Hwiangerdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gwerth addysgol: Ychwanegu infobox person/wikidata using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
manion
Llinell 1: Llinell 1:
[[Cân]] neu gerdd i'w chanu i blentyn neu i gael ei hadrodd gan blant yw '''hwiangerdd'''. Mae deunydd rhai hwiangerddi yn hen iawn ac yn aml maent yn adleisio ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. I raddau maent yn perthyn i fyd [[llên gwerin]] hefyd. Mae synnwyr rhyfeddod sy'n gallu ymylu ar y [[swrealaeth|swreal]] yn nodweddiadol hefyd.
[[Cân]] neu gerdd i'w chanu i blentyn, yn aml er mwyn ei gael i gysgu, yw '''hwiangerdd'''. Mae deunydd rhai hwiangerddi yn hen iawn ac yn aml maent yn adleisio ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. I raddau maent yn perthyn i fyd [[llên gwerin]] hefyd. Mae synnwyr rhyfeddod sy'n gallu ymylu ar y [[swrealaeth|swreal]] yn nodweddiadol hefyd.


==Hwiangerddi Cymraeg==
==Hwiangerddi Cymraeg==
Gan fod yr hwiangerdd yn perthyn i'r [[traddodiad llafar]] tan yn gymharol ddiweddar mewn hanes, ychydig iawn o hwiangerddi cynnar sydd wedi eu cadw. Ond ceir enghraifft ddiddorol o hwiangerdd gynnar yn y [[Gymraeg]], sef 'Pais Dinogad', yn y llawysgrif ganoloesol ''[[Llyfr Aneirin]]''. Mam sy'n canu 'Pais Dinogad' ('Crys [neu siaced] yr adaeg hynnu Dinogad') i'w phlentyn. Math o gerdd hela ydyw ac mae'r 17 llinell yn digwydd yng nghanol y gerdd [[arwr]]ol enwog '[[Y Gododdin]]'. Ni ellir ei dyddio yn fanwl ond gellid tybio iddi gael ei chyfansoddi rhywbryd yn yr [[Yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru|Oesoedd Canol Cynnar]], efallai mor gynnar a'r [[7g]], ond mae rhai yn dweud yn gynharach.
Gan fod yr hwiangerdd yn perthyn i'r [[traddodiad llafar]] tan yn gymharol ddiweddar mewn hanes, ychydig iawn o hwiangerddi cynnar sydd wedi eu cadw. Ond ceir enghraifft ddiddorol o hwiangerdd gynnar yn y [[Gymraeg]], sef 'Pais Dinogad', yn y llawysgrif ganoloesol ''[[Llyfr Aneirin]]''. Mam sy'n canu 'Pais Dinogad' ('Crys [neu siaced] yr adaeg hynnu Dinogad') i'w phlentyn. Math o gerdd hela ydyw ac mae'r 17 llinell yn digwydd yng nghanol y gerdd [[arwr]]ol enwog '[[Y Gododdin]]'. Ni ellir ei dyddio yn fanwl ond gellid tybio iddi gael ei chyfansoddi rhywbryd yn yr [[Yr Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru|Oesoedd Canol Cynnar]], efallai mor gynnar a'r [[7g]], ond mae rhai yn dweud yn gynharach.


Peis dinogat e vreith vreith. Pais Dinogad sydd fraith, fraith,
:Peis dinogat e vreith vreith (Pais Dinogad sydd fraith, fraith,)
o grwyn balaot ban wreith. O groen y bela y mae'i waith.
:o grwyn balaot ban wreith (O groen y bela y mae'i waith)
chwit chwit chwidogeith. `Chwí! Chwí!' Chwibanwaith.
:chwit chwit chwidogeith (`Chwí! Chwí!' Chwibanwaith,)
gochanwn gochenyn wythgeith. Gwaeddwn ni, gwaeddant hwy - yr wyth gaeth.
:gochanwn gochenyn wythgeith (Gwaeddwn ni, gwaeddant hwy - yr wyth gaeth)
pan elei dy dat ty e helya; Pan elai dy dad di i hela -
:pan elei dy dat ty e helya; (Pan elai dy dad di i hela...)


Ceir sawl hwiangerdd mwy diweddar yn y Gymraeg, ffrwyth trosglwyddo ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth. Un o'r enwocaf yw 'Gee, geffyl bach':
Ceir sawl hwiangerdd mwy diweddar yn y Gymraeg, ffrwyth trosglwyddo ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth e.e. [[Suo Gân]]. Un o'r enwocaf yw 'Gee, geffyl bach':


:Gee, geffyl bach, i'n cario ni'n dau
:Gee, geffyl bach, i'n cario ni'n dau

Fersiwn yn ôl 15:57, 9 Awst 2018

Cân neu gerdd i'w chanu i blentyn, yn aml er mwyn ei gael i gysgu, yw hwiangerdd. Mae deunydd rhai hwiangerddi yn hen iawn ac yn aml maent yn adleisio ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. I raddau maent yn perthyn i fyd llên gwerin hefyd. Mae synnwyr rhyfeddod sy'n gallu ymylu ar y swreal yn nodweddiadol hefyd.

Hwiangerddi Cymraeg

Gan fod yr hwiangerdd yn perthyn i'r traddodiad llafar tan yn gymharol ddiweddar mewn hanes, ychydig iawn o hwiangerddi cynnar sydd wedi eu cadw. Ond ceir enghraifft ddiddorol o hwiangerdd gynnar yn y Gymraeg, sef 'Pais Dinogad', yn y llawysgrif ganoloesol Llyfr Aneirin. Mam sy'n canu 'Pais Dinogad' ('Crys [neu siaced] yr adaeg hynnu Dinogad') i'w phlentyn. Math o gerdd hela ydyw ac mae'r 17 llinell yn digwydd yng nghanol y gerdd arwrol enwog 'Y Gododdin'. Ni ellir ei dyddio yn fanwl ond gellid tybio iddi gael ei chyfansoddi rhywbryd yn yr Oesoedd Canol Cynnar, efallai mor gynnar a'r 7g, ond mae rhai yn dweud yn gynharach.

Peis dinogat e vreith vreith (Pais Dinogad sydd fraith, fraith,)
o grwyn balaot ban wreith (O groen y bela y mae'i waith)
chwit chwit chwidogeith (`Chwí! Chwí!' Chwibanwaith,)
gochanwn gochenyn wythgeith (Gwaeddwn ni, gwaeddant hwy - yr wyth gaeth)
pan elei dy dat ty e helya; (Pan elai dy dad di i hela...)

Ceir sawl hwiangerdd mwy diweddar yn y Gymraeg, ffrwyth trosglwyddo ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth e.e. Suo Gân. Un o'r enwocaf yw 'Gee, geffyl bach':

Gee, geffyl bach, i'n cario ni'n dau
Dros y mynydd i hela cnau ;
Dŵr yn yr afon, a'r cerrig yn slic—
Cwympso'n ni'n dau, wel, dyna'i chi dric!

Un arall sy'n gyfarwydd yw 'Mi welais jac-y-do':

Mi welais jac-y-do
yn eistedd ar ben to,
het wen ar eu ben
a dwy goes bren
yn canu "ho ho ho".

Gwerth addysgol

Camgymeriad fyddai disystyru a dilorni hwiangerddi fel rhigymau llawn ffwlbri heb werth go iawn. Fel y noda Eluned Bebb yn ei ragymadrodd i'w chasgliad arloesol Hwiangerddi'r Wlad,

Tybiaf fod gwerth triphlyg, o leiaf, i'n hwiangerddi ni'r Cymry. Yn swn eu geiriau, ac o'u clywed dro ar ôl tro, nid hir y bydd y plentyn cyn siarad ac ynganu'n groyw a chlir. Yn ail, o sicrhau'r hwiangerddi ar yr aelwyd gartref, rhoddir i'r plant gefndir i'w hiaith a bery ar hyd eu hoes, fel nas dadwreiddir ar chwarae bach. Ac yn olaf, dyma'r ffordd gyntaf oll i ddenu'r meddwl ifanc at lenyddiaeth a llên gwerin.[1]

Cyfeiriadau

  1. Hwiangerddi'r Wlad, rhagymadrodd.

Llyfryddiaeth

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.