Llanfair Pwllgwyngyll: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: fy:Llanfair PG
Llinell 43: Llinell 43:
[[fi:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]]
[[fi:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]]
[[fr:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]]
[[fr:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]]
[[fy:Llanfair PG]]
[[hi:ख़्लानवाइरपुख़्लग्विनगिख़्लगोगेरअख़्वर्नड्रोबुख़्लख़्लानटिसिल्योगोगोगोख़]]
[[hi:ख़्लानवाइरपुख़्लग्विनगिख़्लगोगेरअख़्वर्नड्रोबुख़्लख़्लानटिसिल्योगोगोगोख़]]
[[hr:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]]
[[hr:Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch]]

Fersiwn yn ôl 05:12, 16 Mehefin 2009

Llanfairpwll
Ynys Môn

Pentref ar Ynys Môn yw Llanfair Pwllgwyngyll (neu Llanfairpwllgwyngyll; Llanfairpwll ar lafar yn lleol). Fe'i lleolir ar ffordd yr A5 tua 3 milltir i'r gorllewin o Borthaethwy. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o cwmwd Dindaethwy, cantref Menai.

Yr enw

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yw enw gwneud y pentref. Ei enw gwreiddiol oedd Llanfair Pwllgwyngyll ond fe'i estynwyd gan ddyn lleol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar ôl i'r rheilffordd gyrraedd yr ynys (1846-1850) i geisio denu twristiaid. Yn ôl Syr John Morris-Jones, teiliwr lleol a ddyfeisiodd yr enw, ond nid yw'n ei enwi. Dyma'r enw hiraf yng Nghymru, a'r trydydd hiraf yn y byd. Does fawr neb ond y Bwrdd Croeso yn defnyddio'r enw hir. Fel arfer mae'r pentref yn cael ei alw yn Llanfairpwll (gan siaradwyr Cymraeg) neu Llanfair PG (gan siaradwyr Saesneg). Pwllgwyngyll oedd enw'r dref ganoloesol lle safai'r eglwys yn yr Oesoedd Canol (pwll + yr ansoddair gwyn + coed cyll).

Y pentref

Twristiaid tu allan i'r orsaf yn Llanfairpwll

Mae gorsaf reilffordd yma, ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru, ond mae mwyafrif y trenau yn mynd trwyddo i Gaergybi neu i Fangor heb aros.

Ceir gwybodaeth am drenau a thocynnau rheilffordd i Lanfairpwll ar linell Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol (08457 484950).

Yn y pentref hwn y dechreuodd mudiad y Women's Institute yn 1915.

Atyniadau yn y cylch

Arwydd efo cyfieithiad Saesneg yr enw
Arwydd efo cyfieithiad Saesneg yr enw

Cysylltiadau allanol