Gemau Ymerodraeth Prydain 1938: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) →Medalau'r Cymry: Golygu cyffredinol (manion), replaced: ennillodd → enillodd using AWB |
||
Llinell 90: | Llinell 90: | ||
Roedd '''35''' aelod yn nhîm Cymru. |
Roedd '''35''' aelod yn nhîm Cymru. |
||
Llwyddodd [[Jim Alford]] i dorri record y Gymanwlad wrth ennill ras y filltir mewn 4 munud 11.6 eiliad a cipiodd [[Denis Reardon]] aur yn y sgwâr bocsio. Ar y pryd roeddent yn cael eu hystyried fel y Cymry cyntaf i ennill medalau aur yn y Gemau, ond bellach, mae Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru yn ystyried medal aur [[Reg Thomas]], Cymro |
Llwyddodd [[Jim Alford]] i dorri record y Gymanwlad wrth ennill ras y filltir mewn 4 munud 11.6 eiliad a cipiodd [[Denis Reardon]] aur yn y sgwâr bocsio. Ar y pryd roeddent yn cael eu hystyried fel y Cymry cyntaf i ennill medalau aur yn y Gemau, ond bellach, mae Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru yn ystyried medal aur [[Reg Thomas]], Cymro enillodd ras y filltir tra'n gwisgo fest Lloegr yn [[Gemau Ymerodraeth Prydain 1930|1930]], fel medal Gymreig.<ref>http://teamwales.net/assets/Roll%20of%20Honour.pdf</ref> |
||
{| class="{{{class|wikitable}}}" style="text-align:center;" |
{| class="{{{class|wikitable}}}" style="text-align:center;" |
Fersiwn yn ôl 15:29, 31 Gorffennaf 2018
Gemau Ymerodraeth Prydain 1938 oedd y trydydd tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Sydney, De Cymru Newydd, Awstralia oedd cartref y Gemau rhwng 5-12 Chwefror.
Trefnwyd y gemau i gyd fynd gyda dathlu 150 mlynedd ers y sefydliad Prydeinig swyddogol cyntaf yn Awstralia.
Oherwydd y dirwasgiad a chost teithio i Awstralia, ni chafwyd cymaint o athletwyr â gafwyd yng Ngemau Llundain, 1934 ac er na chafwyd unrhyw gynrychiolaeth o Hong Cong, Jamaica na Newfoundland cafwyd athletwyr o Ceylon a Ffiji am y tro cyntaf.
Cafodd cystadlaethau rhwyfo eu hychwanegu i'r Gemau ar ôl peidio cael eu cynnwys yn Llundain.
Penderfynwyd cynnal Gemau Ymerodraeth Prydain 1942 ym Montréal, Canada, a Gemau 1946 yng Nghaerdydd, Cymru ond oherwydd yr Ail Ryfel Byd, ni chynhaliwyd y Gemau eto tan 1950.
Chwaraeon
Timau yn cystadlu
Cafwyd 15 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig, 1934 gyda Ffiji a Ceylon yn ymddangos am y tro cyntaf a chyda Trinidad a Tobago yn cystadlu fel tîm unedig.
Tabl Medalau
Safle | Cenedl | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
1 | Awstralia | 25 | 19 | 22 | 66 |
2 | Lloegr | 15 | 15 | 10 | 40 |
3 | Canada | 13 | 16 | 15 | 44 |
4 | De Affrica | 10 | 10 | 6 | 26 |
5 | Seland Newydd | 5 | 7 | 13 | 25 |
6 | Cymru | 2 | 1 | 0 | 3 |
7 | Ceylon | 1 | 0 | 0 | 1 |
8 | Yr Alban | 0 | 2 | 3 | 5 |
9 | Guiana Prydeinig | 0 | 1 | 0 | 1 |
10 | De Rhodesia | 0 | 0 | 2 | 2 |
Cyfanswm | 71 | 71 | 71 | 213 |
Medalau'r Cymry
Roedd 35 aelod yn nhîm Cymru.
Llwyddodd Jim Alford i dorri record y Gymanwlad wrth ennill ras y filltir mewn 4 munud 11.6 eiliad a cipiodd Denis Reardon aur yn y sgwâr bocsio. Ar y pryd roeddent yn cael eu hystyried fel y Cymry cyntaf i ennill medalau aur yn y Gemau, ond bellach, mae Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru yn ystyried medal aur Reg Thomas, Cymro enillodd ras y filltir tra'n gwisgo fest Lloegr yn 1930, fel medal Gymreig.[1]
Medal | Enw | Cystadleuaeth | |
---|---|---|---|
Aur | Jim Alford | Athletau | 1milltir |
Aur | Denis Reardon | Bocsio | Pwysau canol |
Arian | Jeanne Greenland | Nofio | 100llath ar ei chefn |
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad
- (Saesneg) Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru
Rhagflaenydd: Llundain |
Gemau'r Gymanwlad Lleoliad y Gemau |
Olynydd: Auckland |