Ogof Pen-y-Fai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 18: Llinell 18:
[[en:Red Lady of Paviland]]
[[en:Red Lady of Paviland]]
[[pl:Czerwona Dama z Paviland]]
[[pl:Czerwona Dama z Paviland]]
[[ru:Красная дама из Пэйвиленда]]

Fersiwn yn ôl 21:55, 7 Gorffennaf 2009

Ogof cynhanesyddol ger Rhosili ar y Gŵyr yw Ogof Paviland (neu Ogof Pen-y-Fai). Yn gywirach mae'n gyfres o ogofâu cysylltiedig a fu'n gartref i ddynion filoedd o flynyddoedd cyn Crist. Darganfuwyd yno fwyeill llaw o Hen Oes y Cerrig, dannedd bleiddiaid ac esgyrn eirth.

Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd sgerbwd corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pafiland". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac archaeolegydd cynnar William Buckland yn 1823 yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21 oed ydyw. Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ochre coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (Homo sapiens sapiens) hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn Ewrop i gyd. Cafwyd penglog mamoth yn ei ymyl ond yn anffodus mae hynny ar goll erbyn hyn.

Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen callestr, sydd efallai i'w dyddio i'r cyfnod Aurignasiaidd.

Cysylltiad allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.