Penllyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Nodyn
Llinell 1: Llinell 1:
{{Nodyn:Teyrnasoedd Cym}}
:''Erthygl am yr ardal yng Ngwynedd yw hon. Am y pentref ym Mro Morgannwg gweler [[Pen-llin]] (Penllyn).''
:''Erthygl am yr ardal yng Ngwynedd yw hon. Am y pentref ym Mro Morgannwg gweler [[Pen-llin]] (Penllyn).''
'''Penllyn''' yw'r ardal sydd o gwmpas [[Llyn Tegid]] a'r [[Y Bala|Bala]] ym [[Meirionnydd]] (de-ddwyrain [[Gwynedd]]). Mae'n cynnwys plwyfi [[Llandderfel]], [[Llanfor]], [[Llangywair]], [[Llanycil]] a [[Llanuwchllyn]]. Mae Penllyn yn ardal sy'n enwog am ei chyfraniad i ddiwylliant Cymru a [[llenyddiaeth Gymraeg]]. Dyma ardal "[[Y Pethe]]", chwedl [[Llwyd o'r Bryn]].

Fersiwn yn ôl 16:49, 27 Mehefin 2009

Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)
Erthygl am yr ardal yng Ngwynedd yw hon. Am y pentref ym Mro Morgannwg gweler Pen-llin (Penllyn).

Penllyn yw'r ardal sydd o gwmpas Llyn Tegid a'r Bala ym Meirionnydd (de-ddwyrain Gwynedd). Mae'n cynnwys plwyfi Llandderfel, Llanfor, Llangywair, Llanycil a Llanuwchllyn. Mae Penllyn yn ardal sy'n enwog am ei chyfraniad i ddiwylliant Cymru a llenyddiaeth Gymraeg. Dyma ardal "Y Pethe", chwedl Llwyd o'r Bryn.

Cantref Penllyn

Yn Oes y Tywysogion cantref oedd Penllyn. Cynhelid ei lys yn Nhgaer Gai, ger Llyn Tegid, ond yn ddiweddarach fe'i symudwyd i'r Bala. Roedd yn gantref ar y ffin rhwng teyrnas Gwynedd a Phowys. Ymddengys iddo ddechrau fel arglwyddiaeth annibynnol. Cysylltir yr arwr chwedlonol Gronw Pebyr â Phenllyn ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi. Aeth yn rhan o deyrnas Powys yn y cyfnod cynnar. Roedd yn fan o bwys strategol yn gorwedd rhwng Ardudwy a Meirionnydd yn y gorllewin a Glyndyfrdwy yn y dwyrain a cheisiai tywysogion Gwynedd sicrhau meddiant arno er mwyn amddiffyn Gwynedd o ymosodiadau o du Powys a'r dwyrain. Fe'i cipiwyd yn derfynol gan Llywelyn Fawr ar ddechrau'r 13eg ganrif. Ar ôl goresgyniad 1284 fe'i unwyd â Meirionnydd ac Ardudwy i greu Sir Feirionnydd.

Ymrennid Penllyn yn ddau gwmwd:

Rhai o enwogion Penllyn

Darllen pellach

  • Geraint Bowen, Penllyn (1967)
  • Elwyn Edwards, Blodeugerdd Penllyn (1983)