Kenny Jackett: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
}} |
}} |
||
Hyfforddwr a chyn-chwaraewr [[pêl-droed]] yw '''Kenny Jackett''' (ganwyd 5 Ionawr 1962). Cafodd ei eni yn [[Watford]], [[Lloegr]]. Chwaraeodd dros [[Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru|Gymru]] am fod ei dad wedi'i eni yno. Bu'n chwarae i |
Hyfforddwr a chyn-chwaraewr [[pêl-droed]] yw '''Kenny Jackett''' (ganwyd 5 Ionawr 1962). Cafodd ei eni yn [[Watford]], [[Lloegr]]. Chwaraeodd dros [[Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru|Gymru]] am fod ei dad wedi'i eni yno. Bu'n chwarae i [[Watford F.C.|Watford]] trwy gydol ei yrfa, nes i'w yrfa ddod i ben o ganlyniad i anaf. |
||
==Ei yrfa fel chwaraewr== |
==Ei yrfa fel chwaraewr== |
Fersiwn yn ôl 08:36, 19 Mehefin 2009
Manylion Personol | ||
---|---|---|
Enw llawn | Kenneth Francis Jackett | |
Dyddiad geni | 5 Ionawr 1962 | |
Man geni | Watford, Lloegr, Lloegr | |
Manylion Clwb | ||
Clwb Presennol | Millwall | |
Clybiau | ||
Blwyddyn |
Clwb |
Ymdd.* (Goliau) |
1980-1990 | Watford | 335 (25) |
Tîm Cenedlaethol | ||
1983-1988 | Cymru | 31 (0) |
Clybiau a reolwyd | ||
1996-1997 2004-2007 2007- |
Watford Dinas Abertawe Millwall | |
1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn |
Hyfforddwr a chyn-chwaraewr pêl-droed yw Kenny Jackett (ganwyd 5 Ionawr 1962). Cafodd ei eni yn Watford, Lloegr. Chwaraeodd dros Gymru am fod ei dad wedi'i eni yno. Bu'n chwarae i Watford trwy gydol ei yrfa, nes i'w yrfa ddod i ben o ganlyniad i anaf.
Ei yrfa fel chwaraewr
Chwaraeodd fel amddiffynnwr ac yng nghanol y cae. Llwyddodd Jackett i fod yn rhan o dîm cyntaf Watford ar ddiwedd tymor 1979-80. Yn ystod y 1980au, helpodd y tîm i ddod yn ail yn yr hen Adran Gyntaf, yn ogystal ag ymddangos yn Rownd Derfynol Cwpan yr FA ym 1984. Cafodd 31 cap am chwarae dros Gymru.
Daeth ei yrfa i ben yn annisgwyl, pan achosodd anaf difrifol i'w benglin iddo orfod ymddeol ym 1990, pan oedd ond yn 28 oed. Pe na bai wedi ei anafu, mae'n debygol y byddai wedi cipio'r teitl am y chwaraewr a chwaraeodd fwyaf erioed i dîm Watford - teitl sydd gan Luther Blissett ar hyn o bryd.
Ei yrfa fel rheolwr
Yn dilyn amser gyda thîm rheoli Watford a QPR fe'i benodwyd yn rheolwr Dinas Abertawe yn 2004. Ar ôl tair blynedd, dewisodd Jackett adael y clwb. Ers 2007 mae wedi bod yn rheolwr Millwall.
Ystadegau fel rheolwr
Diweddarwyd diwethaf 30 Rhagfyr 2008
Tîm | Cen | O | Tan | Record | ||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
G | W | L | D | Ennill % | ||||
Watford | Mehefin 1996 | Mehefin 1997 | 57 | 22 | 19 | 16 | 38.6 | |
Dinas Abertawe | 5 Ebrill 2004 | 15 Chwefror 2007 | 163 | 75 | 48 | 48 | 46.01 | |
Millwall | 6 Tachwedd 2007 | Presennol | 63 | 29 | 22 | 12 | 46.03 |