Edward Tegla Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Dolennau allanol: rhyngwici Ffrangeg |
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Gwybodlen awdur |
|||
[[Delwedd:Tegla_01.JPG|200px|bawd|Edward Tegla Davies]] |
|||
| name = Edward Tegla Davies |
|||
| delwedd = Tegla_01.JPG |
|||
| maintdelwedd = 200px |
|||
| pennawd = Edward Tegla Davies |
|||
| ffugenw = |
|||
| enwgeni = Edward Tegla Davies |
|||
| dyddiadgeni = [[1880]] |
|||
| mangeni = [[Llandegla-yn-Iâl]], [[Sir Ddinbych]], [[Cymru]] |
|||
| dyddiadmarw = 9 Hydref, 1967 |
|||
| manmarw = |
|||
| galwedigaeth = [[Nofelydd]], [[bardd]] |
|||
| cenedligrwydd = |
|||
| ethnigrwydd = |
|||
| dinasyddiaeth = |
|||
| addysg = [[Ysgol Dr Williams]], [[Dolgellau]]. |
|||
| alma_mater = |
|||
| cyfnod = |
|||
| genre = Nofelau i blant, straeon byrion, ysgrifau |
|||
| pwnc = |
|||
| symudiad = |
|||
| gwaithnodedig = [[Gŵr Pen y Bryn]], [[Y Llwybr Arian]]'' |
|||
| priod = |
|||
| cymar = |
|||
| plant = |
|||
| perthnasau = |
|||
| dylanwad = |
|||
| wedidylanwadu = |
|||
| gwobrau = |
|||
| llofnod = |
|||
| gwefan = |
|||
}} |
|||
[[Llenyddiaeth Gymraeg|Llenor yn yr iaith Gymraeg]], a anwyd yn [[Llandegla-yn-Iâl]] yn yr hen [[Sir Ddinbych]], yn fab i chwarelwr ([[1880]] - [[9 Hydref]], [[1967]]) oedd '''Edward Tegla Davies'''. Fel ''Tegla'' roedd yn cael ei adnabod gan bawb. |
[[Llenyddiaeth Gymraeg|Llenor yn yr iaith Gymraeg]], a anwyd yn [[Llandegla-yn-Iâl]] yn yr hen [[Sir Ddinbych]], yn fab i chwarelwr ([[1880]] - [[9 Hydref]], [[1967]]) oedd '''Edward Tegla Davies'''. Fel ''Tegla'' roedd yn cael ei adnabod gan bawb. |
||
Fersiwn yn ôl 18:32, 20 Mehefin 2009
Edward Tegla Davies | |
---|---|
Geni | Edward Tegla Davies 1880 Llandegla-yn-Iâl, Sir Ddinbych, Cymru |
Marw | 9 Hydref, 1967 |
Galwedigaeth | Nofelydd, bardd |
Addysg | Ysgol Dr Williams, Dolgellau. |
Gwaith nodedig | Gŵr Pen y Bryn, Y Llwybr Arian |
Llenor yn yr iaith Gymraeg, a anwyd yn Llandegla-yn-Iâl yn yr hen Sir Ddinbych, yn fab i chwarelwr (1880 - 9 Hydref, 1967) oedd Edward Tegla Davies. Fel Tegla roedd yn cael ei adnabod gan bawb.
Bywyd
Magwyd Tegla yn ei bentref genedigol ac yno y cafodd ei addysg gynnar. Cafodd cymdeithas Gymraeg glos a natur ddeniadol ei gynefin effaith amlwg ar ei waith llenyddol a'i agwedd at fywyd yn gyffredinol. Aeth i Goleg Didsbury, Manceinion ar ôl cyfnod o 4 mlynedd yn ddisgybl-athro a 3 fel athro cynorthwyol yn Ysgol Bwlchgwyn, ei hen ysgol, a gwasanaethodd fel gweinidog Wesleaidd am weddill ei oes. Crwydrodd o gylchdaith i gylchdaith yn ystod ei weinidogaeth, fel oedd arferol i weinidogion Wesleiaidd, ac roedd yn bregethwr dylanwadol. Roedd yn ysgrifennydd cyson i'r wasg Gymraeg ac yn olygydd ar Y Winllan (1920-1928), cylchgrawn y Wesleaid, ac Yr Efrydydd (1931-1935). Golygodd Gyfres Pobun am gyfnod yn ogystal. Roedd yn adnabod nifer o lenorion eraill yng Nghymru ac yn gyfaill agos i T. Gwynn Jones ac Ifor Williams.
Gwaith Llenyddol
Ysgrifenodd ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd ac mae ei waith yn cynnwys nofelau, sawl cyfrol o straeon byrion, ysgrifau a hunangofiant. Mae ei arddull yn rhwydd ac agos-atoch ac mae ei gydymdeimlad cynhenid â phlant a byd natur yn elfen amlwg yn ei waith.
Llyfrau i blant yn bennaf
- Hunangofiant Tomi (Bangor, 1912)
- Tir Y Dyneddon (Caerdydd a Wrecsam, 1921)
- Nedw (Wrecsam, 1922)
- Rhys Llwyd Y Lleuad (Wrecsam, 1925)
- Hen Ffrindiau (Wrecsam, 1927)
- Y Doctor Bach (Wrecsam, 1930)
- Stori Sam (1938)
Llyfrau eraill
- Gŵr Pen y Bryn (Wrecsam, 1923). Nofel.
- Y Llwybr Arian (Wrecsam, 1934). Straeon.
- Gyda'r Glannau (Llandybïe, 1941). Nofel fer.
- Rhyfedd o Fyd (1950). Ysgrifau.
- Y Foel Faen (Lerpwl, 1951). Ysgrifau.
- Gyda'r Blynyddoedd (1951). Hunangofiant.
- Ar Ddisberod (1954). Ysgrifau.
- Yr Hen Gwpan Cymun (1961). Pregethau.
Llyfryddiaeth
- Pennar Davies, Edward Tegla Davies, yn y gyfres Writers of Wales (1983)
- Islwyn Ffowc Ellis, Dirgelwch Tegla (1977)
- Islwyn Ffowc Ellis (gol.), Edward Tegla Davies, Llenor a Phroffwyd (1956)
- Huw Ethall, Cofiant Tegla (1980)
- Mairwen a Gwynn Jones (gol.), Dewiniaid Difyr (Llandysul, 1983). Ysgrif ar Degla gan Dyddgu Owen, tt.97-103. ISBN 0850887372
- R.M. Jones, Llenyddiaeth Gymraeg 1902-1936 (Cyhoeddiadau Barddas, 1987). Pennod 41: "Tegla a Phlant".
Dolennau allanol