Llwybr Arfordirol Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
ychwanegu cysylltiad
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
B Llwybr Arfordirol Ynys Mon wedi'i symud i Llwybr Arfordirol Ynys Môn: Ychwanegu'r to
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:58, 12 Awst 2006

Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn lwybr hir o 200km/125 milltir o gwmpas arfordir Ynys Môn, y rhan fwyf o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Crewyd y llwybr fel rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus a llwybrau trwy ganiatâd. Mae’n ffurfio cylch o gwmpas yr Ynys heblaw am fylchau yn Llanfachraeth ac ystâd Plas Newydd.

Mae arwyddion eglur o gwmpas y llwbr gyfan.

Crewyd y llwybr mewn partenriaeth rhwng Menter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn. Agorwyd y llwybr yn ffurfiol gan Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 9 Mehefin 2006.

Llefydd ar hyd y llwybr

O gychwyn yng Nghaergybi a cherdded yn glocwedd, mae’r llwybr yn mynd heibio:

Caergybi
Ynys Lawd
Porth Dafarch
Trearddur
Ffynnon Santes Gwenfaen
Rhosneigr
Barclodiad y Gawres
Eglwys Llangwyfan
Aberffraw
Eglwys Llangadwaladr, lle claddwyd Cadfan ap Iago
Ynys Llanddwyn
Llanidan
Pont Britannia
Pwll Ceris
Ynys Tysilio
Pont Y Borth, a adeiladwyd gan Thomas Telford
Porthaethwy
Biwmaris
Penmon ac Ynys Seiriol
Traeth Coch
Benllech
Moelfre
Porth Amlwch
Eglwys Llanbadrig
Cemaes
Wylfa
Cemlyn
Eglwys Llanrhwydrys
Porth Swtan
Parc Gwledig Penrhos
Caergybi

Cysylltiadau allanol

Ffynonellau

  • Carl Rogers (2005) “Llawlyfr Swyddogol Llwybr Arfordirol Ynys Môn” Mara Books ISBN 1 902512 13 8