Lucius Tarquinius Superbus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Lucius Tarquinius Superbus''' (teyrnasodd c. 534 CC - 509 CC) oedd brenin olaf Rhufain yn ôl yr hanes traddodiadol. Ef oedd yr...' |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Ystyrid ei deyrnasiad yn ormesol, a daeth ei fab, Sextus, yn fwy amhoblogaidd fyth. Dechreuodd y digwyddiadau a arweiniodd at ddiwedd y frenhiniaeth pan reibiodd Sextus Lucretia, gwraig [[Lucius Tarquinius Collatinus|Collatinus]]. Dywedodd Lucretia wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd, yna lladdodd ei hun. Ymunodd Collatinus ag eraill, yn arbennig [[Lucius Junius Brutus]], i yrru Lucius a Sextus o Rufain, a sefydlu [[Gweriniaeth Rhufain]]. |

[[Categori: |
[[Categori:Brenhinoedd Rhufain]] |
||
[[ar:تاركوينيوس سوبربوس]] |
[[ar:تاركوينيوس سوبربوس]] |
Fersiwn yn ôl 07:40, 24 Gorffennaf 2009
Lucius Tarquinius Superbus (teyrnasodd c. 534 CC - 509 CC) oedd brenin olaf Rhufain yn ôl yr hanes traddodiadol. Ef oedd yr olaf o'r tri brenin Etrwscaidd a deyrnasodd ar Rufain.
Roedd yn fab i bumed brenin Rhufain, Tarquinius Priscus. Wedi marwolaeth ei dad, cymerwyd yr orsedd gan Servius Tullius, a roddodd ei ddwy ferch mewn priodas i Lucius a'i frawd Arruns. Roedd y ferch hynaf, Tullia, yn briod ag Arruns, ond roedd hi'n anfodlon ar ei ddiffyg uchelgais ef, a dechreuodd berthynas a Lucius. Llofruddiasant Arruns a gwraig Lucius, ac yna Servius Tullius, a daeth Lucius yn frenin.
Ystyrid ei deyrnasiad yn ormesol, a daeth ei fab, Sextus, yn fwy amhoblogaidd fyth. Dechreuodd y digwyddiadau a arweiniodd at ddiwedd y frenhiniaeth pan reibiodd Sextus Lucretia, gwraig Collatinus. Dywedodd Lucretia wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd, yna lladdodd ei hun. Ymunodd Collatinus ag eraill, yn arbennig Lucius Junius Brutus, i yrru Lucius a Sextus o Rufain, a sefydlu Gweriniaeth Rhufain.