Carreg Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
== Hanes a thraddodiad == |
== Hanes a thraddodiad == |
||
Ni wyddys os ydyw'r stori |
Ni wyddys os ydyw'r stori amdani yn wir neu beidio am fod hanes cynnar y garreg yn ddirgelwch, ond mae gan y garreg hanes a thraddodiad hir. Ers canrifoedd mae wedi cael ei ystyried yn ganolog i fodolaeth Llundain ei hun. Byddai pobl yn trafod busnes a thyngu llwon yno. Roedd datganiadau swyddogol yn cael eu cyhoeddi yno hefyd. Dywedir fod [[Jack Cade]], arweinydd gwrthryfel y werin yn erbyn [[Harri VI o Loegr]] yn 1450, wedi taro ei gleddyf ar y garreg fel symbol o sofraniaeth pan gyrhaeddodd ei luoedd y ddinas; ar ôl gwneud hynny, cyhoeddodd ei hun yn "Arglwydd y Ddinas". |
||
Symudwyd y garreg o'i safle gwreiddiol yng nghanol Stryd Canon. Dywedir ei fod yn garreg fwy sylweddol yn y gorffennol. Cafodd ei gosod ym mur Eglwys St Swithin a goroesodd fomio'r eglwys honno yn yr Ail Ryfel Byd, heb niwed. |
Symudwyd y garreg o'i safle gwreiddiol yng nghanol Stryd Canon. Dywedir ei fod yn garreg fwy sylweddol yn y gorffennol. Cafodd ei gosod ym mur Eglwys St Swithin a goroesodd fomio'r eglwys honno yn yr Ail Ryfel Byd, heb niwed. |
Fersiwn yn ôl 20:08, 17 Mehefin 2009
Carreg hynafol yn Llundain yw Carreg Llundain (Saesneg: London Stone), y dywedir y defnyddiai'r Rhufeiniaid hi fel y man cychwyn i fesur pob pellter yn nhalaith Britannia. Mae wedi'i gosod o fewn fframwaith carreg gyda gril haearn arno ar fur adeilad siop yn Stryd Cannon, yn Ninas Llundain.
Hanes a thraddodiad
Ni wyddys os ydyw'r stori amdani yn wir neu beidio am fod hanes cynnar y garreg yn ddirgelwch, ond mae gan y garreg hanes a thraddodiad hir. Ers canrifoedd mae wedi cael ei ystyried yn ganolog i fodolaeth Llundain ei hun. Byddai pobl yn trafod busnes a thyngu llwon yno. Roedd datganiadau swyddogol yn cael eu cyhoeddi yno hefyd. Dywedir fod Jack Cade, arweinydd gwrthryfel y werin yn erbyn Harri VI o Loegr yn 1450, wedi taro ei gleddyf ar y garreg fel symbol o sofraniaeth pan gyrhaeddodd ei luoedd y ddinas; ar ôl gwneud hynny, cyhoeddodd ei hun yn "Arglwydd y Ddinas".
Symudwyd y garreg o'i safle gwreiddiol yng nghanol Stryd Canon. Dywedir ei fod yn garreg fwy sylweddol yn y gorffennol. Cafodd ei gosod ym mur Eglwys St Swithin a goroesodd fomio'r eglwys honno yn yr Ail Ryfel Byd, heb niwed.
Cysylltir y garreg â diogelwch dinas Llundain ei hun; yn ôl yr hen ddihareb, "So long as the stone of Brutus is safe, so long shall London flourish".[1] Cyfeiriad yw hyn at y chwedl am sefydlu Llundain ('Caerdroia Newydd') gan Frutus, yn ôl yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy; daeth pobl i gredu fod y garreg yn perthyn i'r allor a gododd Brutus yn Llundain, yn ôl y ffug-hanes.
Yn ddiweddar, penderfynwyd dymchwel yr adeilad a bu dyfodol y garreg yn ansicr. Bwriedir ei diogelu dros dro yn Amgueddfa Llundain.