Tennessee Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
*1953 ''Camino Real'' |
*1953 ''Camino Real'' |
||
*1955 ''Cat on a Hot Tin Roof'' (ei ail Wobr Pulitzer) |
*1955 ''Cat on a Hot Tin Roof'' (ei ail Wobr Pulitzer) |
||
*1955 addasiad ffilm ''Cat on a Hot Tin Roof'' efo Paul Newman ac Elizabeth Taylor |
*1955 addasiad ffilm ''Cat on a Hot Tin Roof'' efo [[Paul Newman]] ac [[Elizabeth Taylor]] |
||
*1959 ''Sweet Bird of Youth'' |
*1959 ''Sweet Bird of Youth'' |
||
*1961 ''Night of the Iguana'' |
*1961 ''Night of the Iguana'' |
Fersiwn yn ôl 00:36, 11 Gorffennaf 2009
Dramodydd Americanaidd o dras Cymreig of Thomas Lanier Williams (Mawrth 26, 1911 – Chwefror 25, 1983). Newidiodd ei enw i "Tennessee".
Plentyndod ac addysg
Nid yn Nhennessee ond yn Columbus, Mississippi, y'i ganwyd, a hynny ar 26 Mawrth 1911 yn nhŷ ei daid a oedd yn offeiriad Anglicanaidd. Daeth ei enw canol, Lanier o Virginia. Yn bump oed roedd yn sal iawn efo diphtheria. Roedd rhaid iddo aros yn ei wely am ddwy flynedd - ac yna y dechreuodd ddarllen o ddifri dan ddylanwad ei fam. Cornelius Williams oedd ei dad ond efallai oherwydd salwch ei fab cafodd Tennessee fawr o sylw ganddo.
Mam ddominyddol go iawn - fel ambell un o'i gymeriadau - oedd ei fam, Edwina Dakin Williams - ac roedd gan mwy nag un aelod o'r teulu broblemau meddyliol. Aeth i Brifysgol Missouri yn y tridegau lle bathwyd yr enw "Tennessee" gan y myfyrwyr eraill; mae stori arall amdano yn adrodd hanes y teulu yn ymladd yn erbyn brodorion Tennessee. Wedi iddo farw aeth ei holl arian i brifysgol yn Nhennessee. Erbyn diwedd y tridegau graddiodd ef o Brifysgol Iowa (ym 1938). Ei ddrama gynharaf oedd 'Cairo, Shanghai, Bombay!' a gynhyrchwyd yn 1935 ym Memphis, Tennessee.
Gwaith llenyddol
Roedd Williams yn byw o 1939 yn y French Quarter, New Orleans, Louisiana. Yna yr ysgrifennodd ef ei ddramâu enwog The Glass Menagerie (1944), cyfieithiad Cymraeg Pethau Brau (1992) ac A Streetcar Named Desire (1947) a gyfeithwyd i'r Gymraeg dan yr enw Cab Chwant (1995) - y ddau drosiad gan Emyr Edwards. Symudodd wedyn i Key West, Florida, efo ei bartner oes, Frank Merlo, (bu farw ym 1963 o gancr yr ysgyfaint) roedd y perthynas hyn yn help mawr iddo oroesi episodau o iselder . Ni chafodd gymaint o lwyddiant wedi marwolaeth ei gymar oes ym 1963 - ond ym mis Medi 2006 cynhyrchwyd ei ddrama 'heb ei gyhoeddi' The Parade, or Approaching the End of Summer, sy'n fath o hunangofiant. Cyhoeddwyd ei ddrama olaf A House Not Meant to Stand yn 2008. Roedd yn awdur straeon byrion cyn troi at ddrama. Ysgrifennodd hefyd rhyw 70 a ddramâu un act.
Erbyn heddiw - oherwydd enwogrwydd Tennessee Williams - mae Key West yn un o brif gymunedau hoyw yr Unol Daleithiau. Roedd ei chwaer Rose yn scitsophrenaidd a dreuliodd ei fywyd mewn ysbytai - ac wedi iddi ddioddef lobotimi daeth Tennessee yn grac efo ei deulu . Roedd Tennessee Williams ei hun yn gaeth i alcohol, amphetaminau a barbitiwradau. Bu farw dan eu dylanwad ym 1983.
Llyfryddiaeth
Dramâu
- 1944 The Glass Menagerie
- 1947 A Streetcar Named Desire (a ennillod y Wobr Pulitzer)
- 1951 The Rose Tattoo (gwobr Tony)
- 1951 addasiad ffilm A Streetcar Named Desire, efo Vivian Leigh
- 1953 Camino Real
- 1955 Cat on a Hot Tin Roof (ei ail Wobr Pulitzer)
- 1955 addasiad ffilm Cat on a Hot Tin Roof efo Paul Newman ac Elizabeth Taylor
- 1959 Sweet Bird of Youth
- 1961 Night of the Iguana
Straeon byrion
- The Vengeance of Nitocris (1928)
- The Field of Blue Children (1939)
- The Resemblance Between a Violin Case and a Coffin (1951)
- Hard Candy: a Book of Stories (1954)
- Three Players of a Summer Game and Other Stories (1960)
- The Knightly Quest: a Novella and Four Short Stories (1966)
- One Arm and Other Stories (1967)
- Eight Mortal Ladies Possessed: a Book of Stories (1974)
- Tent Worms (1980)
- It Happened the day the Sun Rose, and Other Stories (1981)
Cyfieithiadau i'r Gymraeg
- Pethe brau : cyfieithiad o The Glass Menagerie gan Emyr Edwards 1992, Llandysul : Gomer
- Cab chwant : cyfieithiad o A Streetcar Named Desire gan Emyr Edwards 1992; Aberystwyth : Canolfan Astudiaethau Addysg, ©1995.