Belffast: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: os:Белфаст
B robot yn ychwanegu: sw:Belfast
Llinell 93: Llinell 93:
[[sr:Белфаст]]
[[sr:Белфаст]]
[[sv:Belfast]]
[[sv:Belfast]]
[[sw:Belfast]]
[[th:เบลฟาสต์]]
[[th:เบลฟาสต์]]
[[tl:Belfast]]
[[tl:Belfast]]

Fersiwn yn ôl 04:08, 7 Gorffennaf 2009

Lleoliad Belffast
Prifysgol y Frenhines, Belffast

Belffast (Gwyddeleg: Béal Feirste; Saesneg: Belfast) yw dinas fwyaf a phrifddinas talaith Gogledd Iwerddon. Mae dros hanner miliwn o bobol yn byw yn ardal Belffast. Mae'n borthladd ar lannau Afon Lagan lle mae'r afon honno'n llifo i Lough Belffast, ar y ffin rhwng Swydd Antrim a Swydd Down. Mae'n gartref i iard longau Harland and Wolfe ac yn brif ganolfan diwydiannol y dalaith. Ym Melffast ceir prif adeiladau gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, gan gynnwys Neuadd Dinas Belffast (1906) a senedd-dy Stormont (1932). Rhoddwyd ei siarter i Brifysgol y Frenhines ym 1909.

Am flynyddoedd roedd yr enw 'Belffast' bron yn gyfystyr â 'Helyntion Gogledd Iwerddon', gyda'r ddinas a'i chymuned wedi'u rhannu ar linellau ethnig a chrefyddol. Lladdwyd rhai cannoedd o bobl ar ei strydoedd rhwng dechrau'r 1970au a'r 1990au.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Arena Odyssey
  • Crown Liquor Saloon
  • Neuadd dinas
  • Neuadd Ulster
  • Theatr Lyric

Enwogion

Dolen allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.