Kénitra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Canol Kénitra Dinas ym Moroco yw '''Kénitra''' (Arabeg: القنيطرة '''Al-Qonaitirah''', "Y Bont Fach...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 14:43, 23 Gorffennaf 2009
Dinas ym Moroco yw Kénitra (Arabeg: القنيطرة Al-Qonaitirah, "Y Bont Fach"), a adnabyddid yn y gorffennol fel Port Lyautey. Mae'n borthladd sy'n gorwedd wrth aber Afon Sebou, ar lan Cefnfor Iwerydd yng ngogledd-orllewin Moroco. Mae'n brifddinas Gharb-Chrarda-Béni Hssen, un o 16 rhanbarth Moroco. Poblogaeth: tua 374,000 (2005).
Er bod y Ffeniciaid wedi ymsefydlu yn agos i safle y ddinas, yn Chellah, doedd dim byd ond kasbah (castell) ar y safle tan 1912-13, pan sefydlwyd porthladd milwrol Port Lyautey gan Ffrainc.
Ceir dwy orsaf trenau yn y ddinas: Kenitra-Ville a Kenitra-Medina. Mae gwasanaeth trên gwennol, y TNR, yn rhedeg bob 30 munud i gysylltu Kénitra â Rabat, i'r gogledd, a Casablanca i'r de. Bwriedir agor gwasanaeth cyflym i Tangier erbyn tua 2013.
Dolenni allanol
- (Arabeg) (Ffrangeg) Gwefan Kénitra
- Lexicorient