Young Marble Giants: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Manion ac - oddi wrth yn ddau air ayb using AWB |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) →Bandiau Pync-roc eraill o Gymru: Golygu cyffredinol (manion) using AWB |
||
Llinell 79: | Llinell 79: | ||
?item wdt:P136 wd:Q3071 . |
?item wdt:P136 wd:Q3071 . |
||
} |
} |
||
LIMIT 10 |
|||
limit 20 |
|||
|sort=label |
|sort=label |
||
|columns=number:#,label:enw,P18,P740,P373,P136,P264,item:eitem ar WD |
|columns=number:#,label:enw,P18,P740,P373,P136,P264,item:eitem ar WD |
Fersiwn yn ôl 20:27, 18 Gorffennaf 2018
Young Marble Giants |
---|
Roedd y Young Marble Giants yn grŵp new wave o Gaerdydd rhwng 1978 a 1980, gan ail-ffurfio am rhai blynyddoedd yn 2006.
Yr aelodau oedd y gantores Alison Statton gyda'r brodyr Philip a Stuart Moxham ar gitarau. Doedd y band ddim am gael drymiwr felly defnyddiwyd tapiau o beiriant drymiau Peter Joyce a fu hefyd yn aelod yn y dyddiau cynnar . Mae organ trydanol i'w clywed ar rhai o'u caneuon. [1]
Roedd eu sŵn minimalaidd, moel, yn debyg i recordiad demo syml ac yn dra gwahanol i'r steil ymosodol punk ar ddiwedd y 70au. Dywedodd Stuart Moxhan roedd y sŵn y band yn mynd yn erbyn eithafion y cyfnod.
Rhyddhawyd un sesiwn i raglen John Peel ar BBC Radio 1 ac un LP Colossal Youth (ar label Rough Trade) a recordiwyd mewn 5 diwrnod a chymysgwyd mewn 20 munud. [2]
Ni chafodd y band fawr o sylw neu lwyddiant masnachol ar y pryd, ond wnaethon nhw deithiau ar gyfandir Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau.
Mae'r LP Colossal Youth bellach yn cael ei gyfrif fel clasur gan feirniad cerddoriaeth a cherddorion. Er enghraifft dywedodd Kurt Cobain o Nirvana a Gruff Rhys o Super Furry Animals roedd y Young Marble Giants wedi bod yn ddylanwad mawr arnynt. [3]
Discograffi
Recordiau stiwdio
- Colossal Youth (1980)
EPs
- Final Day (1980)
- Testcard E.P. EP (1981)
Byw
- Peel Sessions (1991)
- Live at the Hurrah! (2004)
Aml-gyfrannog
- Salad Days (2000)- fersynnau demo o ganeuon Colossal Youth a Testcard
Oriel
-
Phil a Stuart Moxham
-
Alison Statton, Peter Joyce, Phil a Stuart
-
Stuart ar Rickenbacker a Phil ar fâs Hayman
-
Alison a Peter gyda'r synth
-
Stuart ar Rickenbacker
-
Yng ngŵyl Factory, Nivelles, Gwlad Belg, 2008
Cyfeiriadau
- ↑ Plagenhoef, Scott; Schreiber, Ryan, gol. (November 2008). The Pitchfork 500. Simon & Schuster. t. 43. ISBN 978-1-4165-6202-3.
- ↑ https://www.facebook.com/YoungMarbleGiantsOfficial Young Marble Giants
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=SalY3kgGz_M