Lladin Llafar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 77: Llinell 77:
Er enghraifft, yn Lladin, roedd y geiriau am "caraf" a "carwn" yn ''amō'' ac ''amāmus''. Yn [[Hen Ffrangeg]] achosodd yr A accenog [[dipthong]] gan achosi ''(j’)'''ai'''me'' ac ''(nous) '''a'''mons''. Er bod nifer o ffonemau wedi’u colli yn y ddau achos, cadwyd gwahaniaeth rhyngddynt oherwydd yr aceniad. Mae dylanwadau rheoleiddio wedi dadwneud yr effaith yn nifer o achosion (y ffurf fodern yn [[Ffrangeg]] yw ''nous '''ai'''mons'') ond mae rhai berfau modern wedi cadw’r ffurf afreolaidd, fel ''je v'''ie'''ns'' (dof) yn erbyn ''nous v'''e'''nons'' (down), a ddaeth o’r [[Lladin]] ''veniō'' a ''venīmus''.
Er enghraifft, yn Lladin, roedd y geiriau am "caraf" a "carwn" yn ''amō'' ac ''amāmus''. Yn [[Hen Ffrangeg]] achosodd yr A accenog [[dipthong]] gan achosi ''(j’)'''ai'''me'' ac ''(nous) '''a'''mons''. Er bod nifer o ffonemau wedi’u colli yn y ddau achos, cadwyd gwahaniaeth rhyngddynt oherwydd yr aceniad. Mae dylanwadau rheoleiddio wedi dadwneud yr effaith yn nifer o achosion (y ffurf fodern yn [[Ffrangeg]] yw ''nous '''ai'''mons'') ond mae rhai berfau modern wedi cadw’r ffurf afreolaidd, fel ''je v'''ie'''ns'' (dof) yn erbyn ''nous v'''e'''nons'' (down), a ddaeth o’r [[Lladin]] ''veniō'' a ''venīmus''.
Crëwyd amser dyfodol newydd ar ferfau Lladin Llafar gan ddefnyddio berfau cyfnerthu. Oherwydd cyfuniad y /b/ a’r /w/, daeth ffurfiau’r dyfodol fel ''amabit'', i swnio’n union fel y ffurfiau perffaith fel ''amauit'', gan gyflwyno amwysedd anerbynniol. Ffurfiwyd dyfodol newydd gyda’r ferf cyfnerthu ''habere'', ''*amare habeo'', yn llythrennol "caru caf". Fe gyfangwyd y ffurf newydd hon gan droi’n olddodiad dyfodol yn yr ieithoedd Romáwns gorllewinol. Gweler enghreifftiau o "byddaf yn caru/cara i" yn yr ieithoedd fodern:
Crëwyd amser dyfodol newydd ar ferfau Lladin Llafar gan ddefnyddio berfau cyfnerthu. Oherwydd cyfuniad y /b/ a’r /w/, daeth ffurfiau’r dyfodol fel ''amabit'', i swnio’n union fel y ffurfiau perffaith fel ''amauit'', gan gyflwyno amwysedd annerbyniol. Ffurfiwyd dyfodol newydd gyda’r ferf cyfnerthu ''habere'', ''*amare habeo'', yn llythrennol "caru caf". Fe gyfangwyd y ffurf newydd hon gan droi’n olddodiad dyfodol yn yr ieithoedd Romáwns gorllewinol. Gweler enghreifftiau o "byddaf yn caru/cara i" yn yr ieithoedd fodern:
*[[Ffrangeg]]: '''''j’aimerai''''' (''je'' + ''aimer'' + ''ai'') < ''aimer'' [caru] + ''ai'' [caf]
*[[Ffrangeg]]: '''''j’aimerai''''' (''je'' + ''aimer'' + ''ai'') < ''aimer'' [caru] + ''ai'' [caf]

Fersiwn yn ôl 02:55, 9 Gorffennaf 2009

Lladin Llafar (yn Lladin, sermo vulgaris, "iaith y werin") oedd y tafodiaethau o'r iaith Ladin a siaradwyd gan werin-bobl yr Ymerodraeth Rufeinig. Ymrannodd y tafodiaethau yn y Oesoedd Canol Cynnar gan ddatblygu i'r ieithoedd Romáwns erbyn y 6ed ganrif.

Roedd Lladin Llafar yn wahanol i Lladin Clasurol yn ei hynganiad, geirfa a gramadeg. Nid oedd Lladin Llafar yn iaith ysgrifennedig felly mae'n rhaid i ieithyddion droi at ddulliau anuniongyrchol o'i hastudio.

Hanes

Gan nad ysgrifennwyd iaith feunyddiol siaradwyr Lladin, gellir astudio Lladin Llafar drwy ddulliau anuniongyrchol yn unig. Daw gwybodaeth am Ladin Llafar o dair prif ffynhonnell: yn gyntaf mae’r dull cymharu sy’n ail-greu ffurfiau cynnar yr ieithoedd Romáwns, ac yn nodi lle wahaniaethent o Ladin Clasurol; yn ail, mae yna nifer o destunau gramadeg o’r cyfnod Lladin hwyr sy’n collfarnu’r “camgymeriadau” ieithyddol a wnaethpwyd gan siaradwyr Lladin sy’n rhoi syniad i ieithyddion o sut y siaradwyd Lladin gan y werin-bobl; yn drydydd, mae’r enghreifftiau o iaith ddi-glasurol a ddefnyddiwyd yn rhai testunau Lladin hwyr yn dagelu manylion am iaith lafar yr awdur. [1]

Am nifer o ganrifoedd ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, parhaodd Lladin Llafar i gydfodoli gyda ffurf ysgrifennedig o Ladin hwyr, Lladin Canol, oherwydd pan ysgrifennai ysgolheigion, ceisient ysgrifennu gyda gramadeg a sillafu “cywir” ac felly efelychent arferion Lladin Clasurol. Defnyddiwyd ffurf “rewadwy” yr iaith Ladin fel iaith ysgolheictod drwy gydol y Canol Oesoedd hyd y Dadeni.

Datblygodd Lladin Llafar yn wahanol yng ngwahanol tirgiogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig, gan ddatblygu’n raddol i mewn i Ffrangeg, Catalaneg, Eidaleg, Sbaeneg, Portiwgaleg, a dwsinau o ieithoedd eraill. [2] Er taw Lladin oedd yr iaith swyddogol yn y ardaloedd hyn, fe siaradwyd Lladin Llafar gan y werin-bobl nes i’r ffurfiau lleol newydd ymrannu’n ddigonol o Ladin gan ddod i’r golwg fel ieithoedd ar wahân. Serch y gwahaniaeth cynyddol rhwng Lladin Llafar ac ysgrifennedig, nid oedd y tafodiaethau yn annealladwy o’i gilydd nes yr 8fed ganrif.

Fe wyddwn fod y tafodiaethau Lladin yn hollol annealladwy o’i gilydd erbyn y 9fed ganrif. Isod gweler llw o 842 a ysgrifennwyd yn Lladin hollol wahanol i'r iaith glasurol:

Pro Deo amur et pro christian poblo et nostro commun salvament, d'ist di in avant, in quant Deus savir et podir me dunat, si salvarai eo cist meon fradre Karlo et in ajudha et in cadhuna cosa, si cum om per dreit son fradra salvar dift, in o quid il me altresi fazet, et ab Ludher nul plaid numquam prindrai, qui, meon vol, cist meon fradre Karle in damno sit.

Gramadeg

Y Fannod Romáwns

Colli'r cenedl niwtral

Colli'r cyflyrau

Lladin Clasurol
Goddrychol: rosa
Gwrthrychol: rosam
Genidol: rosae
Derbynniol: rosae
Abladol: rosā
Lladin Llafar
Goddrcyhol: rosa
Gwrthrychol: rosa
Genidol: rose
Derbynniol: rose
Abladol: rosa

Oherwydd y newidiadau seiniol a ddigwyddai yn Lladin Llafar, fe ddeath yn galetach i gadw’r system o gyflyrau enwol. Oherwydd colled yr /m/ ar ddiwedd geiriau, colled yr hyd ffonemig llafariad, a’r æ yn newid o /ai/ i /ɛ/ , daeth y gogwyddiad cyntaf yn ddi-ddefnydd. Dengys y tabl ar y dde yr effaith y gafodd y newidiadau seiniol ar enwau'r gogwyddiad cyntaf. Oherwydd newiadau seiniol eraill tebyg a wanhaodd diwedd geiriau, fe gollwyd cyflyrau mewn grwpiau gogwyddo eraill hefyd gan symud morffoleg ferfol Lladin o fod yn synthetig i ddadelfennol.

Fe ddiflannodd y cyflyrau yn raddol. Cadwai Hen Ffrangeg gwahaniaeth rhwng y cyflwr goddrychol a’r cyflwr gwrthrychol (cas-sujet/cas-régime) a ddiflannodd yn y 12fed ganrif. Ceidw Rwmaneg cyflwr genidol a chyflwr derbynniol o hyd yn ogystal ag olion o gyflwr cyfarchol.

Fe farciwyd y gwahaniaeth rhwng ungiol a lluosog mewn dwy ffordd yn yr ieithoedd Romáwns. I ogledd a gorllewin y Llinell La Spezia-Rimini sy’n rhedeg drwy ogledd yr Eidal, fe wahaniaethwyd yr unigol o’r lluosog gan –s ar ddiwedd y gair, a oedd yn bresennol yn ffurfiau lluosog benywaidd a gwrywaidd yr hen gyflwr gwrthyrchol ym mhob dosbarth gogwyddiad. I dde a dwyrain y Llinell La Spezia-Rimini, fe farciwyd y gwahaniaeth gan newidiadau llafarol ar ddiwedd enwau, fel sy’n digwydd mewn Eidaleg a Rwmaneg fodern. Mae’r newidiadau llafarol yn cadw a chyffredinoli gwahaniaethau a farciwyd ar enwau lluosog yn y goddrychol yn y gogwyddiad cyntaf a’r ail ogwyddiad.

Lluosi arddodiaid

Wrth i’r cyflyrau wanhau yn Lladin, roedd yn rhaid i arddodiaid gael eu creu i osgoi amwysedd annerbyniol. Cafodd nifer o arddodiaid newydd eu hadeiladu gan roi hen arddodiaid at ei gilydd. Mae’r Ieithoedd Romáwns yn llawn geirynnau gramadegol a grëwyd fel hyn; Sbaeneg “donde”, “ble”, o’r Lladin "de" + "unde", neu’r Ffrangeg "dès", "ers", o’r Lladin "de" + "ex" . Daw "depués" yn Sbaeneg a "deopis" yn Bortiwgaleg o "de" + "ex" + "post". Mae rhai o’r cyfansoddion newydd hyn yn ymddangos mewn testunau llenyddol yn ystod yr Ymerodraeth Hwyr; mae Ffrangeg "dehors", Sbaeneg "de fuera" a Phortiwgaleg "de fora" ("tu fas") i gyd yn cynrychioli "de" + "foris", ac fe welwn Jerome yn ysgrifennu "stulti, nonne qui fecit, quod de foris est, etiam id, quod de intus est fecit?" yn y Beibl.

Tra gollai Lladin ei chyflyrau, dechreuodd arddodiaid lenwi’r bylchau. Er enghraifft yn Lladin Llafar, fe ddefnyddiwyd yr arddodiad "ad" gyda’r cyflwr gwrthrychol i wneud i fynny am y cyflwr derbynniol gwan:

Lladin Clasurol:

Marcus patrī librum dat. "Rhôdd Marcus (y) llyfr i’w dad."

Lladin Llafar:

Marcus dat librum ad patrem. " Rhôdd Marcus (y) llyfr i’w dad"

Weithiau, disodlwyd y cyflwr genidol gwan gyda’r arddodiad "de" gyda’r abladol:

Lladin Clasurol:

Marcus mihi librum patris dat. "Rhôdd Marcus llyfr ei dad imi"

Lladin Llafar:

Marcus mihi dat librum de patre. "Rhôdd Marcus llyfr ei dad imi"

Berfau

Effeithiwyd y ffurfiau berfol llawer yn llai gan y colledion ffonetig a erydodd y system o gyflyrau enwol; yn wir, ymddengys berfau Sbaeneg neu Bortiwgaleg (a nifer o ieithoedd Romáwns) yn debyg iawn i’w ffurfiau hynafol Lladin o hyd. Un rheswm am hyn oedd yr aceniad cryf a ddatblygodd yn Lladin Llafar a roddodd pwyslais ar sillafau gwahanol yn y ffurfiau rhediedig. Felly, parhaodd y ffurfiau i esblygu’n ffonetig, ond ni erydodd y gwahaniaethau rhwng y ffurfiau rhediedig.

Er enghraifft, yn Lladin, roedd y geiriau am "caraf" a "carwn" yn amō ac amāmus. Yn Hen Ffrangeg achosodd yr A accenog dipthong gan achosi (j’)aime ac (nous) amons. Er bod nifer o ffonemau wedi’u colli yn y ddau achos, cadwyd gwahaniaeth rhyngddynt oherwydd yr aceniad. Mae dylanwadau rheoleiddio wedi dadwneud yr effaith yn nifer o achosion (y ffurf fodern yn Ffrangeg yw nous aimons) ond mae rhai berfau modern wedi cadw’r ffurf afreolaidd, fel je viens (dof) yn erbyn nous venons (down), a ddaeth o’r Lladin veniō a venīmus.

Crëwyd amser dyfodol newydd ar ferfau Lladin Llafar gan ddefnyddio berfau cyfnerthu. Oherwydd cyfuniad y /b/ a’r /w/, daeth ffurfiau’r dyfodol fel amabit, i swnio’n union fel y ffurfiau perffaith fel amauit, gan gyflwyno amwysedd annerbyniol. Ffurfiwyd dyfodol newydd gyda’r ferf cyfnerthu habere, *amare habeo, yn llythrennol "caru caf". Fe gyfangwyd y ffurf newydd hon gan droi’n olddodiad dyfodol yn yr ieithoedd Romáwns gorllewinol. Gweler enghreifftiau o "byddaf yn caru/cara i" yn yr ieithoedd fodern:

  • Ffrangeg: j’aimerai (je + aimer + ai) < aimer [caru] + ai [caf]
  • Portiwgaleg: amarei (amar + [h]ei) < amar [caru] + hei [caf]
  • Sbaeneg a Chatalaneg: amaré (amar + [h]e) < amar [caru] + he [caf]
  • Eidaleg: amerò (amar + [h]o) < amare [caru] + ho [caf]

Ffurfiwyd modd amodol (a wahaniaethai o'r modd dibynnol traddodiadol) yn yr un ffordd (amhenodol + ffurf rhediedig o habere).

Geirfa

Cyfeiriadau

  1. Charles H. Grandgent, An Introduction to Vulgar Latin (Heath & Co., 1907)
  2. Ethologue Latin Family
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.