Ashdod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: la:Azotus |
Kordas (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 27: | Llinell 27: | ||
[[en:Ashdod]] |
[[en:Ashdod]] |
||
[[eo:Aŝdod]] |
[[eo:Aŝdod]] |
||
[[es: |
[[es:Asdod]] |
||
[[fa:اشدود]] |
[[fa:اشدود]] |
||
[[fi:Ashdod]] |
[[fi:Ashdod]] |
Fersiwn yn ôl 10:28, 11 Gorffennaf 2009
Dinas bumed mwyaf Israel, ar lan y Môr Canoldir yn ne'r wlad, yw Ashdod neu Isdud (Hebraeg: אַשְׁדּוֹד Ashdod; Arabeg: اشدود, إسدود Isdud). Mae ganddi boblogaeth o 207,000 ac mae'n ganolfan ddiwydiannol ranbarthol bwysig. Porthladd Ashdod yw'r mwayf yn Israel a mewnforir tua 60% o fewnforion y wlad trwyddo.
Mae'r aneddiad cyntaf a wyddys yn Ashdod yn perthyn i gyfnod diwylliant Canaan yn yr 17eg ganrif CC. Cyfeirir at Ashdod 13 o weithiau yn y Beibl. Mae ei hanes yn ddrych i hanes Palesteina ei hun: roedd yn un o bum ddinas-wladwriaeth y Ffilistiaid a bu ym meddiant Teyrnas Israel, yr Ymerodraeth Rufeinig, yr Ymerodraeth Fysantaidd, y Croesgadwyr a'r Arabiaid. Sefydlwyd y ddinas fodern yn 1956 ar ôl i'r rhan fwyaf o'r Palesteiniaid lleol gael eu gorfodi i ymadael. Cafodd siarter dinas yn 1968.
Yn ystod Rhyfel Arabaidd-Israelaidd 1948, defnyddiodd Byddin yr Aifft Isdud fel canolfan. Ar ôl ymladd trwm ildiodd yr Eifftwyr y ddinas i'r Israeliaid ar yr 28ain o Hydref. Ffôdd y mwyafrif o boblogaeth Balesteinaidd y dref gyda'r fyddin; arosodd rhai cannoedd ond cawsont eu gorfodi i ymadael gan Llu Amddiffyn Israel. Ymgartrefodd y ffoaduriaid mewn gwersylloedd yn Llain Gaza lle mae'r mwyafrif ohonynt yn dal i fyw heddiw[1] Rhoddwyd yr enw Hebraeg 'Ashdod' i'r dref a dechreuodd Iddewon ymsefydlu yno. Bu cynnydd o 150% ym mhoblogaeth Ashdod rhwng 1991 a 2000 wrth i tua 100,000 o bobl gyrraedd yno i fyw, yn bennaf o'r hen Undeb Sofietaidd.
Cyfeiriadau
- ↑ Benny Morris, The Birth of the Palestinian Refugee Problem Revisited, Cambridge Press 2004 pp.471
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas