Cwtiad llwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: cs:Kulík bledý
Almabot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: br:Morlivid-aod
Llinell 29: Llinell 29:
[[Categori:Adar]]
[[Categori:Adar]]


[[br:Morlivid-aod]]
[[ca:Pigre gris]]
[[ca:Pigre gris]]
[[cs:Kulík bledý]]
[[cs:Kulík bledý]]

Fersiwn yn ôl 13:12, 14 Mehefin 2009

Cwtiad Llwyd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Charadriidae
Genws: Pluvialis
Rhywogaeth: P. squatarola
Enw deuenwol
Pluvialis squatarola
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Cwtiad Llwyd (P. squatarola) yn aelod o deulu'r rhydyddion.

Yn y tymor nythu mae'n aderyn tarawiadol dros ben, gyda smotiau du a gwyn ar y cefn a rhan uchaf yr adenydd a'r wyneb, y fron a'r bol yn ddu. Yn y gaeaf mae'r fron a'r bol yn troi'n wyn ac mae'n haws ei gymysgu gyda'r Cwtiad Aur, ond mae pig y Cwtiad Aur yn llai ac hyd yn oed yn y gaeaf mae rhywfaint o liw aur ar y cefn, sy'n absennol yn y Cwtiad Llwyd. Os oes amheuaeth y peth gorau i'w wneud yw disgwyl i'r aderyn hedfan. Mae gan y Cwtiad Llwyd ddarn du amlwg ar ei gesail tra mae'r Cwtiad Aur yn wyn yma.

Cwtiad Llwyd yn ei blu gaeaf

Mae'n nythu ar rostir agored ar ynysoedd yn yr Arctig o ogledd Canada i ogledd-ddwyrain Rwsia. Adeiledir y nyth ar lawr. Mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf cyn belled a de Ewrop a gogledd Affrica, De America cyn belled i'r de a'r Ariannin ac Awstralia.

Yn wahanol i lawer o rydyddion, nid ydynt yn gwthio'r pig i'r mwd i chwilio am fwyd, yn hytrach maent yn cerdded o gwmpas i chwilio am unrhyw pryfed neu anifeiliaid bach sydd i'w gweld ar yr wyneb. Maent yn bwydo ar fwd ger glan y môr fel rheol.

Nid yw'r Cwtiad Llwyd yn nythu yng Nghymru, ond mae cryn nifer yn treulio'r gaeaf yma.