Epig Gilgamesh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: tl:Epiko ni Gilgamesh yn newid: pt:Epopeia de Gilgamesh
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: fi:Gilgameš yn newid: fa:حماسه گیلگمش
Llinell 23: Llinell 23:
[[es:Poema de Gilgamesh]]
[[es:Poema de Gilgamesh]]
[[et:Gilgameši eepos]]
[[et:Gilgameši eepos]]
[[fa:حماسه گیلگامش]]
[[fa:حماسه گیلگمش]]
[[fi:Gilgameš]]
[[fr:Épopée de Gilgamesh]]
[[fr:Épopée de Gilgamesh]]
[[fy:Gilgamesjepos]]
[[fy:Gilgamesjepos]]

Fersiwn yn ôl 21:54, 17 Gorffennaf 2009

Hanes y Dilyw ar un o'r tabledi clai sy'n cynnwys Epig Gilgamesh

Cerdd epig o Mesopotamia yw Epig Gilgamesh, sy'n un o'r gweithiau llenyddol cynharaf sydd wedi goroesi. Cred ysgolheigion fod cyfres o chwedlau a cherddi Sumeraidd am y brenin mytholegol Gilgamesh, oedd efallai yn deyrn gwirioneddol rywbryd tua'r 27ain ganrif CC., wedi ei casglu i ffurfio cerdd hirach mewn Akkadeg yn llawer diweddarach. Ceir y fersiwn lawnaf ar ddeuddeg tabled glai o lyfrgell Ashurbanipal, brenin Assyria yn y 7fed ganrif CC..

Prif bwnc y stori yw'r berthynas rhwng Gilgamesh, brenin Uruk, sydd wedi digalonni a blino ar deyrnasu, a'i gyfaill hanner-gwyllt Enkidu, a galar Gilgamesh wedi marwolaeth Enkidu. Wedi marwolaeth ei gyfaill, mae Gilgamesh yn chwilio am anfarwoldeb. Ceir cyfeiriad at Ddilyw oedd wedi boddi pawb heblaw Utnapishtim a'i wraig.