Llanfair Pwllgwyngyll: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
Tagiau: Golygiad cod 2017
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Golygu cyffredinol (manion) using AWB
Llinell 1: Llinell 1:
[[File:Old Station House 007.jpg|thumb|Old Station House 007]]
[[Delwedd:Old Station House 007.jpg|bawd|Old Station House 007]]
{{infobox UK place
{{infobox UK place
|country = Cymru
|country = Cymru

Fersiwn yn ôl 05:13, 21 Gorffennaf 2018

Old Station House 007
Cyfesurynnau: 53°13′N 4°12′W / 53.22°N 4.20°W / 53.22; -4.20
Llanfair Pwllgwyngyll
Llanfair Pwllgwyngyll is located in Ynys Môn
Llanfair Pwllgwyngyll

 Llanfair Pwllgwyngyll yn: Ynys Môn
Poblogaeth 3,040 (Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001)
Sir Ynys Môn
Sir seremonïol Gwynedd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost LLANFAIRPWLLGWYNGYLL
Rhanbarth cod post LL61
Cod deialu 01248
Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ynys Môn
Cynulliad Cymru Ynys Môn
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ynys Môn

Pentref a chymuned ar Ynys Môn yw Llanfairpwllgwyngyll ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (neu Llanfair Pwllgwyngyll; Llanfairpwll ar lafar yn lleol). Fe'i lleolir ar ffordd yr A5 tua 3 milltir i'r gorllewin o Borthaethwy.

Yr enw

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yw enw gwneud y pentref. [Cyfieithiad i'r Saesneg: 'St Mary's church in the hollow of the white hazel, near to the fierce whirlpool of St Tysilio of the red cave'] Ei enw gwreiddiol oedd Llanfair Pwllgwyngyll ond fe'i estynnwyd gan ddyn lleol yn y 19g, ar ôl i'r rheilffordd gyrraedd yr ynys (1846-1850) i geisio denu twristiaid. Yn ôl Syr John Morris-Jones, teiliwr lleol a ddyfeisiodd yr enw, ond nid yw'n ei enwi. Dyma'r enw hiraf yng Nghymru, a'r trydydd hiraf yn y byd. Does fawr neb ond y Bwrdd Croeso yn defnyddio'r enw hir. Fel arfer mae'r pentref yn cael ei alw yn Llanfairpwll (gan siaradwyr Cymraeg) neu Llanfair PG (gan siaradwyr Saesneg). Pwllgwyngyll oedd enw'r dreflan ganoloesol lle safai'r eglwys yn yr Oesoedd Canol (pwll + yr ansoddair gwyn + coed cyll). Cyfeiria 'Llantysilio' at blwyf eglwysig Llandysilio.

Hanes

Yn yr Oesoedd Canol roedd plwyf (Llanfair) Pwllgwyngyll yn rhan o gwmwd Dindaethwy, yng nghantref Menai.

Yn y pentref hwn y dechreuodd mudiad y Women's Institute yn 1915. Erbyn heddiw mae yna amgueddfa ar y safle [1]

Y pentref

Twristiaid tu allan i'r orsaf yn Llanfairpwll

Mae gorsaf reilffordd yma, ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru, ond mae mwyafrif y trenau yn mynd trwyddo i Gaergybi neu i Fangor heb aros.

Dadl iaith

Yn 2011, roedd Llanfairpwll yn ganolbwynt dadl yngylch yr hawl i siarad Cymraeg ar ôl i berchennog bwyty Carreg Môn yn y pentref wahardd ei staff rhag siarad Cymraeg tra'n gweithio yno, gan ddweud mai dim ond Saesneg y dylent siarad.[2][3]

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfair Pwllgwyngyll (pob oed) (3,107)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair Pwllgwyngyll) (2,171)
  
71.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair Pwllgwyngyll) (2371)
  
76.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfair Pwllgwyngyll) (428)
  
33.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd

Arwydd efo cyfieithiad Saesneg yr enw
Arwydd efo cyfieithiad Saesneg yr enw

Cyfeiriadau

  1. "Amgueddfa'r Toll House". 21/05/2018. Cyrchwyd 21/05/2018. Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  2. Erthygl gwefan Golwg360 - Ffrae iaith Môn: 750 yn ymuno â grŵp protest
  3. Erthygl gwefan BBC
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.