Cymraeg Canol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
sillafu brenin
Llinell 36: Llinell 36:
=== Cystrawen ===
=== Cystrawen ===


Fel yn y Gymraeg gyfoes ysgrifenedig, yn Gymraeg Canol nid y drefn "berf-goddrych-gwrthrych" (''Gwelodd y brenhin gastell'') a gafodd yn unig, ond y drefn afreolaidd a'r drefn gymysg hefyd (''Y brenhin a welodd gastell''). Awgrymai'r drefn gymysg bwyslais ar y goddrych. Y gwahân rwhng y ddwy oedd hynny: daeth yr elfen negyddol ''ny'' o flaen y goddrych yn y drefn gymysg (felly, buasai ''Ny urenhin a welodd gastell'' yn golygu 'Nid y brenin a welodd y castell') ond o flaen y ferf yn y drefn afreolaidd (felly, ''Brenhin ny welodd gastell'' = ''Welodd y brenin ddim castell'').
Fel yn y Gymraeg gyfoes ysgrifenedig, yn Gymraeg Canol nid y drefn "berf-goddrych-gwrthrych" (''Gwelodd y brenin gastell'') a gafodd yn unig, ond y drefn afreolaidd a'r drefn gymysg hefyd (''Y brenhin a welodd gastell''). Awgrymai'r drefn gymysg bwyslais ar y goddrych. Y gwahân rwhng y ddwy oedd hynny: daeth yr elfen negyddol ''ny'' o flaen y goddrych yn y drefn gymysg (felly, buasai ''Ny urenhin a welodd gastell'' yn golygu 'Nid y brenin a welodd y castell') ond o flaen y ferf yn y drefn afreolaidd (felly, ''Brenhin ny welodd gastell'' = ''Welodd y brenin ddim castell'').


== Llyfryddiaeth ==
== Llyfryddiaeth ==

Fersiwn yn ôl 11:59, 17 Mehefin 2009

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu


Mae Cymraeg Canol yn enw ar gyfnod yn hanes yr iaith Gymraeg a estynnodd o'r 12fed i'r 14eg ganrif. Mae llawer o lawysgrifau ar gael o'r cyfnod hwn, gan gynnwys Llyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Du Caerfyrddin a thestunau Gyfraith Hywel Dda.

Nid llên tradoddiadol yn unig a ysgrifennid yng nghyfnod Cymraeg Canol — mae yn y llawysgrifau lawer o gyfieithiadau o ieithoedd eraill fel y Ffrangeg a'r Lladin.

Gellir gwahaniaethu rhwng Cymraeg Canol Cynnar a Chymraeg Canol Diweddar. Mae'r testunau hynaf, e. e. rhai y Cynfeirdd, yn perthyn i gyfnod Hen Gymraeg, ond wedi cael nodweddion yr iaith ddiweddaraf yn ystod eu trosglwyddo, ac felly mae rhaid gwahaniaethu rhwng y ddwy elfen.

Mewn Cymraeg Canol yr ysgrifenwyd Pedair Cainc y Mabinogi a chwedlau eraill sy'n ymwneud â'r Brenin Arthur a'i gylch, sef Y Tair Rhamant a Culhwch ac Olwen, ynghyd â chwedlau brodorol fel Breuddwyd Macsen a Cyfranc Lludd a Llefelys.

Orgraff

Doedd dim orgraff safonol yng nghyfnod Cymraeg Canol fel yn yr iaith gyfoes. Dyma rai nodweddion amgen orgaff Cymraeg Canol nad ydynt yn bresennol yn yr iaith heddiw:

  • Defnyddir k a c ill dau am y son [k] (dim ond c sydd yn Gymraeg Cyfoes).
  • Ni nodir y treiglad meddal a newidiadau cytseiniad rhwng llafariaid sydd wedi darfod yn y Frythoneg (gw. yr erthygl yma)
  • Does dim modd safonol i nodi'r treiglad trwynol: gellir gweld sillafiadau fel yg gwlad, y ngwlad a.y.y.b.
  • Gall y llythyren u olygu f heddiw, yn arbennig rhwng llafariaid, felly ystauell, niuer. Defnyddiwyd y llythyren f am y ff heddiw.

Gramadeg

Seineg a seinyddiaeth

Gellir derbyn bod seiniau Cymraeg Canol yn debyg i seiniau Cymraeg Modern. Yr unig eithriad ydy'r sain a ysgrifennir fel u: [ü] sain fel a geir yn yr Almaeneg neu'r Ffrangeg oedd hynny, nid sain [ɨ], [i] y tafodieithoedd cyfoes.

Mewn rhai testunau Cymraeg Canol gwelir nodweddion tafodieithol sy'n debyg i'r rheini a geir heddiw: e. e. gall y sain [j] gael ei gholli rhwng cytsain a llafariad, fel mewn llawer o dafodieithoedd y De. Gall [x] (ch) gael ei newid i [h] hefyd.


Morffoleg

Mae Cymraeg Canol yn nes i'r hen ieithoedd Celtaidd eraill, e. e. Hen Wyddeleg, yn ei morffoleg. Er enghraifft, ceir y terfyniadau -wŷs, -ws, -es, -as , ar gyfer y trydydd person unigol amser gorffennol mewn Cymraeg Canol yn ogystal â'r ffurf –odd. Ceir hefyd ffurf 3 un gorffennol kigleu o'r ferf clywed, sydd yn hynafol iawn ac yn cyfateb i'r Hen Wyddeleg -cúala o'r ferf ro-cluinethar, 'clywodd'.

Ceir yn Gymraeg Canol mwy o ffurfiau lluosog i'r ansoddeiriau nac yn yr iaith gyfoes, e. e. cochion.

Roedd terfyniad lluosog enwol -awr yn gyffredin iawn yn Gymraeg Canol, ond cafodd ei ddisodli gan y terfyniad -au.

Cystrawen

Fel yn y Gymraeg gyfoes ysgrifenedig, yn Gymraeg Canol nid y drefn "berf-goddrych-gwrthrych" (Gwelodd y brenin gastell) a gafodd yn unig, ond y drefn afreolaidd a'r drefn gymysg hefyd (Y brenhin a welodd gastell). Awgrymai'r drefn gymysg bwyslais ar y goddrych. Y gwahân rwhng y ddwy oedd hynny: daeth yr elfen negyddol ny o flaen y goddrych yn y drefn gymysg (felly, buasai Ny urenhin a welodd gastell yn golygu 'Nid y brenin a welodd y castell') ond o flaen y ferf yn y drefn afreolaidd (felly, Brenhin ny welodd gastell = Welodd y brenin ddim castell).

Llyfryddiaeth

Gramadegau

  • D. Simon Evans Gramadeg Cymraeg Canol (yn Saesneg: A Grammar of Middle Welsh)

Astudiaethau a llyfrau eraill

  • Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Caerdydd)