Rheged: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: es:Rheged |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd llinach arall yn disgyn o frawd Cynfarch, Elidir Lydanwyn; ei fab ef oedd [[Llywarch Hen]]. |
Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd llinach arall yn disgyn o frawd Cynfarch, Elidir Lydanwyn; ei fab ef oedd [[Llywarch Hen]]. |
||
Wedi i deynasoedd [[Eingl-Sacsoniaid| Eingl-Sacsoniaid]] [[Brynaich]] a [[Deifr]] uno I ddod yn deyrnas [[Northumbria]], meddiannwyd Rheged gan Northumbria rywbryd cyn [[730]]. Cofnodir priodas rhwng [[ |
Wedi i deynasoedd [[Eingl-Sacsoniaid| Eingl-Sacsoniaid]] [[Brynaich]] a [[Deifr]] uno I ddod yn deyrnas [[Northumbria]], meddiannwyd Rheged gan Northumbria rywbryd cyn [[730]]. Cofnodir priodas rhwng [[Oswy|Oswy, brenin Northumbria]] a thywysoges o Rheged tua [[638]], ac efallai iddo etifeddu’r deyrnas o ganlyniad i’r briodas yma. |
||
Rhoddwyd enw’r deyrnas I’r ''Rheged Discovery Centre'' gerllaw [[Penrith, Cumbria|Penrith]], [[Cumbria]]. Mae’r enw ''Cumbria'' ei hun yn dod o’r un gwreiddyn |
Rhoddwyd enw’r deyrnas I’r ''Rheged Discovery Centre'' gerllaw [[Penrith, Cumbria|Penrith]], [[Cumbria]]. Mae’r enw ''Cumbria'' ei hun yn dod o’r un gwreiddyn â ''Chymry''. |
||
Fersiwn yn ôl 05:00, 15 Mehefin 2009
Roedd Rheged yn deyrnas Frythonig yn Yr Hen Ogledd oddeutu’r 6ed ganrif. Ymddengys mai Caerliwelydd oedd canolfan y deyrnas, ac roedd yn ymestyn dros ran sylweddol o’r hyn sy’n awr yn ogledd-orllewin Lloegr ac efallai dros ran o dde-orllewin Yr Alban.
Mae cyfeiriadau at Rheged ym marddoniaeth Taliesin, sy’n cynnwys cerddi i frenin Rheged, Urien Rheged, ac i’w fab Owain fab Urien. Disgrifir Urien fel arglwydd Llwyfenydd (dyffryn Afon Lyvennet heddiw), ac hefyd fel arglwydd Catraeth.
Roedd brenhinoedd Rheged yn cynnwys:
- Meirchion Gul
- Cynfarch Oer
- Urien Rheged neu Urien ap Cynfarch
- Owain ab Urien
Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd llinach arall yn disgyn o frawd Cynfarch, Elidir Lydanwyn; ei fab ef oedd Llywarch Hen.
Wedi i deynasoedd Eingl-Sacsoniaid Brynaich a Deifr uno I ddod yn deyrnas Northumbria, meddiannwyd Rheged gan Northumbria rywbryd cyn 730. Cofnodir priodas rhwng Oswy, brenin Northumbria a thywysoges o Rheged tua 638, ac efallai iddo etifeddu’r deyrnas o ganlyniad i’r briodas yma.
Rhoddwyd enw’r deyrnas I’r Rheged Discovery Centre gerllaw Penrith, Cumbria. Mae’r enw Cumbria ei hun yn dod o’r un gwreiddyn â Chymry.