Llandygái: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 16: Llinell 16:


[[Categori:Pentrefi Gwynedd]]
[[Categori:Pentrefi Gwynedd]]

[[en:Llandygai]]

Fersiwn yn ôl 11:48, 11 Gorffennaf 2009

Mae Llandygái (weithiau Llandygai neu Llandegai) yn bentref ychydig i'r de-ddwyrain o ddinas Bangor yng Ngwynedd. Saif ar lan orllewinol Afon Ogwen, gyda phentref Tal-y-bont ar y lan ddwyreiniol. Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llandygái gan Sant Tegai/Tygái yn y 6ed ganrif.

Castell Penrhyn

Yr adeilad mwyaf yn Llandygái yw Castell Penrhyn, a adeiladwyd gan Arglwydd Penrhyn gyda'r arian a gafodd o dyfu siwgwr yn Jamaica a'r elw o Chwarel y Penrhyn. Mae'n awr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Rhwng Llandygái a stad dai Maesgeirchen mae Stad Ddiwydiannol Llandygái. Wrth baratoi'r tir ar gyfer y stad ddiwydiannol yn 1967 darganfuwyd olion tŷ sylweddol o faint o'r cyfnod Neolithig, 6 medr o led wrth 13 medr o hyd, ynghyd ag olion o Oes yr Efydd, Oes yr Haearn, cyfnod y Rhufeiniaid a mynwent o'r Canol Oesoedd cynnar. Mae'r stad ddiwydiannol yn awr yn cael ei ehangu. Cloddiodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd Parc Bryn Cegin yn 2006[1] (cyn yr adeiladu), gan ddarganfod olion tŷ arall yn dyddio o oddeutu 4000CC ac olion neolithig eraill, yn ogystal ag olion dau dŷ crwn o gyfnod y Brythoniaid a'r Rhufeiniaid, amrywiaeth o leiniau gwydr ac artiffactau eraill, a thwmpathau llosg o'r oes efydd[2].

Heb fod ymhell o Landygái mae gwarchodfa adar Aberogwen, ar lan Traeth Lafan.

Treuliodd y bardd Griffith Williams (Gutyn Peris) (1769-1838), un o ddisgyblion Dafydd Ddu Eryri, y rhan helaeth o'i oes yn Llandygái. Gweithiai yn Chwarel y Penrhyn.

Cyfeiriadau

  1. http://www.heneb.co.uk/llandegaiweblog/llandygaiintro.html
  2. Cyfeillion 24 Friends, Cylchgrawn Ymddiriedolaeth Gwynedd, Gwanwyn 2006, tt. 11-24