Asilah: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '300px|bawd|Asilah Dinas ym Moroco yw '''Asilah''' (hefyd weithiau '''''Arzila''''') (Arabeg: أصيلة، أرزي...'
 
Llinell 5: Llinell 5:


==Dolenni allanol==
==Dolenni allanol==
* {{eicon ar}} [* [http://www.c-assilah.com Assilah Gwefan swyddogol Asilah]
* {{eicon ar}} [http://www.c-assilah.com Gwefan swyddogol Asilah] (mewn Arabeg ond gyda lluniau)





Fersiwn yn ôl 16:45, 25 Gorffennaf 2009

Asilah

Dinas ym Moroco yw Asilah (hefyd weithiau Arzila) (Arabeg: أصيلة، أرزيلة‎), a leolir ar ben gogledd-orllewinol Moroco ar lan y Cefnfor Iwerydd, tua 50 km i'r de o Tanger, yn rhanbarth Tanger-Tétouan. Mae'n dref gaerog a amgylchynir gan fur gyda'r pyrth gwreiddil yn dal yn eu lle.

Mae ei hanes yn cychwyn tua 1000 CC, pan gafodd ei defnyddio gan y Ffeniciaid fel porth masnach arfordirol. Roedd yn cael ei adnabod fel Zilis. Cefnogodd y Ziliaid ddinas Carthago yn y Rhyfeloedd Pwnig, ac o ganlyniad fe'u gorfodwyd gan y Rhufeiniaid buddugoliaethus i ymadael a sefydlwyd gwladfa o Iberiaid yn eu lle. Yn y 10fed ganrif ceisiodd Normaniaid Sisili ei chipio. Bu ymrafael am ei meddiant rhwng rheolwyr Moroco a Portiwgal a Sbaen o 1471, pan gafodd ei chipio gan y Portiwgalwyr, a 1691 pan adfeddianwyd y ddinas o feddiant Sbaen gan y Swltan Moulay Ismail. Bu'n ganolfan i fôr-ladron am gyfnod ar ôl hynny. Erbyn heddiw mae'n gyrchfan gwyliau ffasiynol i Forocwyr ac eraill.

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato