr iaith heddiw:
- Defnyddir k a c ill dau am y son [k] (dim ond c sydd yn Gymraeg Cyfoes).
- Ni nodir y treiglad meddal a newidiadau cytseiniad rhwng llafariaid sydd wedi darfod yn y Frythoneg (gw. yr erthygl yma)
- Does dim modd safonol i nodi'r treiglad trwynol: gellir gweld sillafiadau fel yg gwlad, y ngwlad a.y.y.b.
- Gall y llythyren u olygu f heddiw, yn arbennig rhwng llafariaid, felly ystauell, niuer. Defnyddiwyd y llythyren f am y ff heddiw.
Gramadeg
Seineg a seinyddiaeth
Gellir derbyn bod seiniau Cymraeg Canol yn debyg i seiniau Cymraeg Modern. Yr unig eithriad ydy'r sain a ysgrifennir fel u: [ü] sain fel a geir yn yr Almaeneg neu'r Ffrangeg oedd hynny, nid sain [ɨ], [i] y tafodieithoedd cyfoes.
Mewn rhai testunau Cymraeg Canol gwelir nodweddion tafodieithol sy'n debyg i'r rheini a geir heddiw: e. e. gall y sain [j] gael ei gholli rhwng cytsain a llafariad, fel mewn llawer o dafodieithoedd y De. Gall [x] (ch) gael ei newid i [h] hefyd.
Morffoleg
Mae Cymraeg Canol yn nes i'r hen ieithoedd Celtaidd eraill, e. e. Hen Wyddeleg, yn ei morffoleg. Er enghraifft, ceir y terfyniadau -wŷs, -ws, -es, -as , ar gyfer y trydydd person unigol amser gorffennol mewn Cymraeg Canol yn ogystal â'r ffurf –odd. Ceir hefyd ffurf 3 un gorffennol kigleu o'r ferf clywed, sydd yn hynafol iawn ac yn cyfateb i'r Hen Wyddeleg -cúala o'r ferf ro-cluinethar, 'clywodd'.
Ceir yn Gymraeg Canol mwy o ffurfiau lluosog i'r ansoddeiriau nac yn yr iaith gyfoes, e. e. cochion.
Roedd terfyniad lluosog enwol -awr yn gyffredin iawn yn Gymraeg Canol, ond cafodd ei ddisodli gan y terfyniad -au.
Cystrawen
Fel yn y Gymraeg gyfoes ysgrifenedig, yn Gymraeg Canol nid y drefn "berf-goddrych-gwrthrych" (Gwelodd y brenin gastell) a gafodd yn unig, ond y drefn afreolaidd a'r drefn gymysg hefyd (Y brenhin a welodd gastell). Awgrymai'r drefn gymysg bwyslais ar y goddrych. Y gwahân rwhng y ddwy oedd hynny: daeth yr elfen negyddol ny o flaen y goddrych yn y drefn gymysg (felly, buasai Ny urenhin a welodd gastell yn golygu 'Nid y brenin a welodd y castell') ond o flaen y ferf yn y drefn afreolaidd (felly, Brenhin ny welodd gastell = Welodd y brenin ddim castell).
Llyfryddiaeth
Gramadegau
- D. Simon Evans Gramadeg Cymraeg Canol (yn Saesneg: A Grammar of Middle Welsh)
Astudiaethau a llyfrau eraill
- Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Caerdydd)
Gweler hefyd
- Brythoneg a Chymbrieg
- Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg
- Cymraeg Cynnar: 550-800
- Hen Gymraeg: 800-1100
- Cymraeg Canol: 1100-1400
- Cymraeg Modern Cynnar: 1300-1600
- Cymraeg Modern Diweddar: 1588-