Coety: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 17:05, 17 Gorffennaf 2018
Pentref o fewn Cymuned Coety Uchaf yw Coety, a saif ym mwrdesitref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd yma boblogaeth o 2,071 yng Nghyfrifiad 2011. Yn y pentref mae Castell Coety, lle bu'r fyddin Gymreig, dan arweiniad y Tywysog Owain Glyn Dŵr yn gwarchae am dros flwyddyn a thri mis; yma hefyd y defnyddiwyd powdwr gwn yng Nghymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddus.
Mae'r hen eglwys, y Santes Fair, yn dyddio i'r 14g.[1] Ceir yma hefyd heneb llawer hynach, sef siambr gladdu ger coedwig Coed Parc Garw. Ceir carreg draws sy'n gwyro i fyny rhyw ychydig a nifer o gerrig llai sy'n ei gynnal.[2]
Saif Mynydd Coety (y ffin) gerllaw, gyda'i gopa'n ffin rhwng Castell-nedd a Chas-gwentcyfeiriad grid SO232080.
Cyfeiriadau
- ↑ Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru. Caerdydd: University of Wales Press. t. 160. ISBN 978-0-7083-1953-6.
- ↑ Daniel, Glynn (1950). The prehistoric chamber tombs of England and Wales. Cambridge: Cambridge University Press. t. 210.