Lucius Tarquinius Superbus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:


[[Categori:Brenhinoedd Rhufain]]
[[Categori:Brenhinoedd Rhufain]]
[[Categori:Marwolaethau 496 CC]]


[[ar:تاركوينيوس سوبربوس]]
[[ar:تاركوينيوس سوبربوس]]

Fersiwn yn ôl 07:43, 24 Gorffennaf 2009

Lucius Tarquinius Superbus (teyrnasodd c. 534 CC - 509 CC, bu farw 496 CC) oedd brenin olaf Rhufain yn ôl yr hanes traddodiadol. Ef oedd yr olaf o'r tri brenin Etrwscaidd a deyrnasodd ar Rufain.

Roedd yn fab i bumed brenin Rhufain, Tarquinius Priscus. Wedi marwolaeth ei dad, cymerwyd yr orsedd gan Servius Tullius, a roddodd ei ddwy ferch mewn priodas i Lucius a'i frawd Arruns. Roedd y ferch hynaf, Tullia, yn briod ag Arruns, ond roedd hi'n anfodlon ar ei ddiffyg uchelgais ef, a dechreuodd berthynas a Lucius. Llofruddiasant Arruns a gwraig Lucius, ac yna Servius Tullius, a daeth Lucius yn frenin.

Ystyrid ei deyrnasiad yn ormesol, a daeth ei fab, Sextus, yn fwy amhoblogaidd fyth. Dechreuodd y digwyddiadau a arweiniodd at ddiwedd y frenhiniaeth pan reibiodd Sextus Lucretia, gwraig Collatinus. Dywedodd Lucretia wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd, yna lladdodd ei hun. Ymunodd Collatinus ag eraill, yn arbennig Lucius Junius Brutus, i yrru Lucius a Sextus o Rufain, a sefydlu Gweriniaeth Rhufain.