Brwydr Hexham: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
heddiw
Llinell 7: Llinell 7:

Ymosododd y Cymry, gan fethu ymosod ar ochrau'r fyddin Sacsonaidd, a dechreuant adael faes y gad i gyfeiriad y de a daliwyd a lladdwyd Cadwallon mewn lle o'r enw Nant Denis (Saesneg: ‘Brook of Denis’), a adnabyddir heddiw fel "Rowley Burn". Roedd hon yn fuddugoliaeth bwysig i Oswallt a chredir fod llawer iawn o Gymry wedi'u lladd. Yn ddiweddarach, daethpyd i alw'r safle yn "Heavenfield" ("Hefenfelth").

==Y safle heddiw==
Ar ochor y ffordd sydd i'r dwyrain o [[Chollerford]], sy'n rhedeg ar hyd Mur Hadrian (sef y B6318) saif croes garreg sy'n nodi'r fan lle ymladdwyd Brwydr Hexham. Ar y bryncyn i'r gogledd o'r groes hon, saif eglwys ble credir i Oswallt godi ei faner. [http://maps.google.co.uk/?ie=UTF8&ll=55.020562,-2.100084&spn=0.004355,0.013733&t=h&z=17 GoogleMap]

==Gweler hefyd==
*[[Brwydr Meicen (Hatfield)]]

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}

[[Categori:632]]
[[Categori:632]]

Fersiwn yn ôl 07:54, 5 Gorffennaf 2009

Brwydr olaf y brenin Brythonig Cadwallon ap Cadfan o Wynedd oedd Brwydr Hexham (Saesneg: Battle of Heavenfield) a ymladdwyd yn 634. Fe'i lladdwyd gan fyddin Oswallt, Brenin Northumbria ac yn ôl yr hanesydd John Davies yn ei lyfr Hanes Cymru, mai'r flwyddyn 634 sy'n "dynodi diwedd y posibilrwydd o adfer penarglwyddiaeth y Brythoniaid ym Mhrydain."[1]

Mae'r Annales Cambriae yn cofnodi'r fwrydr fel Bellum Cantscaul yn 631 a Beda yntau'n ei alw'n Frwydr Deniseburna ger Hefenfelth.

Y frwydr

Symudodd y fyddin Gymreig i ogledd Efrog. Angorodd Oswallt ei filwyr ger Fur Hadrian tua phedair milltir i'r gogledd o Hexham. Yn ystod y nos (yn ôl y chwedl) ymddangosodd Sant Columba o flaen Oswallt, mewn breuddwyd, gan broffwydo iddo fuddugoliaeth. Trodd Oswallt ei filwyr i wynebu'r dwyrain, gydag ochrau'r fyddin yn cael eu hamddiffyn gan "Brady's Crag" yn y gogledd a Mur Hadrian i'r de. Yn ôl Beda, cododd groes a dechreuodd weddio.

Ymosododd y Cymry, gan fethu ymosod ar ochrau'r fyddin Sacsonaidd, a dechreuant adael faes y gad i gyfeiriad y de a daliwyd a lladdwyd Cadwallon mewn lle o'r enw Nant Denis (Saesneg: ‘Brook of Denis’), a adnabyddir heddiw fel "Rowley Burn". Roedd hon yn fuddugoliaeth bwysig i Oswallt a chredir fod llawer iawn o Gymry wedi'u lladd. Yn ddiweddarach, daethpyd i alw'r safle yn "Heavenfield" ("Hefenfelth").

Y safle heddiw

Ar ochor y ffordd sydd i'r dwyrain o Chollerford, sy'n rhedeg ar hyd Mur Hadrian (sef y B6318) saif croes garreg sy'n nodi'r fan lle ymladdwyd Brwydr Hexham. Ar y bryncyn i'r gogledd o'r groes hon, saif eglwys ble credir i Oswallt godi ei faner. GoogleMap

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. John Davies, Hanes Cymru (Penguin Books, 1990), tudalen 66.