Brwydr Coed Llathen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
lleoliad
ffynonnellau gwreiddiol
Llinell 2: Llinell 2:
{{coord|51.88853|N|4.06612|W|name=Coed Llathen|region:GB_source:GoogleEarth_type:landmark|display=inline}}
{{coord|51.88853|N|4.06612|W|name=Coed Llathen|region:GB_source:GoogleEarth_type:landmark|display=inline}}


Mae '''Brwydr Coed Llathen''' a '''Brwydr y Cymerau''' yn ddwy frwydr a ymlaeddwyd ar yr un diwrnod ([[2 Mehefin]] [[1257]]), lle cafodd Byddin Cymru ddwy fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Saeson. Cânt eu cyfrif ymhlith y brwydrau pwysicaf a ymladdwyd yn hanes Cymru, gyda'r Tywysog [[Llywelyn ap Gruffudd]], yn ei anterth. Mae rhai haneswyr yn ei hysyried yn un frwydr, mewn dwy ran: y cyntaf yng [[Coed Llathen|Nghoed Llathen]], plwyf Llangathen - tua 5km i'r gorllewin o [[Llandeilo|Landeilo]], a'r ail yn '[[y Cymerau]]'. Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr, ond ceir ychydig o ddadl am union leoliad 'Cymerau' a ymladdwyd pan oedd byddin Lloegr ar ffo.
Mae '''Brwydr Coed Llathen''' a '''Brwydr y Cymerau''' yn ddwy frwydr a ymlaeddwyd ar yr un diwrnod ([[2 Mehefin]] [[1257]]), lle cafodd Byddin Cymru ddwy fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Saeson. Cânt eu cyfrif ymhlith y brwydrau pwysicaf a ymladdwyd yn hanes Cymru, gyda'r Tywysog [[Llywelyn ap Gruffudd]], yn ei anterth. Mae rhai haneswyr yn ei hysyried yn un frwydr, mewn dwy ran: y cyntaf yng [[Coed Llathen|Nghoed Llathen]], plwyf Llangathen - tua 5km i'r gorllewin o [[Llandeilo|Landeilo]], a'r ail yn '[[y Cymerau]]'. Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr, ond ceir ychydig o ddadl am union leoliad 'Cymerau' a ymladdwyd pan oedd byddin Lloegr ar ffo.

Cofnodwyd yr hanes yn yr ''[[Annales Cambriae]]'' ac ym ''[[Brut y Tywysogion|Mrut y Tywysogion]] (Peniarth MS 20 a [[Llyfr Coch Henrgest]]). Disgrifir y frwydr hefyd yn Saesneg gan Mathew Paris yn ei Chronica Majora, lle nodir fod y golled i'r Saeson yn un enfawr, ac mewn nifer o lawysgrifau eraill, yn bennaf ym mynachlogydd Osney a Tewkesbury.


==Cefndir==
==Cefndir==

Fersiwn yn ôl 06:24, 9 Awst 2018

Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru

51°53′19″N 4°03′58″W / 51.88853°N 4.06612°W / 51.88853; -4.06612 (Coed Llathen)

Mae Brwydr Coed Llathen a Brwydr y Cymerau yn ddwy frwydr a ymlaeddwyd ar yr un diwrnod (2 Mehefin 1257), lle cafodd Byddin Cymru ddwy fuddugoliaeth fawr yn erbyn y Saeson. Cânt eu cyfrif ymhlith y brwydrau pwysicaf a ymladdwyd yn hanes Cymru, gyda'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, yn ei anterth. Mae rhai haneswyr yn ei hysyried yn un frwydr, mewn dwy ran: y cyntaf yng Nghoed Llathen, plwyf Llangathen - tua 5km i'r gorllewin o Landeilo, a'r ail yn 'y Cymerau'. Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr, ond ceir ychydig o ddadl am union leoliad 'Cymerau' a ymladdwyd pan oedd byddin Lloegr ar ffo.

Cofnodwyd yr hanes yn yr Annales Cambriae ac ym Mrut y Tywysogion (Peniarth MS 20 a Llyfr Coch Henrgest). Disgrifir y frwydr hefyd yn Saesneg gan Mathew Paris yn ei Chronica Majora, lle nodir fod y golled i'r Saeson yn un enfawr, ac mewn nifer o lawysgrifau eraill, yn bennaf ym mynachlogydd Osney a Tewkesbury.


Cefndir

Am flynyddoedd cyn y frwydr roedd Llywelyn wedi bod yn brysur yn adfeddiannu tiroedd a gollwyd a derbyn gwrogaeth arglwyddi'r Deheubarth gan gynnwys Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain. Fel tâl am eu teyrngarwch iddo, cyflwynodd diroedd iddyn nhw'n anrheg - tiroedd roedd wedi'u cymeryd oddi wrth Rhys Fychan a oedd yn deyrngar i Harri III, Brenin Lloegr. Roedd mab Harri, sef y Tywysog Edward (1239 – 1307) wedi sylweddoli fod Llywelyn wedi cryfhau dros y blynyddoedd a chasglodd fyddin fawr er mwyn ei drechu, a goresgyn Cymru.[1] Roedd ganddo gefnogaeth llawer o uchelwyr gan gynnwys: Stephen Bauzan, Arglwydd Breigan a Llansannor a Nicholas FitzMartin, Arglwydd Cemaes, gyda'r rhan fwyaf o'i filwyr o Loegr, rhai Cymry o dir y Mers a rhai o Gasgwyn.[2]

Ailfeddiannodd y Cymry llawer o'r tiroedd a gollwyd i'r Saeson, gan gynnwys Meirionnydd, gogledd Powys a Dyffryn Tywi. Maredudd ap Rhys Gryg oedd arweinydd y Cymry yn Nyffryn Tywi ac erbyn haf 1258 roedd de Powys hefyd dan reolaeth Llywelyn.

Paratoi am ryfel

Erbyn 29 Mai 1257 roedd llynges Saesnig wedi glanio yng Nghaerfyrddin a'r fyddin a gludwyd yno wedi ymgasglu. Y dydd Iau canlynol, dechreuodd y fyddin fartsio i gyfeiriad Llandeilo, drwy ddyffryn Tywi gan anrheithio a lladd popeth a ddeuent ar ei draws - cymunedau cyfan. Drwy wneud hyn, gobeithient y byddai Castell Dinefwr yn ildio ar unwaith i atal y fath gyflafan.[3]

Y Frwydr

Lleoliad

Mae lleoliad Coed Llathen yn wybyddus ers canrifoedd (gweler map 1888 yr Os; cyfeirnod grid SN579229), a cheir nifer o enwau caeau a lleoedd eraill sy'n coffau'r frwydr e.e. "Cae Trange" (Cae Tranc), "Cae Dial," a "Cae yr ochain". Fe'i lleolir ar waelod bryncyn sy'n wynebu'r de, mewn dyffryn cul. Ar waelod y dyffryn mae'r ffordd sy'n troelli rhwng Caerfyrddin a Llandeilo, yr A40, bellach.

Lleolwyd Cymerau, tan yn ddiweddar ym mhlwyf Llanegwad (SN501201) ger Nantgaredig, yn y fforch lle llifa Afon Tywi ac Afon Cothi i'w gilydd - bron union hanner ffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Seiliwyd y lleoliad hwn (gan J. Edward Lloyd) ar ei farn i gofnodwr yr Annales Cambriae wneud cangymeriad, gan nodi "Caerfyrddin" yn hytrach nag "Aberteifi". Bellach, fodd bynnag, credir fod y cofnodwr yn gywir, ac felly'r lleoliad mwyaf tebygol yw'r cymerau rhwng afonydd Ddulas, Afon Ddu a Nant Llwyd, dwy filltir i'r de-orllewin o Dalyllychau (SN645305), tua 9km i'r gogledd o Landeilo. Cred Beverley Smith ac eraill fod dianc i Aberteifi yn fwy tebygol, gan y gallai milwyr o Iwerddon dodd yno i'w hatgyfnerthu.


Y diwrnod cyntaf

Ar y nos Wener ganlynol gwersyllodd y Saeson ger Llandeilo Fawr. Yn ddiarwybod iddynt, roedd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain wedi eu dilyn gyda rhan o'u byddin gan ymosod-a-chuddio o'r goedwig gerllaw. Roedd bwau hirion y Cymry yn cael effaith seicolegol ar y saeson ynghyd â synau enbyd. Y person oedd wedi arwain y fyddin saesnig drwy Gymru oedd Rhys Fychan a phenderfynodd Stephen Bauzan ddanfon Rhys i drafod heddwch gydag arweinwyr y fyddin Gymreig a oedd yng Ngastell Dinefwr. Ni wyddom yn union beth a ddigwyddodd iddo; naill ai newidiodd ei got gan ochri gyda'r Cymry neu cafodd ei ddal. Ond yn sicr fe gollodd y Saeson yr unig berson a oedd yn adnabod yr ardal, ac roeddent ar goll hebddo.[4]

Yr ail ddiwrnod

Brwydr Coed Llathen

Oherwydd nad oedd ganddynt wybodaeth ddaearyddol, penderfynodd y saeson ei heglu hi'n ôl i Gaerfyrddin. Rhwng torriad gwawr a chanol dydd roedd bwau hirion a phicelli'r Cymry wrthi'n ddiddiwedd. Tua chanol dydd roedd brwydro person i berson a chipiodd y Cymry wageni cyflenwadau bwyd ac arfau'r Saeson yng Nghoed Llathen.[5]

Brwydr Cymerau

Roedd ysbryd y fyddin Saesnig yn rhacs; roeddent wedi cael eu gwanhau gan dachtegau'r fyddin Gymreig hyd syrffed. Ymgasglodd y cyfan ynghŷd i'r gorllewin - a martsio i gyfeiriad Cymerau. Roedd y tir yma'n berffaith i'r Cymry: ceunentydd a thirwedd garw i'w harafu a chorsdir gwlyb a fyddai'n gwbwl anobeithiol i'r marchogion Saesnig. Rhagodwyd y Saeson; ymosodwyd gyda holl rym y fyddin Gymreig a lladdwyd Stephen Bauzan ac hyd at 3,000 o'i filwyr. Dihangodd gweddill y fyddin Saesnig fel ieir am eu bywydau.[6]

Gwyddwn fod Llywelyn ei hun wedi arwain y frwydr.[6]

Wedi'r storm...

Yn dilyn buddugoliaeth fawr y Cymry ym Mrwydr Coed Llathen, aethent ymlaen i ymosod ar Gastell Talacharn, Llansteffan ac Arberth. Roedd Rhys Fychan erbyn hyn yn deyrngar i Lywelyn, a rhoddwyd ei diroedd yn ôl iddo am ei drafferth. Gwylltiodd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain gan newid eu lliwiau. Roedd Harri, brenin Lloegr, wedi dychryn gyda'r golled a gafodd ei fyddin a phenderfynodd y byddai'n ymosod eto'r flwyddyn honno ar Gymru. Ond methiant fu'r ymosodiad hwn hefyd: daliwyd y llongau cyflenwi bwyd y saeson (a oedd yn dod o iwerddon) a gorfodwyd hwy i droi yn ôl. Yr un dachteg unwaith eto; 'doedd y Saeson heb ddysgu o'u cangymeriadau ym Mrwydr Coed Llathen! Ac unwaith eto, defnyddiai'r Cymry eu bwau hirion a'u tachteg taro-a-ffoi yn llwyddiannus.

Erbyn 1258 roedd y Berfeddwlad a'r Gymru frodorol (Pura Wallia) yn ei feddiant ac roedd y rhan fwyaf o'r arweinwyr Cymreig wedi talu gwrogaeth iddo. Y flwyddyn hon, hefyd, y galwodd ei hun yn Dywysog Cymru gyfa.[7]

Gweler hefyd

  • Brwydr Bryn Derwin; pan drechodd Llywelyn ei frodyr Owain a Dafydd, gan ddod a Gwynedd gyfan dan ei reolaeth.
  • Brwydr Cydweli; buddugoliaeth arall i Fyddin Cymru yn 1258

Cyfeiriadau

  1. [1] a40infobahn.co.uk
  2. A Great and Terrible King, Edward I and the Forging of Britain, Marc Morris; tudalen 32
  3. [2] Ancestry.com
  4. [3] Welsh Battlefields
  5. [4]
  6. 6.0 6.1 'Bloody Battlefields of Cadfan', BBC
  7. Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008, tudalen 582.