Eratosthenes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
GhalyBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: arz:اراتوسثينس |
D'ohBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: be:Эратасфен |
||
Llinell 29: | Llinell 29: | ||
[[arz:اراتوسثينس]] |
[[arz:اراتوسثينس]] |
||
[[ast:Eratóstenes]] |
[[ast:Eratóstenes]] |
||
[[be:Эратасфен]] |
|||
[[bg:Ератостен]] |
[[bg:Ератостен]] |
||
[[bs:Eratosten]] |
[[bs:Eratosten]] |
Fersiwn yn ôl 21:18, 8 Gorffennaf 2009
Ysgolhaig Groegaidd amryddawn (fl. 275 CC - 195 CC efallai), yn enedigol o ddinas Cyrene, ar arfordir Gwlff Sidra (Syrtes) yn Libya, Gogledd Affrica.
Bywyd
Dechreuodd ei addysg yn ei ddinas enedigol cyn symud i Athen i astudio athroniaeth. Rhoddodd ei ddarlith gyntaf ar athroniaeth yno. Yn 247CC fe'i gwahoddwyd i Alecsandria gan Ptolemy II (Ptolemy Euergetes) i gymryd drosodd fel llyfrgellydd yn lle Callimachus yn llyfrgell enwog y ddinas; yr ail yn unig i ddal y swydd honno. Mesurodd gylchedd y Ddaear a gradd yr ecliptig. Dywedir iddo farw o wrthod cymryd bwyd yn 195 C.C., gan fod ei lygaid yn dechrau methu ac nid oedd yn medru parhau â'i waith.
Gwaith
Roedd yn feistr ar bron pob cangen o wyddoniaeth a dysg yr Hen Fyd, gan gynnwys hanes, daearyddiaeth, geometreg, seryddiaeth, athroniaeth, gramadeg a barddoniaeth. Oherwydd y doniau hyn enillodd iddo ei hun y teitl Pentathlos "Meistr ar y Pum Camp" (anrhydedd a roddid fel rheol i athletwyr penigamp). Dywedir hefyd ei fod y cyntaf i ymarddel yr enw Philologos "Cyfaill Dysg (neu Wybodaeth)". Gellid dweud mai Eratosthenes yw sefydlwr daearyddiaeth wyddonol (mawr oedd dyled Strabo, yr enwocaf o ddaearyddwyr y byd clasurol, iddo). Ei gyfrolau pwysicaf yw:
- Y Geographica (3 llyfr). Ffynhonell bwysig yng ngwaith Strabo. Nid oes testun ohono wedi goroesi.
- Y Chronographia. Llyfr sy'n ceisio defnyddio seryddiaeth a mathemateg i sefydlu cronoleg hanes.
- Llyfr ar Yr Hen Gomedi Roeg.
- Y Catalogoi. Cymysgedd o seryddiaeth a chwedloniaeth. Casgliad o'r hen chwedlau yn ymwneud â'r sêr oedd yn cael ei dilyn gan restr o'r sêr unigol yn y cytserau cysylltiedig. Mae'r Catasterismoi, sy'n rhestru 44 cytser a 475 o sêr, ynghyd â chwedlau, wedi goroesi ac yn seiliedig ar waith Eratosthenes.
- Hermes. Arwrgerdd.
- Erigone. Telyneg (elegy) enwog yn ei dydd.
Drylliau yn unig o hynny oll sydd wedi goroesi, y rhan fwyaf mewn dyfyniadau a chyfeiriadau gan ysgrifenwyr clasurol diweddarach.
Llyfryddiaeth
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities, gyda ychwanegiadau gan H. Nettleship a J.E. Sandys (Llundain, 1902).