Lleuad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: war:Bulan (astronomiya)
AHbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: szl:Mjeśůnczek
Llinell 152: Llinell 152:
[[sv:Månen]]
[[sv:Månen]]
[[sw:Mwezi (gimba la angani)]]
[[sw:Mwezi (gimba la angani)]]
[[szl:Mjeśůnček]]
[[szl:Mjeśůnczek]]
[[ta:நிலா]]
[[ta:நிலா]]
[[te:చంద్రుడు]]
[[te:చంద్రుడు]]

Fersiwn yn ôl 23:34, 22 Gorffennaf 2009

Seryddiaeth
Seryddiaeth

Lleuad
Planed
Seren
Galaeth
Bydysawd


Astroffiseg
Cosmoleg


Nifwl

Y Lleuad

Y Lleuad neu'r Lloer yw unig loeren naturiol y Ddaear o sylwedd.

Mae'r Lleuad yn troi o amgylch y ddaear mewn orbit o 27.3 diwrnod ac mae tua 384,403 km o'r ddaear. Fe gymer 1.3 eiliad i'r goleuni o'r haul a adlewyrchir oddi ar wyneb y Lleuad deithio i'r ddaear (yn ôl cyflymdra goleuni). Mae tua 500,000 o graterau ar ei hwyneb. Grym disgyrchiant sydd yn dal y lleuad yn ei horbit. Does fawr ddim atmosffer ganddi i'w hamddiffyn.

Y gwrthrych cyntaf a wnaed gan ddyn i gyrraedd y Lleuad oedd Luna 2 yn 1959, ac fe wnaeth Luna 3 yn yr un flwyddyn anfon yn ôl luniau o ochr bellaf y Lleuad. Cafodd y ddau ohonyn nhw eu lawnsio gan rocedi Sofietaidd.

Mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod rhai o'r craterau ger pigyn y De yn cynnwys dŵr mewn ffurf rhew, ond dydy'r canlyniadau yma ddim wedi cael eu cadarnhau eto.

Ar 20 Gorffennaf 1969 glaniodd ddau ofodwr Americanaidd yn y modiwl lleuad Eagle - sef rhan o'r llong gofod Apollo 11 - arni, ac un ohonynt, Neil Armstrong, oedd y dyn cyntaf i gerdded ar y lleuad. Rhwng 1969 a 1972, wnaeth 27 o ddynion ymweld â'r Lleuad; cerddodd 12 ohonynt arni. Gadawodd y criw olaf, sef Eugene Cernan a Harrison Schmitt, yn 1972. Mae gan sawl wlad gynllun ar y gweill i anfon pobl i'r Lleuad rhywbryd yn y 30 blwyddyn nesaf, gan gynnwys y UDA a Tseina.

Dwy ochr y Lleuad

Gan fod y Lleuad yn cymryd yr un cyfnod i droelli unwaith ac i fynd o amgylch y Ddaear unwaith, mae un ochr wastad yn wynebu i ffwrdd o'r Ddaear. Fe welwyd ochr arall y Lleuad am y tro cyntaf pan anfonodd y chwiliedydd gofod Luna 3 luniau ohoni yn ôl i'r Ddaear yn 1959.

Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol